<p>Gofal Cymdeithasol</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru o ran gofal cymdeithasol? OAQ(5)0532(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Rydym ni wedi parhau i ddiogelu gwasanaethau cymdeithasol gyda chyllid sylweddol. Rhoddwyd £55 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18, ac mae hynny'n cynnwys yr £20 miliwn y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd ddoe. Rydym hefyd wedi darparu £60 miliwn ar gyfer y gronfa gofal integredig.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:59, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn croesawu cyhoeddiad £2 biliwn y Canghellor ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr ac, wrth gwrs, mae hynny’n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddefnyddio rhan o swm canlyniadol Barnett, nad yw’n ansylweddol, ar gyfer hynny i ychwanegu at ei harian ei hun yr ydych chi wedi ei grybwyll heddiw. Mae arian ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol nawr, y byddem i gyd yn ddiolchgar amdano. Beth fyddwch chi’n ei ddweud felly wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n cymryd £2.2 filiwn o arian gofal cymdeithasol allan o gyllideb y flwyddyn nesaf?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn dweud yr hyn a ddywedais yn gynharach: yr hyn sydd ei angen arnom yw Llywodraeth Lafur yn Llundain sy’n buddsoddi mewn pobl ac yn darparu'r cyllid sydd ei angen arnom ar gyfer gofal cymdeithasol. Rwy'n siŵr bod hwnnw’n ymadrodd y byddaf yn ei defnyddio sawl gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gyfarfod â mi y mis diwethaf i drafod fy mhryderon am yr effaith y mae rhoi arian y gronfa deulu i mewn gyda’r gronfa gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy wedi ei chael ar blant anabl a'u teuluoedd. O gofio bod yr arian ychwanegol hwn ar gael gennym bellach, ac o gofio eich sicrwydd i mi yn y cyfarfod hwnnw, ac mai’r rhain yw rhai o'n teuluoedd incwm isaf y mae’n rhaid iddynt, yn fy mhrofiad i, ymladd i gael popeth yn eu bywydau, a wnewch chi ystyried nawr dyrannu rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn i blant anabl a'u teuluoedd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae fy nghyfaill yr Aelod dros Dorfaen wedi bod yn angerddol yn ei heiriolaeth dros yr achos hwn. Mae hi wedi gofyn i mi edrych a allai arian fod ar gael. Byddaf yn edrych ar hynny iddi, gan ei bod wedi codi'r mater gyda mi yn y Siambr. Fel y dywedais, gwnaed cyhoeddiadau hyd yn hyn—nid yw’r holl swm canlyniadol wedi ei ddyrannu. Mae'n rhaid i ni gymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, yr hyn a fydd yn digwydd yn y flwyddyn ariannol y tu hwnt i’r un yma a’r un y tu hwnt i honno. Ond byddaf yn edrych ar hynny iddi.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Mae effeithiolrwydd yr hyn y gallwch chi ei gyflawni efo cyllidebau gofal cymdeithasol yn dibynnu, wrth gwrs, ar beth sy’n digwydd yn yr NHS a ‘vice versa’. Rydw i’n credu mai methiant y Llywodraeth i osod sylfeini cadarn a chynaliadwy i’r NHS sy’n gyfrifol am y gorwario sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y diwrnod neu ddau ddiwethaf. Onid ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fy mhryder i y byddai gorfodi, i bob pwrpas, y byrddau iechyd i gydbwyso eu llyfrau dros nos, yn anochel, yn arwain at ragor o bwysau ar y sector gofal cymdeithasol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 28 Mawrth 2017

Mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, fod yna dair blynedd gyda’r byrddau i ystyried eu cyllidebau. Dyna pam y newidiodd y gyfraith yn y lle hyn, o achos y ffaith eu bod nhw’n gorfod ystyried eu cyllidebau dros flwyddyn; nawr, mae tair blynedd gyda nhw ac mae’n llawer yn rhwyddach iddyn nhw sicrhau cydbwysedd yn eu cyllidebau nhw. Felly, rŷm ni yn erfyn iddyn nhw, wrth eu bod nhw wedi cael y rhyddid hynny, sicrhau eu bod nhw’n gyfrifol ac yn gallu cadw o fewn i’w cyllidebau nhw.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae Llywodraethau Ceidwadol a Llafur yn San Steffan, a chlymbleidiau Llafur, Plaid a Rhyddfrydol olynol yma yng Nghymru, wedi methu â chaniatáu cyllid digonol ar gyfer gofal cymdeithasol. O ganlyniad i—[Torri ar draws.] O ganlyniad i ddegawdau o danariannu, rydym ni’n nesáu at argyfwng mewn gofal cymdeithasol, ac er gwaethaf y ffaith fod ein poblogaeth yn heneiddio’n gyflym, nid yw’n ymddangos bod gennych chi na'r Torïaid unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â phrinderau hirdymor cronig. Mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, ond y cwbl y mae hwn yn ei wneud yw disodli arian a gollwyd. Nid yw’n gwneud dim i fynd i'r afael â galw yn y dyfodol. Brif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffyg cyllid hirdymor a sicrhau bod anghenion gofal cymdeithasol y dyfodol yn cael eu diwallu?`

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, os gwnaiff yr Aelod edrych ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, bydd yn gweld yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y system. Gwyddom fod gwariant cyfunol ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol fesul pen yng Nghymru yn 2015-16 6 y cant yn uwch nag yn Lloegr, ac un o'r rhesymau pam y bu’n rhaid dod o hyd i arian ar fyr rybudd yn Lloegr yw oherwydd na neilltuwyd digon o arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr. Gwnaed y buddsoddiad gennym ni.

Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae'n bwysig cofio’r £60 miliwn yr ydym ni’n ei fuddsoddi drwy'r gronfa gofal canolraddol. Beth mae hynny’n ei olygu? Wel, roedd achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ar gyfer Chwefror 22 y cant yn is nag yn yr un cyfnod y llynedd, a’r mis hwn yw’r trydydd mis yn olynol pan fu’r cyfanswm yn is na 400, sy’n gyflawniad digynsail yn ystod y 12 mlynedd o gofnodi’r ystadegau hyn.