Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 22 Mawrth 2017.
Rwyf innau’n falch o fod yn un o gefnogwyr y cynnig yma. Fel cenedl, mae’r heli yn ein gwaed ni; mae o’n rhan o’n gwead ni, ein hanes, ein diwylliant, ein llenyddiaeth ni hyd yn oed—o Cynan ‘a thonnau gwyllt y môr’ yn ‘Aberdaron’ i Ceiriog yn ein gwahodd ni i gyd i rwyfo gyda’r don i Ynys Môn. Ond gymaint ag y mae’r môr wedi bod yn awen ac yn ysbrydoliaeth i feirdd yn y gorffennol, y cwestiwn i ni, wrth inni sefyll ar ein glannau ni yn edrych tua’r môr heddiw, ydy: sut ydym ni am allu cael ysbrydoliaeth, os liciwch chi, o’r newydd i fanteisio i’r eithaf ar yr adnodd yna fel sail i greu cyfoeth i’r genedl ac i genedlaethau’r dyfodol?
Yn y môr, ac ar y glannau, mae yna harddwch a hamdden i wella safon bywyd dinasyddion a phobl Cymru ac i ddenu ymwelwyr. Mae yna fwyd. Mae yna ynni di-ben-draw. Mae’r môr yn cynnig her i ddatblygu technoleg a sgiliau gweithgynhyrchu newydd i allu rhyddhau’r potensial. Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at ein heconomi las ni, ond a ydy pob cam yn cael ei gymryd, ydy’r cwestiwn, i fanteisio i’r eithaf ar yr addewid hwnnw?
Mae yna bum mlynedd erbyn hyn ers i Lywodraeth Iwerddon gyhoeddi strategaeth i ddatblygu’r economi forol, ‘Harnessing Our Ocean Wealth’. Mae o’n deitl da. Os caf i gyfeirio at y corff Cyfoeth Naturiol Cymru—’Natural Resources Wales’ yn Saesneg—mae’r enw Cymraeg yn un gwell, rwy’n credu. Y cyfieithiad llythrennol o Cyfoeth Naturiol Cymru ydy ‘Wales’s natural wealth’, ac mae o’n cyfeirio at gyfoeth naturiol, wrth gwrs, y gwerth ehangach sy’n dod o warchod ein hamgylchedd ni, ond mi allwn ni hefyd ei ystyried o fel cyfeiriad at gyfoeth economaidd. Achos, yn sicr, wrth edrych tua’r arfordir a’r môr, mae yna ffynhonnell naturiol o adnoddau yn y fan yna a all helpu i roi Cymru ar seiliau mwy cadarn yn economaidd at y dyfodol.
Beth wnaeth Iwerddon oedd edrych ar y sector forol yn ei chyfanrwydd, a dyna yn union rwy’n credu y mae angen inni ei wneud yma yng Nghymru. Mi wnaeth pwyllgor menter y Cynulliad diwethaf alw am strategaeth forol hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ymgynghori ar gynllun morol cyntaf Cymru yn dechrau eleni, ond, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl.
Mi glywn ni lawer o sôn heddiw, rwy’n siŵr, am yr elfen mwyaf amlwg, efallai, o’r potensial sy’n cael ei gynnig gan y môr, sef ynni adnewyddol, ond nid ydy’r potensial hwnnw ddim yn mynd i’w ryddhau fo ei hun. Nid ydy o’n mynd i wirfoddoli i gael ei ryddhau. Gwaith Llywodraeth, yn gweithio efo busnes, efo addysg uwch, ydy gwthio ffiniau a chwilio am gyfleoedd newydd. Mae’n destun rhwystredigaeth fawr iawn i mi fod Llywodraeth Prydain yn methu â dod i benderfyniad o hyd ynghylch dyfodol morlyn bae Abertawe. Ai’r elfen o risg sy’n eu dal nhw yn ôl? Wel, mae’n rhaid inni fentro. Mae yna gyfle i Gymru arloesi yn fan hyn. A gadewch inni beidio hefyd ag aros am weithredu gan Lywodraeth Prydain yn unig; mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd ‘stake’—£50 miliwn o bosibl—yn y fenter yma fel bod Cymru gyfan yn gallu manteisio wedyn, wrth i’r dechnoleg yna ganfod ei ffordd o fae Abertawe i’r byd.
Mae yna arloesi yn fy etholaeth i hefyd yn y maes yma. Mae Menter Môn, drwy barth datblygu Morlais, yn denu cwmnïau o draws y byd i arbrofi â’r genhedlaeth nesaf o offer cynhyrchu ynni morol oddi ar arfordir gorllewinol yr ynys. Rwy’n hyderus iawn y bydd cwmni Minesto a’i farcud tanfor rhyfeddol, arloesol yn creu diwydiant newydd ac y bydd nid yn unig yn cyflogi yn lleol, ond yn allforio i’r byd.
Mae’n bwysig hefyd sôn am waith rhagorol adran SEACAMS Prifysgol Bangor, ym Mhorthaethwy. Mae Cymru yn gallu arloesi. Mae Cymru yn gallu arwain. Ac o sôn am SEACAMS ac yn ategu beth yr ydym ni wedi clywed yn barod, rydw i’n croesawu’r arian sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn ymchwil morol yng Nghymru. Wrth gwrs, mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn allweddol yn hynny o beth. Nid oes yna ddim sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y gwnân nhw’n iawn am yr arian hwnnw yn y dyfodol, ac mae’r ansicrwydd yna—gadewch inni fod yn blaen—yn bygwth tanseilio llawer o’r gwaith da sydd wedi’i wneud yn barod.
Fe soniaf i yn fras am gwpl o elfennau eraill o’r economi forol y gallwn ni eu datblygu: twristiaeth, er enghraifft. Mae angen mynd â diwydiant llongau pleser i’r cam nesaf yn Ynys Môn drwy fuddsoddi mewn adnoddau. Mae’r sector bwyd yn un pwysig yn Ynys Môn—Halen Môn yn enghraifft o burdeb ein dŵr ni, ond rydym ni hefyd yn cynhyrchu’r cregyn gleision gorau yn y byd—y cyfan y cael eu allforio, bron. Gadewch i ni fuddsoddi mewn adnoddau prosesu er mwyn gallu datblygu hynny ymhellach fel diwydiant.
I gloi, strategaeth sydd ei hangen. Rydw i’n falch ein bod ni heddiw yn cael cyfle i wyntyllu barn ar beth ddylai fod ymhlith gwahanol elfennau strategaeth o’r fath. Mae’n heconomi forol eisoes, fel y clywsom ni, yn werth dros £2 biliwn. Rydw i’n credu bod y potensial am dwf yn aruthrol, a byddwn ni i gyd ar ein hennill o wireddu’r potensial yna.