Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch am eich ateb. Nodaf nad yw Estyn yn edrych ar gyfraddau gadael ysgolion nac ar farn rhieni, gan fethu arwyddion posibl o broblem yn yr ysgol. Os yw rhiant yn tynnu plentyn o’r ysgol oherwydd problem gyda’r ysgol, gallai hynny fod o ganlyniad i bryderon ynglŷn ag addysgu gwael neu oherwydd rhywbeth roeddent eisoes wedi ceisio’i ddatrys gyda’r ysgol. Hefyd, gallai fod yn syml am eu bod wedi symud tŷ, wrth gwrs. Felly, dylid gofyn i rieni sy’n cymryd y cam o dynnu plentyn o’r ysgol o ganlyniad i faterion penodol pam eu bod yn symud y plentyn fel y gellir tynnu sylw at broblemau. Felly, onid ydych yn credu y dylai Estyn gynnwys hynny yn eu hadroddiad?