Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 22 Mawrth 2017.
Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein harfordir o amgylch Cymru yn un o’r asedau naturiol mwyaf gwerthfawr sydd gennym. Mae fy etholaeth, Gorllewin Casnewydd, yn etholaeth lle y mae’r afon yn amlwg, gan ei bod yn rhedeg drwy’r ddinas ac i mewn i aber afon Hafren. Mae cyrhaeddiad llanw afon Wysg wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad Casnewydd o fod yn aneddiad yn yr Oes Efydd i’r ddinas a welir heddiw. Yn hanesyddol, mae cyrhaeddiad llanw afon Wysg wedi cael ei ddefnyddio fel porthladd llongau mawr ar gyfer rhan helaeth o’r mileniwm diwethaf, yn bennaf oherwydd ceg lydan a dwfn yr afon a mynediad mordwyol da. Mae rhan ogleddol yr afon yn gartref i bentref Caerllion. Yn 2011 darganfu archaeolegwyr borthladd 2,000 oed a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid. Saif castell Normanaidd Casnewydd ar lannau gorllewinol afon Wysg, lle y cafodd ei adeiladu i warchod yr aneddiad a rheoli’r groesfan dros yr afon. Cafwyd tystiolaeth bellach o ddefnydd hirsefydlog yr Wysg fel llwybr llongau pwysig pan ddarganfuwyd olion llong o’r bymthegfed ganrif—llong fasnachol yn ôl pob tebyg—a thrwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, chwaraeodd y dociau ran fawr yn tanio’r chwyldro diwydiannol.
Mae gan y llanw a’r trai o amgylch ein harfordir botensial enfawr o hyd ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, a cheir ffyrdd newydd o’i harneisio. Yn gynharach y mis hwn roeddwn yn falch o ymuno â mwyafrif Aelodau’r Cynulliad, ar draws y pleidiau, a ysgrifennodd at y Prif Weinidog i annog Llywodraeth y DU i roi’r golau gwyrdd i’r morlyn llanw ym mae Abertawe. Byddai’r prosiect yn gwneud Cymru yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy. Mae potensial y cynllun hwn yn hynod gyffrous ac rwy’n gobeithio mai’r cyntaf o lawer fydd hwn, yn harneisio’r llanw a’r trai. Yn wir, yn sgil morlyn yn Abertawe, ceir argymhellion ar gyfer môr-lynnoedd llanw yng Nghasnewydd a Chaerdydd, yn aber yr Hafren. Byddai’r morlyn llanw rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn harneisio’r ystod llanw ail uchaf yn y byd. Gallai’r prosiect yn hawdd ddiwallu’r hyn sy’n cyfateb i ofynion trydan blynyddol pob cartref yng Nghymru, a gallai’r morlyn fod yn gyfle economaidd arwyddocaol i brifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae amcangyfrifon annibynnol cynnar yn awgrymu y byddai angen dros 3,000 o weithwyr adeiladu i wneud y gwaith adeiladu, gyda’r potensial i greu a chynnal dros 8,000 o swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru a’r DU yng nghadwyn gyflenwi’r prosiect. Drwy amgáu tua 70 cilometr sgwâr yn yr aber, byddai’r prosiect yn gallu trosglwyddo dros 800 miliwn metr ciwbig o ddŵr drwy ei dyrbinau yn ystod pob cylch llanw, mwy nag 11 gwaith y cyfaint o ddŵr sydd ar gael i’r prosiect braenaru ym mae Abertawe. Gallai’r morlyn llanw rhwng Caerdydd a Chasnewydd gynhyrchu’r trydan rhataf o holl orsafoedd pŵer newydd y DU.
Mae môr-lynnoedd llanw’n wyrdd, yn gyfan gwbl ragweladwy, yn ddi-garbon, yn Gymreig ac yn dragwyddol. Gallai môr-lynnoedd storio ynni dros ben ar adegau brig o gynhyrchiant neu pan fydd y galw am ynni ar lefel isel er mwyn darparu ynni toreithiog pan fo’i eisiau. Yn bwysig, gellir defnyddio technoleg wedi’i phrofi i dapio pŵer y llanw. Mae sector ynni’r llanw heb ei hail yn addo cyfleoedd marchnad newydd ar gyfer busnes yng Nghymru, ac fel yr awgrymodd Charles Hendry, gallai fod yn achubiaeth i rai. Bydd yn helpu i ddatgarboneiddio ein heconomi, yn cymryd lle gorsafoedd pŵer sy’n heneiddio ac yn adfywio economïau a diwydiannau traddodiadol.
Mae gwerth y llanw a’n harfordir hardd yn syfrdanol. Mae cyfleoedd ar gyfer twristiaeth o amgylch ein harfordir yn tyfu, yn enwedig gyda’r llwybr arfordirol bendigedig sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd a thrwy gydol y flwyddyn. Yn 2014, gwariodd cerddwyr £84 miliwn yng Nghymru a chynnal dros 1,000 o swyddi. Mae hynny’n rhywbeth y dylai pawb ohonom fod yn falch ohono ac yn benderfynol o’i gefnogi. Felly, Ddirprwy Lywydd, ers canrifoedd, mae’r llanw wedi bod yn hollbwysig i Gymru. Ceir cyfleoedd cyffrous i ni ddod yn arweinwyr byd gyda phrosiectau môr-lynnoedd llanw, gan roi budd i bobl Cymru yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddefnyddio ein harfordir gwych yn gynaliadwy i sicrhau’r fantais fwyaf i genedlaethau’r dyfodol.