5. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Las

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:07, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle heddiw i gyflwyno’r ddadl hon ar yr economi las yng Nghymru, ynghyd â Jayne Bryant, Lee Waters, Angela Burns, Rhun ap Iorwerth a Simon Thomas. Mae’r ‘economi las’ yn cyfeirio at ystod eang o weithgareddau economaidd sy’n gysylltiedig â’n moroedd—yn cynnwys ynni morol adnewyddadwy, cludiant morol, porthladdoedd, twristiaeth a chwaraeon morol, pysgota a dyframaethu, biotechnoleg, peirianneg a gweithgynhyrchu morol. Mae Cymru’n genedl arfordirol ac mae’r moroedd eisoes yn rhan bwysig o’n heconomi. Mae gennym sector dyframaethu sy’n tyfu, gan gynnwys y bysgodfa cregyn gleision fwyaf ym Mhrydain. Mae gennym ddatblygiadau ynni adnewyddadwy morol arloesol, gan gynnwys morlyn llanw bae Abertawe. Mae gennym dwristiaeth arfordirol sylweddol, a llwybr yr arfordir gwych, ac rwy’n siŵr y byddwn yn clywed mwy am y rhain yn nes ymlaen yn y ddadl heddiw.

Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod gweithgarwch economaidd yr economi forol Cymru oddeutu £2.1 biliwn o werth ychwanegol gros, sy’n cynnal 31,000 o swyddi uniongyrchol a 56,000 o swyddi anuniongyrchol. Mae’n werth nodi bod y Llywodraeth o’r farn fod y ffigurau hyn yn amcangyfrif rhy isel, ac wrth gwrs, mewn sawl ystyr, mae’r sector yn dal yn ifanc iawn. Mae economïau morol o bob maint ledled y byd yn troi at eu moroedd i ategu twf sy’n arafu yn eu heconomïau daearol. Bellach, mae Tsieina, sydd hefyd yn cyhoeddi ffigurau cynnyrch morol crynswth ynghyd â ffigurau cynnyrch domestig gros yn credu bod ei heconomi forol yn 10 y cant o’r cynnyrch domestig gros. Mae’r economi las yn gyfle, wrth gwrs, i’n cymunedau arfordirol, ond gadewch i ni fod yn glir: mae hefyd yn gyfle i’n cymunedau mewndirol ledled Cymru, a byddwn yn adleisio galwadau gan fy awdurdod lleol, Castell-nedd Port Talbot, y dylai caffael yn yr economi las gynnwys cymalau budd cymdeithasol, gyda rhwymedigaethau o ran recriwtio, sgiliau, a hyfforddi, yn ogystal â thargedau ar gyfer cyrchu lleol. Ond mae’r economi las yn fwy na dim ond y môr neu’r economi forol. Mae’r term ei hun, yr economi las, yn deillio o’r mudiad gwyrdd ehangach a chydnabyddiaeth gynyddol o’r difrod i ecosystemau morol o orbysgota, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Felly, mae cynaliadwyedd wrth galon yr economi las. Gwelodd adolygiad diweddar gan y cyfnodolyn ‘The Economist’ o gynlluniau twf glas gwahanol wledydd, gan gynnwys rhai’r UE, fod egwyddor cynaliadwyedd mewn perygl o golli ei lle fel prif flaenoriaeth. Yng ngeiriau ‘The Economist’, mae’n ymddangos yn glir nad yw’r elfen cadwraeth neu gynaliadwyedd yn brif nod na hyd yn oed o reidrwydd yn nod yn y pen draw.

Mae’r economi las yn ymwneud â datblygu defnydd economaidd o’r môr o fewn gallu hirdymor y môr i gynnal hynny ac i gadw’n iach, a dim mwy na hynny. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei osgoi yw darlunio gweithgarwch economaidd confensiynol fel gweithgarwch glas lle y mae’r ymrwymiad i gynaliadwyedd yn arwynebol neu’n ôl-ystyriaeth. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gadw egwyddorion cynaliadwyedd wrth wraidd ei pholisi ar yr economi las.

Ond ar yr ochr arall i’r geiniog i gynaliadwyedd ceir arloesedd. Mae’n rhaid i fflyd pysgota â threillrwydi y DU heddiw weithio 17 gwaith yn galetach i ddal yr un faint o bysgod ag y gwnâi yn 1889. Felly, nid yw camau mawr ymlaen mewn technoleg hyd yn oed yn gallu dal i fyny gyda graddau’r gorbysgota sy’n digwydd. Mae rôl ymchwil arloesol y sector addysg uwch yng Nghymru yn hanfodol i’r math o arloesi sy’n ganolog i ddyfodol ein heconomi las. Mae’r rhan fwyaf o’n prifysgolion, wrth gwrs, wedi’u lleoli ger yr arfordir, a llawer o’n hymchwil forol o’r safon orau, ond mae Dr Ian Masters o Brifysgol Abertawe wedi bwrw amcan fod gan grŵp ymchwil forol prifysgol Caeredin fwy o gapasiti ymchwil yn ôl pob tebyg na’r hyn a geir yng Nghymru gyfan. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn os nad ydym am lusgo ar ôl yr Alban ac Iwerddon yn arbennig. Dylai ymchwil gael ei harwain gan y diwydiant wrth gwrs, ond hefyd mae angen i ni greu’r graddedigion sydd eu hangen arnom yn y sector i ddatblygu ei botensial llawn. Hefyd, mae’r prosiect Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn Dull Cynaliadwy—sy’n cynnwys prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor—wedi dangos bod rôl allweddol i bartneriaethau rhwng diwydiant ac addysg uwch, lle y gall ymchwil wyddonol dileu rhwystrau risg i fuddsoddiad. Gwyddoniaeth yw’r allwedd i ddeall potensial, ac yn bwysig, cyfyngiadau’r moroedd, boed hynny mewn biotechnoleg neu ddyframaethu ac mewn meysydd eraill.

Mae llawer o’r ymchwil i’n moroedd yn rhyngwladol am resymau amlwg. Mae graddau’r adnoddau sydd eu hangen ar lawer o brosiectau yn aml yn rhwystr i wledydd unigol allu eu gwneud. Mae’r ffaith ein bod yn gadael yr UE yn peryglu mynediad at gronfeydd ymchwil hanfodol oni bai y gellir cytuno ar drefniadau eraill, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r flaenoriaeth bwysig hon.

Croesawaf y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi €100 miliwn o gronfeydd strwythurol ar gyfer ynni morol—y buddsoddiad morol mwyaf o’i fath yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn fwy cyffredinol, un o’r rhwystrau posibl ar gyfer datblygiad yr economi las yw diffyg cymharol cyllid buddsoddiad preifat wedi’i deilwra’n benodol i’r sector. Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i edrych ar rai o’r datblygiadau rhyngwladol o ran ariannu’r economi forol. Roedd uwchgynhadledd cefnforoedd y byd yn ddiweddar, a gynhaliwyd ym mis Chwefror, yn ymwneud â’r union bwnc hwnnw. Mae gwaith arloesol ar y gweill gan rai o wledydd y Môr Tawel a’r Caribî yn enwedig—gwledydd bach ag arfordiroedd mawr—i lansio bondiau glas i fuddsoddi yn yr economi forol gynaliadwy a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Carwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyfarwyddo Banc Datblygu Cymru maes o law i edrych ar gynhyrchion ariannu arloesol gyda’r sector preifat, a hefyd, efallai, gyda Banc Buddsoddi Ewrop i greu cronfa fuddsoddi las ar gyfer Cymru.

Ond rydym hefyd yn wynebu cystadleuaeth am fuddsoddiad o rannau eraill o’r DU. Efallai fod hyn yn fwyaf amlwg yn y sector ynni adnewyddadwy morol. Rydym ar y camau cynnar, mae’n wir, ond yr ochr arall i hynny yw bod pobl yn ein gwylio, ac maent yn pwyso a mesur sut y mae pethau’n mynd rhagddynt, ac yn cymharu hynny â sut y maent yn mynd rhagddynt mewn mannau eraill. Fel y gwyddom, mae buddsoddwyr yn symudol. Rydym yn gwneud yr achos yn briodol dros fod yn genedl fach sy’n rhwydweithio’n dda, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod hynny’n golygu hyblyg ac ymatebol, yn ogystal â hawdd i gael mynediad ati.

Bydd angen caniatâd datblygu a thrwydded forol ar y rhan fwyaf o brosiectau ynni mawr. Mae gan Loegr orchymyn caniatâd datblygu a phroses drwyddedau morol syml, lle y bydd datblygwr yn cael trwydded dybiedig pan fydd y gorchymyn yn cael ei roi. Yn yr Alban, mae’r ddwy broses yn rhedeg yn gyfochrog. Yng Nghymru, mae’r gorchymyn caniatâd datblygu yn fater wedi’i gadw’n ôl a’r drwydded forol wedi’i datganoli, ond dylai Gweinidogion ystyried cyfarwyddo eu bod yn gweithio ar y cyd, gan ystyried yr un dystiolaeth lle y bo’n berthnasol, a gweithio yn ôl yr un amserlenni. Dylem newid rheoliadau fel y gall Gweinidogion ymyrryd ac—yn achos prosiectau mwy o faint—gallai fod ganddynt ran lawer mwy ymarferol yn y broses. Dylem newid y rheoliadau fel bod yna amserlenni statudol caeth i Cyfoeth Naturiol Cymru weithredu o’u mewn. Gyda llaw, nid yw hynny’n fater o lefelu’r cae chwarae. Yn wir, byddai’n rhoi mantais gystadleuol i Gymru dros wledydd eraill y DU, a pham na fyddem eisiau hynny?

Yn olaf, dylem ymatal rhag dehongli deddfwriaeth yn rhy dechnocratig. Oes, mae’n amlwg fod lle i ddadansoddiad manwl o’r effaith, ond mae’n sicr na all hynny fod yn nodwedd bwysicaf bob amser. Mae hyn, i fod yn deg, yn gofyn am arweiniad polisi clir, felly byddwn yn annog y Llywodraeth i gyflwyno canllawiau polisi newydd ar sut y gellir dehongli deddfwriaeth. Oni bai ein bod yn gwneud hynny, mae perygl mai’r sefyllfa ddiofyn fydd gofal. Rwy’n gobeithio, felly, ein bod yn gweld yr ateb i’r heriau hyn yn y cynllun morol newydd a chynigion polisi newydd, ac rwy’n gobeithio hefyd y bydd y cynllun morol yn cefnogi ymagwedd Llywodraeth gyfan tuag at yr economi las. Yn ôl ei natur, mae’n cyffwrdd ar ystod o wahanol bortffolios, a’r hyn yr ydym ei angen yw hyrwyddwr i gydlynu gweithgarwch y Llywodraeth ar yr economi las ar sail drawsbortffolio, ac i sicrhau cyflawniad ar draws y Llywodraeth.

Blwyddyn y Môr yw 2018. Dyna gyfle gwych i dwristiaeth Cymru. Gadewch i ni hefyd ei gwneud yn flwyddyn pan ddechreuir gwireddu potensial llawn ein moroedd a’n heconomi las. Rwy’n cynnig y cynnig.