Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 10 Mai 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau ynghylch profion safonedig? Gadewch i mi fod yn gwbl glir ynglŷn â diben yr asesiadau hynny, gan mai dyna yw eu prif ddiben. Mae’n darparu ffordd arall o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg—ffordd annibynnol o wneud hynny. A chredaf fod hynny’n darparu sicrwydd a ffynhonnell bwysig o wybodaeth i athrawon, i benaethiaid, ac yn hanfodol, i rieni hefyd. Mae’n darparu’r cerrig sylfaen ar gyfer y sgyrsiau hynny gydag athro eich plentyn ynglŷn â’r ffordd orau o gynorthwyo eich plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Fodd bynnag, rwyf wedi cydnabod bod yr asesiadau hyn, mewn nifer o ffyrdd, yn rhai bras, a dyna pam y cyhoeddais fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yr wythnos diwethaf i ddatblygu profion ymaddasol ar-lein, a fydd yn rhoi ffordd hyd yn oed yn well o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg.