Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 22 Mawrth 2017.
Ni fyddaf yn galw siaradwyr pellach i’r ddadl hon. Mae digwyddiadau yn San Steffan yn dal i ddatblygu, ond maent yn cael eu trin fel digwyddiad terfysgol difrifol. Yng ngoleuni’r amgylchiadau hynny, ac mewn trafodaethau gyda rheolwyr busnes o bob plaid wleidyddol, rwyf wedi penderfynu gohirio trafodion heddiw o dan Reol Sefydlog 12.18. Bydd busnes yn cael ei aildrefnu’n unol â hynny. Fel y dywedais yn gynharach, mae ein meddyliau gyda’n holl gydweithwyr a phawb sy’n gysylltiedig ar hyn o bryd yn San Steffan. Mae’r busnes yn cael ei ohirio.