Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae disgyblion ledled Cymru, wrth gwrs, dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn sefyll eu profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, ac mae tystiolaeth yn dangos i ni fod profion safonedig arbenigol yn culhau’r cwricwlwm ac yn effeithio’n negyddol ar greadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at y perygl o addysgu plant ar gyfer y prawf, ac nad yw’r amcan yn y pen draw yn ymwneud â gwella addysg y plant, ond yn hytrach â gwella eu gallu i lwyddo mewn profion. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrthdaro’n llwyr â’r argymhellion a gyflwynwyd gan adolygiad Donaldson ar gyfer y cwricwlwm ac sy’n cael eu rhoi ar waith.
Felly, a gaf fi ofyn: a oes gwir angen system brofi fras ac anghynnil arnom i ddweud wrthym yr hyn y mae athrawon, drwy eu hasesiadau, yn ei wybod eisoes?