– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 28 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a’r cyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Llywydd, mae gennyf sawl newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i aildrefnu dadl ddydd Mercher diwethaf ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer yn ddiweddarach y prynhawn yma. Rwyf hefyd wedi lleihau'r amser a ddyrennir i'r ddadl Cyfnod 3 ar Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Yfory, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar mewn ymateb i sbarduno erthygl 50. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i aildrefnu dadl fer yr wythnos diwethaf ar undebau credyd, a chaiff y ddadl hon ei chynnal ar ôl pleidleisio yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Arweinydd y tŷ, ar sawl achlysur rwyf wedi codi’r pwynt ynglŷn â chyflwr yr A48 ac, yn benodol, y darn rhwng Croes Cwrlwys a Phen-y-bont ar Ogwr, a hynny heb unrhyw lwyddiant. Ymddengys nad wyf yn cael llawer o ymateb gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth fydd eu trefniadau o ran cynnal a chadw. Ond heddiw rydym hefyd wedi cael nodyn atgoffa amserol iawn o'r angen i wneud yn siŵr y caiff ein ffyrdd eu hatgyweirio i gyflwr da oherwydd y risg bosibl i bobl ac, yn amlwg, y difrod i gerbydau hefyd. A yw'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru o ran pa gamau y mae’n eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol a'r asiantaeth cefnffyrdd i gynnal a chadw adeiledd priffyrdd yng Nghymru, ond yn benodol yn ardal Canol De Cymru, a pha gymorth ariannol fydd ar gael i awdurdodau lleol a'r asiantaeth cefnffyrdd er mwyn sicrhau bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud mewn modd amserol?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Byddwch yn ymwybodol o'r datganiad a ysgrifennwyd gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yr wythnos diwethaf ar ddyraniadau grant trafnidiaeth leol i awdurdodau lleol yn 2017-18, pan gyhoeddodd ei fod yn dyrannu cyfanswm o dros £31.4 miliwn mewn grantiau trafnidiaeth i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn enwedig ar gyfer cynlluniau i wella diogelwch, i greu twf economaidd ac i hybu teithio llesol. Bydd y gronfa trafnidiaeth leol gwerth £20 miliwn yn galluogi 47 o gynlluniau ar draws 20 awdurdod lleol i gychwyn cynlluniau neu barhau i weithio ar brosiectau dros lawer o flynyddoedd ac, wrth gwrs, yn benodol y materion hynny sy’n ymwneud â gwella diogelwch yn benodol. Mae ganddi gysylltiadau hefyd â bron £4 miliwn mewn arian grant cyfalaf ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd, 31 o gynlluniau sy'n cyfrannu at leihau anafiadau ar y ffyrdd mewn 16 o awdurdodau lleol, a £5.5 miliwn ar gyfer y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, gan ganolbwyntio ar 32 o gynlluniau sydd ar gael i wella llwybrau cerdded a beicio i ysgolion mewn 19 o awdurdodau lleol.
Hoffwn gael datganiad am y prosiect biomas, neu'r llosgydd, fel y cyfeirir ato gan drigolion lleol. Hoffwn holi pam yr anwybyddwyd llais y bobl leol. Mae llawer o bryder ynglŷn â’r posibilrwydd o dân ac mae pryder mawr ynglŷn ag ansawdd yr aer y bydd pobl yn ei anadlu. Ni allaf feddwl am le mwy anaddas ar gyfer datblygiad fel hwn—yn union yng nghanol ardal breswyl—felly byddwn yn gwerthfawrogi rhyw fath o ddatganiad a chael gwybod a ydych yn credu a ddylai Cyfoeth Naturiol Cymru mewn gwirionedd ganiatáu'r drwydded, oherwydd yn sicr nid wyf i’n credu y dylent wneud hynny.
Rwy'n tybio bod yr Aelod yn cyfeirio at y llosgydd yn y Barri. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i adeiladu gweithfeydd ynni biomas o fewn ardal adfywio dociau'r Barri. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried a ddylid rhoi caniatâd amgylcheddol, ac mae llawer o ymgynghori yn digwydd. Yn amlwg, rwyf i, fel Aelod Cynulliad, wedi bod yn rhan o hynny. Ond, wrth gwrs, mae materion yn ymwneud â chaniatâd cynllunio yn fater i'r awdurdod cynllunio lleol ac nid yw'n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylwadau.
Roeddwn i eisiau codi dau fater. Mae ffoaduriaid sy'n dod i Gymru ac i'r DU yn awyddus i weithio ac yn awyddus i chwarae eu rhan ar gyfer y gymdeithas. Ond cânt eu rhwystro gan nad ydynt yn gallu cael trwydded yrru, gan fod y prawf theori ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn unig. Fel yr wyf yn deall, hyd at 2013, roedd modd gwneud y prawf mewn ieithoedd fel Bengali neu Arabeg. Oherwydd bod cludiant yn fater mor bwysig i bobl o ran cyrraedd y gwaith, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cychwyn trafodaethau â Llywodraeth y DU i gael gwybod beth oedd y rheswm dros y newid polisi hwn ac a ellid gwneud rhywbeth am y peth?
Yr ail fater oedd bod nifer o’m hetholwyr yn galw am fenter o'r enw Operation Close Pass a weithredir yn y gogledd ac mewn dinasoedd yn Lloegr, pam fydd swyddogion yr heddlu’n mynd ar gefn beic gan wisgo dillad plaen ac yn stopio gyrwyr sy'n pasio’n rhy agos i seiclwyr a'u haddysgu am bellteroedd pasio diogel. Felly, a fyddai'n bosibl cael dadl am ddiogelwch i seiclwyr? Mae 1 y cant o'r traffig yn seiclwyr, eto i gyd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae 16 y cant o'r holl anafiadau yn ymwneud â seiclwyr. Felly, tybed a gawn ni ddadl ar hynny.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae Julie Morgan wedi tynnu ein sylw at newid, efallai nad oeddem ni’n ymwybodol ohono, yn ôl ym mis Ebrill 2014, gan fod trwyddedu gyrwyr yn fater a gadwyd yn ôl, a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau sy’n pennu cynnwys a darpariaeth y prawf theori yng Nghymru. Cafwyd gwared ar y defnydd o wasanaeth trosleisio iaith dramor a dehonglwyr ar gyfer profion theori ym mis Ebrill 2014, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae’n ymddangos. Ond, yn sicr, mae hwn yn fater y byddem ni eisiau sicrhau bod ein barn ni, yn enwedig yn awr gan ein bod ni’n canolbwyntio ar ein cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru yn ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sy'n cael ei diweddaru yn ystod y flwyddyn hon—. Mae'n ymwneud â chydgysylltu rhwng asiantaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, ond, yn amlwg, â Llywodraeth y DU hefyd. Felly, mae hon yn broblem, yn benodol, y byddem yn dymuno ei thrafod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, ond, yn bwysicaf oll, â Llywodraeth y DU o ran y cyfleoedd hynny, a gobeithio y gallwn ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r mater hwn.
Ynglŷn â’ch ail bwynt, rwyf newydd sôn am y dyraniadau diogelwch ar y ffyrdd lleol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r fframwaith diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn eu cymryd i gyrraedd ein targedau i leihau anafiadau. Os edrychwch ar yr ystadegau ar gyfer beicwyr modur a seiclwyr, roedd yr ystadegau ar gyfer seiclwyr yn unig yn 7 y cant o anafiadau, ac roedd 10 y cant o'r rheini wedi’u lladd neu wedi’u hanafu’n ddifrifol. Rydym yn cyhoeddi’r bwletin ystadegol ar feiciau pedlo ar 5 Ebrill, felly bydd hwnnw’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. Mae gennym grŵp llywio diogelwch sy’n cefnogi gwaith i gyrraedd targed o leihau’r niferoedd a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol 25 y cant. Mae hynny'n ymwneud â beicwyr modur, ond rwy’n credu bod y safonau cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant seiclo ym mhob awdurdod lleol yn hanfodol bwysig. Ddoe, cefnogodd Ysgrifennydd y Cabinet lansiad Ymgyrch Darwen, ymgyrch orfodi ac ymgysylltu Cymru gyfan gan yr heddlu, ac rwy’n credu bod yr enghraifft hon yn rhywbeth y byddem ni’n amlwg yn awyddus i’w hystyried.
Arweinydd y tŷ, tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y rhaglen cynnal a chadw cefnffyrdd yn y gogledd. Achoswyd llawer o anghyfleustra i’m hetholwyr i ac i ymwelwyr â’r gogledd dros y penwythnos o ganlyniad i'r gwaith ffordd ar yr A55 yn nhwneli Conwy ac, yn wir, yn Hen Golwyn, yn fy etholaeth i fy hun. Arweiniodd at dagfeydd 13 milltir o hyd ar Sul y Mamau, a phobl yn gaeth i’w ceir am hyd at awr a hanner er mwyn teithio'r pellter byr o dair milltir yn unig. Yn amlwg, mae hynny'n annerbyniol. Cymhlethwyd y broblem ymhellach oherwydd bod Network Rail hefyd, wrth gwrs, yn gwneud gwaith ar reilffordd y gogledd, felly roedd mwy o draffig ar y ffyrdd. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod gwell cynllunio rhwng y timau cynnal a chadw ffyrdd a thimau Network Rail er mwyn osgoi’r math hwnnw o waith cynnal a chadw rhag digwydd yr un pryd. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar sut y mae'n bwriadu newid y trafodaethau a’r dull cyfathrebu, yn enwedig rhwng Network Rail a'i dimau ef yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn yr Aelod, mae hon yn broblem, ac mae'r Aelod yn gwybod yn dda fod hyn yn rhan o welliannau ehangach i'r A55 i sicrhau ei fod yn gwasanaethu pobl y gogledd yn well. Felly, mae’n rhaid i’r gwaith o reoli'r gwelliannau hynny, fel y dywedwch, gynnwys pawb sydd â rhan allweddol i'w chwarae fel bod cyn lleied o oedi â phosibl. Dywedwyd wrthyf fod y gwaith yn cael ei wneud 24/7 er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau cyn cyfnod prysur y Pasg. Rwy'n credu hefyd, o ran ymgysylltu, fel y dywedais, ag awdurdodau priodol, ymgynghorwyd â swyddogion o Gyngor Conwy ar y gwelliannau hyn. Maent yn cael eu hysbysu am unrhyw gynnydd, codwyd arwyddion priodol ar hyd yr A55, ac mae'n bwysig bod y cyhoedd sy'n teithio yn ymwybodol o'r cyfyngiadau traffig. Caiff gwefan Traffig Cymru ei diweddaru pan fo angen.
A gaf i godi dau fater, os gwelwch yn dda, gyda’r rheolwr busnes, yn gyntaf oll i groesawu'r ffaith bod y ddadl a oedd i’w chynnal heddiw, yn nes ymlaen, ynglŷn â thirweddau, wedi’i thynnu'n ôl? Pe na byddai wedi’i thynnu'n ôl, byddwn i’n sicr wedi dadlau bod hyn yn annerbyniol. Nodir yn glir iawn yn ein Rheolau Sefydlog y dylai unrhyw drafodaeth sy'n ymwneud ag adroddiad gynnwys yr adroddiad hwnnw gyda’r ddadl honno, ac roedd yr etholwyr sydd wedi bod yn cysylltu â mi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf yn sicr bod y ddadl hon yn ymwneud â'r adroddiad y mae’r Arglwydd Elis-Thomas yn ei baratoi ar ran Llywodraeth Cymru ar dirweddau yn y dyfodol. Wrth gwrs, nid ydym wedi gweld yr adroddiad hwnnw, nid ydyw wedi’i gyhoeddi, er bod fy etholwyr i wedi bod yn awyddus iawn i anfon ataf gopïau drafft o'r adroddiad, ynghyd â'u beirniadaeth o’r adroddiad, a fyddai wedi golygu dadl ddiddorol iawn, ond, un na fyddai wedi bod yn adeiladol iawn yn y Siambr hon, yn fy marn i. A gaf i ofyn am sicrwydd, felly, na cheir ymgais gan Lywodraeth Cymru i’n trin ni fel hyn eto ac na fyddwn yn trafod y mater hwn nes ein bod wedi gweld yr adroddiad, wedi’i gyhoeddi’n llawn, a’n bod ni wedi cael digon o amser i astudio'r adroddiad ac, wrth gwrs, i gysylltu a gwrando ar bryderon ein hetholwyr ynglŷn ag elfennau’r adroddiad hwnnw?
Yr ail fater yr hoffwn ei godi gyda'r rheolwr busnes yw gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, maes o law, mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU ac Awdurdod Datgomisiynu Niwclear y DU i newid y contract ynglŷn â datgomisiynu’r hen adweithyddion niwclear Magnox yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n effeithio, yn benodol, wrth gwrs, ar Drawsfynydd yn fy rhanbarth i, a hefyd Wylfa. Mae'r rhain yn gontractau o bwys y canfuwyd bod Llywodraeth y DU wedi dilyn proses gaffael ffug a diffygiol i’w sicrhau, a’i bod wedi gorfod talu arian y trethdalwyr i gwmnïau Americanaidd i beidio â chael ei herio’n gyfreithiol. Ymddengys ar hyn o bryd, o newid y contract gyda'r cwmni a wnaeth ennill y contract, o fewn y ddwy flynedd nesaf bydd yn costio tua £100 miliwn, yr wyf yn credu sy’n ffigur i’w gadw mewn cof pan fo Llywodraeth y DU yn dweud wrthym fod ynni adnewyddadwy yn ddrud. Efallai fod cyfle yma inni adolygu'r hyn sydd ei angen o ran datgomisiynu yn Nhrawsfynydd ac yn Wylfa, ac efallai’n wir bod newidiadau gwahanol i'r hyn sy'n digwydd yno, ond hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn sefyllfa i ddweud wrthym beth allai hynny fod. Mae’n bosibl y gallai fod angen mwy o waith dwys, mae’n bosibl y gallai fod angen llai o waith—ni wyddom. Ond byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi cynnal trafodaethau â'r awdurdod ac â Llywodraeth y DU, ac mai’r rhain yw'r goblygiadau ar gyfer cyflogaeth, wrth symud ymlaen, yn ymwneud â’r ddau hen safle Magnox, yn werthfawr i'r Cynulliad yn fy marn i.
Diolchaf i Simon Thomas am ei gwestiynau. Ymhellach i drafodaeth y bore yma yn y Pwyllgor Busnes, roeddwn i’n fodlon gohirio dadl y prynhawn yma ar yr adolygiad o barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. A gallaf sicrhau'r Aelod a'r Cynulliad y byddwn yn aildrefnu'r ddadl pan ddychwel Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd yn briodol, ac wedi cael effaith ar yr amseriad ar gyfer hyn, ond pan fydd yr adroddiad terfynol wedi ei gyhoeddi. Ar sail honno, rwy’n gobeithio y bydd hynny’n rhoi'r sicrwydd priodol i chi.
Ynglŷn â’ch ail bwynt, na, nid ydym mewn sefyllfa i wneud datganiad eto, o ran ein dealltwriaeth ni o effaith y cyhoeddiad o ran y newidiadau o ganlyniad i gaffael ar gyfer datgomisiynu'r hen adweithyddion niwclear Magnox. Ond yn amlwg mae hyn yn rhywbeth y byddem yn awyddus i fod yn rhan lawn ohono, a byddwn yn sicrhau y caiff yr Aelodau eu hysbysu’n briodol. Ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU y cyfrifoldeb hwnnw hefyd.
Diolch. Ac yn olaf, Eluned Morgan.
A wnaiff yr Ysgrifennydd busnes wneud datganiad ar y broses benodi ddiweddar ar gyfer Esgob Llandaf yng ngoleuni adroddiadau y cafodd Jeffrey John, Deon presennol St Albans, ei wrthod i’r swydd ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol, er gwaethaf cefnogaeth y rhan fwyaf o'r coleg etholiadol a chefnogaeth unfrydol etholwyr Llandaf? Er fy mod i, wrth gwrs, yn deall y ceir proses o ddirnadaeth ysbrydol wrth ddewis esgob, mae hyn hefyd yn fater sy'n ymwneud â chyflogaeth. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, yn y datganiad hwnnw, nodi a yw hi’n credu y byddai’n briodol cyfeirio'r Eglwys yng Nghymru i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol er mwyn ymchwilio i weld a yw’r Eglwys yng Nghymru wedi torri Deddf Cydraddoldeb 2010, yn ymwneud â'i phrosesau recriwtio o ran cyflogaeth, y mae'r Eglwys yng Nghymru ei hun yn honni ei bod yn cadw ati ar ei gwefan ei hun?
Diolch i Eluned Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon sydd wedi'u codi gan adroddiadau bod ymgeisydd i'w benodi'n Esgob Llandaf wedi’i eithrio o'r broses benodi ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n amlwg iawn, wrth gwrs, o ran yr Eglwys yng Nghymru, sydd wedi’i datgysylltu, fod y broses, fel y dywedodd yr Aelod, ar gyfer penodi ei hesgobion yn fater i goleg etholiadol ac etholwyr yr Eglwys yng Nghymru. Rwyf hefyd yn deall nad yw dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn berthnasol i’r Eglwys yng Nghymru. Ond rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i gwestiwn yr Aelod y prynhawn yma, ac i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu gwahaniaethu ar sail rhywioldeb, ac mae ein sefyllfa yn hyn o beth wedi bod yn gyson ac yn parhau i fod yn glir iawn.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.