Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Mai 2017.
Gadewch i ni fod yn glir: mae Estyn o ddifrif ynglŷn â materion ysgol sy’n ymwneud â phresenoldeb ac maent yn eu hystyried yn eu hadroddiadau. Gwyddom mai lefelau uchel o bresenoldeb, a phresenoldeb rheolaidd, yw’r pethau gorau y gall rhiant eu gwneud i wella a chefnogi cynnydd addysgol eu plant.
O ran y rhesymau posibl pam fod plant yn symud ysgol, nid wyf yn credu bod hwnnw’n fater strategol rydym angen i Estyn edrych arno. Os oes gan rieni bryderon ynglŷn â safonau mewn ysgol, mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny, yn bennaf drwy gadeiryddion cyrff llywodraethu pob ysgol unigol, ac os nad ydynt yn fodlon â hynny, drwy’r awdurdod addysg lleol.