11. 9. Dadl Fer (Ail-drefnwyd o 22 Mawrth): Undebau Credyd — Cyfraniad Allweddol i Fynd i'r Afael ag Allgáu Ariannol

– Senedd Cymru am 6:45 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:45, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Dawn Bowden i siarad ar y pwnc y mae hi wedi’i ddewis. Dawn Bowden.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno’r ddadl fer hon ar rôl bwysig undebau credyd wrth helpu i fynd i’r afael ag allgáu ariannol, mater pwysig mewn rhannau o fy etholaeth ac mewn ardaloedd difreintiedig ar draws Cymru. Rwy’n hapus i roi munud o fy amser i Jayne Bryant a Mark Isherwood yn y ddadl hon.

Lywydd, y gwahaniaeth sylfaenol, wrth gwrs, rhwng undebau credyd ac unrhyw fenthycwyr ariannol eraill yw eu bod yno i wasanaethu’r aelodau ac nid i wneud yr elw mwyaf i gyfranddalwyr. Mae undebau credyd yn gwmnïau cydweithredol democrataidd sy’n eiddo i’r aelodau ac yn canolbwyntio ar ddarparu budd cymdeithasol go iawn i gymunedau lleol lle y maent wedi’u lleoli. Maent yn amrywio’n fawr o ran maint, o’r bach iawn i rai gyda thros 15,000 o aelodau. Ymhlith eu prif fuddion, mae undebau credyd yn darparu ffynhonnell fforddiadwy o gredyd wedi’i gapio ar 3 y cant y mis—lawer is nag unrhyw beth sydd ar gael o ffynonellau eraill. Maent yn diogelu cynilion: caiff yr holl gynilion hyd at £85,000 eu diogelu o dan gynllun iawndal ariannol y DU ac mae llawer o undebau credyd yn cynnig yswiriant bywyd heb fod unrhyw gost ychwanegol. Maent yn canolbwyntio ar y gymuned ac o dan y trefniadau bond cyffredin maent wedi’u cysylltu o ran eu hanfod â chymunedau lleol—gyda’r arian a gynilwyd yn yr undeb credyd a’r benthyciadau y mae’n eu rhoi yn aros i raddau helaeth o fewn y gymuned leol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 6:45, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Nid yn ôl gweithdrefnau amhersonol, sy’n awtomataidd i raddau helaeth, y mae undebau credyd yn gwneud eu penderfyniadau ar roi benthyciadau ond yn amlach na pheidio ar sail cyfweliadau wyneb yn wyneb gydag aelodau. Bydd rhan o unrhyw asesiad ar gyfer benthyciad yn seiliedig ar brofiad aelodaeth yr unigolyn o’r undeb credyd. O ganlyniad, bydd benthyciadau cost isel yn cael eu rhoi i nifer o ymgeiswyr a allai’n hawdd fod wedi cael eu heithrio rhag cael benthyciadau gan ddarparwyr prif ffrwd eraill ac a allai fel arall gael eu gorfodi i droi at fenthycwyr arian didrwydded a diegwyddor neu fenthycwyr eraill gyda llog afresymol o uchel sy’n camfanteisio ar bobl sy’n cael trafferth i ymdopi, gan eu harwain i lefelau uwch o ddyled.

Cydnabyddir bod rhan ganolog gan undebau credyd, wrth gwrs, yn cefnogi cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol Llywodraeth Cymru. Ar yr adeg hon o galedi a orfodwyd arnom, rydym wedi gweld cyfres o doriadau i fudd-daliadau lles, sydd wedi ychwanegu at nifer y bobl yng Nghymru sy’n wynebu allgáu ariannol. Ni fydd y darlun yn gwella wrth i doriadau pellach a gynlluniwyd ddod i rym.

I’r rhan fwyaf ohonom, mae cymryd benthyciad yn ymwneud â phrynu car newydd neu rywbeth drud ar gyfer y cartref, neu wyliau moethus unwaith mewn oes efallai. I’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, sy’n aml yn byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac sy’n cael eu taro’n amlach na neb gan doriadau i fudd-daliadau lles, mae’n debyg y bydd benthyciad yn ymwneud â’u gallu i dalu’r rhent, i dalu biliau cyfleustodau neu hyd yn oed i fwydo’r teulu. I’r bobl hyn, gallai benthyciad gan undeb credyd fod yn achubiaeth. Wrth edrych ar undeb credyd Merthyr Tudful yn fy etholaeth i, dengys ystadegau ar gyfer y chwe mis diwethaf fod dros 400 o’r 990 benthyciad a gymeradwywyd yn gysylltiedig â helpu pobl i brynu nwyddau adeg y Nadolig, tra bod bron i 70 yn ymwneud â thalu biliau pwysig, ôl-ddyledion rhent, prynu dillad neu gyfuno dyled, a phob un ohonynt yn dangos rôl hanfodol undebau credyd yn helpu’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ariannol i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd.

Yng Nghymru, mae gennym oddeutu 80,000 o bobl sy’n aelodau o undeb credyd. Mae’r aelodaeth yng Nghymru wedi cynyddu o 50 y cant yn y pum mlynedd diwethaf ac mae’r twf mewn aelodaeth, asedau a benthyciadau ar gyfer y cyhoedd wedi bod yn fwy yma nag yn unman arall yn y DU. Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi y llynedd, cyrhaeddodd benthyciadau i aelodau gyfanswm o £22.3 miliwn, cynnydd o 12 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Yn fwyaf arwyddocaol i mi, mae’r ffaith fod undebau credyd yng Nghymru yn 2015-16 wedi rhoi dros 10,000 o fenthyciadau, gwerth £9.2 miliwn, i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol. Fodd bynnag, er gwaethaf y twf hwn yn aelodaeth undebau credyd yng Nghymru, ar 2.7 y cant o’r boblogaeth a tharged o gyrraedd 5 y cant erbyn 2011, mae’n parhau i fod yn is na lefel yr aelodaeth yn yr Alban, ar 7 y cant, a Gweriniaeth Iwerddon, ar y lefel anhygoel o 75 y cant. Er hynny, dylid nodi bod y twf a welsom yng Nghymru yn deillio i raddau helaeth o’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi. Fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i undebau credyd, sefydlwyd cronfa o fwy na £420,000 ar gyfer 2017-18 gyda’r nod o gynorthwyo undebau credyd yma i symud tuag at sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor eu hunain, er mwyn peidio â bod yn ddibynnol ar arian cyhoeddus yn y dyfodol. A dyna, wrth gwrs, yw un o’r heriau go iawn i’n hundebau credyd yng Nghymru. Oherwydd er y cynnydd sylweddol yng nghyfanswm gwerth y benthyciadau gan undebau credyd, dengys dadansoddiad o lefel y benthyciadau gan undebau credyd i aelodau, fod hyn wedi disgyn islaw cyfradd y cynnydd yn asedau undebau credyd. Felly, oni bai bod undebau credyd yn gallu cynyddu cymhareb benthyciadau, byddant yn ei chael yn fwy anodd bod yn ddigon proffidiol i gynyddu eu cronfeydd wrth gefn ar gyfradd a fydd yn eu gwneud yn hyfyw yn y tymor hwy.

Mae undeb credyd Merthyr Tudful y cyfeiriais ato’n gynharach yn eithaf nodweddiadol o nifer o rai eraill yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym 1998, ac erbyn 2008, roedd ei aelodaeth wedi cyrraedd 1,200, ac roedd yn cyflogi chwe aelod o staff. Yn yr wyth mlynedd ers hynny, mae’r aelodaeth wedi codi i 4,800, gyda’r undeb credyd bellach yn cyflogi naw aelod o staff, gyda thros 50 o wirfoddolwyr. Maent wedi gweld cynnydd sydyn yn yr aelodaeth, ond canran fach o bobl o hyd a fyddai’n cael eu cynnwys yn ardal y bond cyffredin, ac ni fydd yn cynnwys llawer yn yr ardal y gellid ystyried eu bod wedi’u hallgáu’n ariannol. Felly, er bod aelodaeth o undebau credyd wedi cynyddu, yn aml digwyddodd hynny ymhlith pobl fel ni sydd wedi ymrwymo i’r athroniaeth sy’n sail i undebau credyd, ac nid yw’r aelodaeth ymysg y rhai a fyddai’n elwa fwyaf wedi cynyddu ar yr un gyfradd.

Lywydd, er gwaethaf y gefnogaeth ariannol a ddarperir i’r undeb credyd gan Gyngor Merthyr Tudful, roeddwn yn synnu clywed mai’n ddiweddar yn unig y mae’r undeb credyd wedi bod yn trafod sefydlu cynllun didynnu o’r gyflogres gyda hwy, a hyd yma ychydig o gynlluniau didynnu o’r gyflogres yn unig sydd ganddo gyda busnesau lleol. Nid yn unig y mae cynlluniau didynnu o’r gyflogres llwyddiannus yn arwain at gynyddu’r aelodaeth, yn aml, pobl mewn cyflogaeth sicr, gyda chyflogau rhesymol sy’n cymryd y benthyciadau mwy o faint a mwy hirdymor sy’n galluogi’r undeb credyd i fod yn ddigon proffidiol i wneud benthyciadau llai o faint, byrdymor yn aml, i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol, sef y bobl, wrth gwrs, y mae undebau credyd yn y sefyllfa orau i’w helpu.

Felly, wrth gydnabod pwysigrwydd undebau credyd yn mynd i’r afael ag allgáu ariannol, beth y gallwn ei wneud fel Aelodau Cynulliad i sicrhau bod undebau credyd yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? Wel, rwy’n gweld fy hun fel un sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn siarad â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn fy ardal ynglŷn â darparu cyfleusterau didynnu o’r gyflogres ar gyfer eu gweithwyr eu hunain a hyrwyddo eu hundebau credyd lleol yn eu deunydd cyfathrebu. Byddaf hefyd yn gofyn iddynt ddefnyddio prosesau caffael i annog unrhyw gontractwyr y maent yn eu defnyddio i ddarparu trefniadau tebyg hefyd. Yn yr un modd, pan fyddaf yn cyfarfod â chwmnïau yn y sector preifat, byddaf yn eu hannog i edrych ar hyrwyddo’r undeb credyd lleol gyda’u gweithwyr, ac fel Cynulliad dylem wneud mwy i hyrwyddo manteision undebau credyd ar bob cyfle.

Ddirprwy Lywydd, wrth i ni barhau i wynebu heriau polisïau caledi wedi’u gyrru gan Lywodraeth y DU, bydd undebau credyd yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn mynd i’r afael ag allgáu ariannol, ac mae gennym ddyletswydd i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gallant oroesi a ffynnu.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 6:53, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud o’i hamser i mi yn y ddadl hon. Gall undebau credyd chwarae rôl weithredol yn addysg ariannol pobl ifanc. Mae Undeb Credyd Casnewydd, gyda bron i 1,000 o gynilwyr yn yr undeb, yn gweithredu clybiau cynilo yn yr ysgol mewn pedair ysgol gynradd. Gyda chymorth athrawon, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol mae’n dysgu am werth a phwysigrwydd cynilo arian i blant. Mae hyn yn gwbl hanfodol. Roedd yn bleser gennyf groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i un o’r clybiau cynilo yn Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn ddiweddar. Rwy’n siŵr y byddai’n cytuno ei bod yn wych clywed gan y bobl ifanc am eu brwdfrydedd ynglŷn â chynilo a beth y maent yn cynilo ar ei gyfer. Mae Undeb Credyd Casnewydd yn bwriadu mynd ymhellach a sefydlu clybiau cynilo mewn ysgolion uwchradd, lle y mae’r disgyblion eu hunain yn gweithredu’r clybiau ac yn cymryd peth cyfrifoldeb am y mannau casglu. Mae’r rhain yn fentrau gwych ac mae’n rhaid eu hannog a’u cefnogi i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall pwysigrwydd cynilo a pheryglon dyled.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:55, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Fel rhywun a fu’n gweithio yn y sector cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol o’r blaen, roeddwn yn croesawu Deddf undebau credyd y DU 2012, a oedd yn rhyddhau undebau credyd i weithio gyda darparwyr tai, grwpiau cymunedol, cyflogwyr, mentrau cymdeithasol ac elusennau i ddod â gwasanaethau ariannol i grwpiau newydd o bobl.

Er bod aelodaeth undebau credyd yng Nghymru wedi tyfu 50 y cant yn y pum mlynedd diwethaf, gydag 80,000 o aelodau bellach, yr undebau credyd yng Nghymru yw benthycwyr mwyaf credyd fforddiadwy i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol, a hynny o bell ffordd. Oddeutu 2.5 y cant o bobl yn unig yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn defnyddio undebau credyd, o’i gymharu â 46 y cant yn yr Unol Daleithiau. Fel y mae undebau credyd yng Nghymru yn dweud, dylai Llywodraeth Cymru barhau i’w helpu yn eu nod o sefydlu sector cwbl annibynnol a chynaliadwy yn ariannol erbyn 2021, gan adeiladu capasiti, sicrhau cydweithio gwell a mwy effeithiol a chefnogi datblygiad cydwasanaethau undebau credyd. Ond dylai Llywodraeth Cymru edrych hefyd ar y model bancio cymunedol dielw a ddatblygwyd yng Nghymru gan Cyllid Cyfrifol, gan weithio gydag undebau credyd lle na all undebau credyd wneud hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:56, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am arwain y ddadl hon heddiw. Ceir cydnabyddiaeth glir o’r manteision y gall undebau credyd eu dwyn i unigolion a chymunedau.

Mae undebau credyd mewn sefyllfa ddelfrydol, drwy eu perthynas ag awdurdodau lleol, cyflogwyr lleol, ysgolion a sefydliadau cymunedol, i helpu i gryfhau cadernid ariannol cymunedau drwy wella mynediad at gredyd cyfrifol a chyfleoedd cynilo. Rwy’n glir mai’r adeg orau i ddysgu sgiliau rheoli arian yw pan fyddwn yn ifanc ac mae llawer o undebau credyd yn gweithio ar yr egwyddor hon ac yn estyn allan at ysgolion lleol i helpu i annog arferion cynilo o oedran cynnar. Yn wir, ymwelais ag ysgol Pill yng Nghasnewydd gyda Jayne Bryant i weld eu cynllun cynilo yn yr ysgol sy’n cael ei weithredu gan Undeb Credyd Casnewydd. Cefais fy nghalonogi gan yr hyn a welais—ymweliad pleserus iawn, ond gyda manteision enfawr i’r gymuned honno. Ymwelais â Thredegar yr wythnos diwethaf hefyd, i agor siop undeb credyd newydd yng nghanol y dref, rhywbeth i’w groesawu’n fawr iawn.

Mae undebau credyd yn bartneriaid allweddol yn y cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, ac mae hwn yn nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni system ariannol gynhwysfawr sy’n hygyrch i bawb ac yn gweithio’n dda yng Nghymru. Mae’r cynllun cyflawni hwn yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda sefydliadau partner, yng Nghymru ac ar lefel y DU, ac yn helpu i wella credyd fforddiadwy a gwasanaethau ariannol hygyrch, yn ogystal â mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.

Mae undebau credyd yn darparu rhai o’r camau hyn yn uniongyrchol ac mae ganddynt ran ganolog i’w chwarae yn hyrwyddo cynhwysiant ariannol. Rwyf wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid i’r gefnogaeth a roddir i undebau credyd barhau i fynd i’r afael ag allgáu ariannol. Bydd y cyllid rwyf wedi ei neilltuo ar gyfer undebau credyd o’r mis Ebrill hwn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol i gefnogi nifer o’r camau gweithredu hyn. Bydd y rhain yn cynorthwyo’r rhai mwy difreintiedig yn ein cymunedau ledled Cymru i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwyf hefyd wedi cytuno i gronfa grantiau o £422,000 ar gyfer 21 o brosiectau undebau credyd yn 2017-18, yn dilyn proses ymgeisio agored am grantiau. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau cynilo mewn ysgolion a chynlluniau cynilo yn y carchar. Bydd undebau credyd yn cael gwybod a ddyfarnwyd cyllid iddynt cyn bo hir a bydd y gweithgareddau’n cael eu hariannu o 1 Ebrill 2017. Bydd hyn yn helpu undebau credyd i barhau i gefnogi aelodau sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, ac i gyflawni ein cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol, yn ogystal â chynorthwyo cynaliadwyedd hirdymor eu gweithgarwch.

Mae’n bosibl y bydd nifer o’r prosiectau a gyllidir hefyd yn cyfrannu at gynyddu cynaliadwyedd undebau credyd drwy gynyddu’r aelodaeth, a soniodd Dawn am fusnesau ac awdurdodau lleol yn rhan o gyfle i gynilo’n rhwydd. Rwy’n hapus iawn i annog cydweithio o’r fath. Rydym wedi gwahodd prosiectau cydweithredol gan undebau credyd, sy’n cael eu blaenoriaethu yn y broses asesu.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw undebau credyd ar gyfer helpu pobl sy’n cael trafferth i reoli eu harian, hefyd. Mae cyllid Llywodraeth Cymru a ddarparwyd rhwng mis Ebrill 2014, a Rhagfyr 2016 wedi helpu undebau credyd i gefnogi mwy na 29,000 o aelodau sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, gydag ychydig dros £23 miliwn wedi’i ddarparu mewn benthyciadau i helpu’r rhai sydd angen hyn. Mae hyn yn dangos y rôl y mae undebau credyd yn ei chwarae, ac rwy’n gobeithio y gallwn ymestyn y rôl honno, oherwydd credaf eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned.

Rwyf am weld undebau credyd effeithiol a chynaliadwy wedi’u rheoli’n dda yng Nghymru sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, yn datblygu cynnyrch a gwasanaethau ariannol credadwy a phroffesiynol, fel y maent yn ei wneud mewn gwledydd eraill, hefyd—cânt eu gweld yn tyfu yn enwedig yn America.

Mae’r sector undebau credyd yng Nghymru wedi cael ei drawsnewid yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Ers 2000, mae aelodaeth undebau credyd wedi codi o tua 10,000 i dros 75,000, a gwn fod llawer o Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn aelodau o undebau credyd, gan gynnwys fi fy hun.

Yn y cyfnod hwn, mae llawer o undebau credyd yng Nghymru wedi cryfhau a phroffesiynoli eu gwasanaethau’n helaeth iawn. Yr uchelgais yn awr yw adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn. Mae’n rhan bwysig iawn o lythrennedd ariannol—cyfle i gael mynediad at gynilo diogel a benthyca diogel. Rydym wedi gweld yr anawsterau y mae cymunedau’n eu hwynebu os ydynt yn troi at fenthycwyr arian didrwydded neu ddulliau gwarthus eraill o fenthyca arian.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Dawn am ei chyfraniad heddiw yn tynnu sylw at raglen lwyddiannus iawn yr undebau credyd yma yng Nghymru, ond fe ddylir ac fe ellir gwneud llawer mwy o waith i’w cefnogi. Diolch.