1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mai 2017.
6. Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â Phrif Weinidogion llywodraethau datganoledig eraill y Deyrnas Unedig i drafod eu perthynas â’r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0580(FM)[W]
Wrth gwrs, mae yna fusnes i’w drafod cyn 8 Mehefin sydd wedi ymyrryd ar hyn o bryd, ond byddaf yn parhau i drafod materion yr Undeb Ewropeaidd mewn cyfarfodydd dwyochrog— tair ochrog, rydw i’n gobeithio—gyda Phrif Weinidog yr Alban a Dirprwy Brif Weinidog a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y pen draw.
Oni fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno bod y trafodaethau tair ochrog yma yn fwy pwysig nag erioed, o ystyried yr hyn sydd yn y Papur Gwyn gyda’r clawr glas golau yma ar adael yr Undeb Ewropeaidd, wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd yn sôn am y sefyllfa ar ôl i hynny ddigwydd? Bydd y pwerau y mae’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn eu dal mewn perthynas â fframweithiau cyffredin yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, gan ganiatáu i’r rheolau wedyn gael eu gosod yno gan Aelodau democrataidd yn cynrychioli. Beth sy’n digwydd inni yn y lle hwn? Sut mae ein barn yn y gweinyddiaethau datganoledig yn dod yn rhan o’r trafodaethau yna?
Well, my view is that those powers should come the people of Wales, and shouldn’t be retained in Westminster or Whitehall. It’s crucial to have frameworks in some parts, such as the fisheries, for example, but those frameworks should actually be agreed, and not imposed upon people without their consent. We must remember that if we’re going to have a single market within the UK, and I agree with that, we have to have rules. But if we don’t have ownership of the rules, nobody’s going to pay any attention to them. And secondly, there is the question of who’s going to police those rules without having a court of law to refer to. So there are many unanswered questions currently. Some people in the UK think we’ll move back to how things were pre 1972, but that isn’t the same United Kingdom that we have now. We don’t have just one government by now, and there’s a great deal of work to be done to ensure that these powers will be transferred from Brussels to Wales, and not via London.
Pan ymwelodd y pwyllgor materion allanol â Brwsel y llynedd, cawsom gyfarfod â dirprwyaeth fasnach Canada a chefais fy nharo gan swyddogaeth taleithiau Canada o ran trafod a chymeradwyo’r cytundeb CETA gyda’r Undeb Ewropeaidd. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, ers hynny, am swyddogaeth Senedd Wallonia o ran cymeradwyo'r cytundeb. Mae trafodaethau masnach gyda'r UE ac, yn wir, y tu hwnt, yn mynd i ddod yn gynyddol bwysig i Gymru a'r DU, ac maen nhw’n ymwneud â llawer mwy na materion tramor ac uchelfraint y Goron; maen nhw’n ymwneud â materion bara menyn bywyd economaidd bob dydd. Felly, a yw'n cytuno â mi y dylai trafodaethau masnach yn y dyfodol, gyda'r UE a thu hwnt, gynnwys llais i Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill o ran trafod a chymeradwyo’r cytundebau hynny sydd mor hanfodol i'n llesiant economaidd?
Ydw, mi ydwyf. Er nad yw masnach, wrth gwrs, fel y cyfryw, wedi ei ddatganoli, mae'n hynod bwysig bod gennym ni lais cryf, oherwydd efallai y bydd gofyn i ni weithredu canlyniadau unrhyw gytundeb masnach, er efallai ein bod ni’n gwrthwynebu’n gryf unrhyw ran benodol o gytundeb masnach. Mae hynny'n hynod bwysig. Felly, er enghraifft, pe byddai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd neu Awstralia, byddai hynny'n cael effaith enfawr ar ein ffermwyr. Er nad yw hynny wedi ei ddatganoli, rwy'n siŵr na fyddai neb yn dadlau yn rhesymegol nad oes gennym unrhyw le, rywsut, o ran mynegi barn yn hynny o beth. Clywsom leisiau o Awstralia dros yr wythnosau diwethaf yn dweud nad oedd yn bosibl cael cytundeb masnach rydd gydag Awstralia a diogelu buddiannau ffermwyr mynydd Cymru. Wel, rwy’n gwybod hynny, oherwydd os oes gennym ni gytundeb masnach rydd o ran amaethyddiaeth, yna, i lawer o'n ffermwyr mynydd, ni fydd ganddynt unrhyw ddyfodol. Mae'n hynod bwysig bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn yn gallu mynegi barn a chael dylanwad cryf iawn, a gwrthod, mewn gwirionedd, rhannau o gytundebau masnach a fydd yn cael effaith hynod andwyol ar ein ffermwyr ein hunain.
Mae’r mater a godwyd gan yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd yn hanfodol, a nodwyd ers sawl mis bellach y bydd llywodraethu marchnad fewnol y DU yn y dyfodol yn cynnig awgrym o ddyfodol cyfansoddiad y wlad hon. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa gynnydd y mae wedi ei wneud o ran darbwyllo ei gymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gytuno y dylai marchnad fewnol y DU yn y dyfodol gael ei llywodraethu ar y cyd gan wledydd y DU, ac na ddylai gael ei gorfodi arnom gan Whitehall?
Ceir gwahaniaeth barn ymhlith y Llywodraethau. Y farn yn yr Alban, yn y bôn, yw 'bydd Annibyniaeth yn datrys y mater.' Mae’r farn yng Ngogledd Iwerddon yn gymysg. Yn sicr, rwyf wedi clywed cyn-Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn dweud na ddylai fod unrhyw reolau cymorth gwladwriaethol o gwbl. Nawr, mae'n rhaid i ni ddod i sefyllfa, sy’n gwbl resymol yn fy nhyb i, lle’r ydym ni i gyd yn dweud pan fo pwerau yn cael eu trosglwyddo yn ôl o Frwsel, eu bod yn dod i’r gweinyddiaethau datganoledig. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellir cytuno ar hynny—mae Prif Weinidog yr Alban yn cytuno â mi am hynny, felly rydym ni yn yr un sefyllfa. Fy marn i, ac nid wyf wedi clywed llais yn mynd yn groes i hyn, yw os ydym ni am gael marchnad sengl fewnol, mae’n rhaid cytuno ar y rheolau ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu plismona gan gorff dyfarnu annibynnol, nid gan Lywodraeth y DU. Sut gall Llywodraeth y DU eu plismona beth bynnag? Os byddwn yn penderfynu eu hanwybyddu, nid oes dim y gallan nhw ei wneud. Nawr, nid yw hynny o fudd i neb. Mae'n rhaid i ni gael system eglur. Mae'n rhaid i ni gael ffydd mewn system sy'n cael ei hystyried yn wirioneddol annibynnol—nid fel sydd gennym ni ar hy n o bryd ym mhroses datrys anghydfod y JMC lle, os oes anghydfod rhyngom ni a Thrysorlys y DU, mae’n cael ei ddatrys yn y pen draw gan Drysorlys y DU. Mae’n rhaid i’r dyddiau hynny fynd. Gellir gwneud hyn yn berffaith synhwyrol ac yn berffaith briodol er mwyn diogelu buddiannau Cymru.