<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:49, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Yn eich geiriau eich hun, rydych yn edrych ar nifer o faterion, ond yn y cyfamser rydych yn rhuthro tuag at y diwygiadau i’r cwricwlwm y mae llawer ohonom wedi rhybuddio eu bod yn cronni problemau, gan nad oes capasiti yn y system fel y mae ar hyn o bryd i’r athrawon ymdopi â’r diwygiadau enfawr sydd ar y gweill. A gelwais arnoch eisoes i ymatal rhag cyflwyno’r cwricwlwm yn ôl yr amserlen bresennol, er mwyn inni allu sicrhau ein bod yn ei wneud yn gywir yn hytrach na cheisio’i wneud yn gyflym. Mae NUT Cymru, wrth gwrs, wedi ychwanegu eu llais at y galwadau hynny bellach. Felly, rwy’n gofyn i chi a wnewch chi wrando ar y proffesiwn? A wnewch chi wrando ar y rheini sy’n gweithio yn y rheng flaen sy’n dweud wrthym nad yw rhoi’r holl ddiwygiadau ar waith er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn barod i’w gyflwyno mewn, beth, 12, 16 mis, yn realistig bellach? Neu a ydych yn benderfynol o fwrw ymlaen doed a ddelo?