Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 22 Mawrth 2017.
Cyn i mi alw ar Angela Burns i ymateb i’r ddadl, rwyf eisiau dweud ein bod yn ymwybodol o’r digwyddiadau cythryblus yn San Steffan. Rwyf wedi siarad â’n personél diogelwch yma yn y Senedd, ac rydym yn cymryd camau priodol, a byddaf yn parhau i adolygu’r mater wrth i fusnes y prynhawn fynd rhagddo. Rwy’n siŵr fod meddyliau pawb ohonom gyda’n cydweithwyr a phawb yn San Steffan ar yr adeg anodd hon. Angela Burns.