Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 10 Mai 2017.
Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwrando ar y rheini yn y rheng flaen sy’n datblygu’r cwricwlwm hwn. Mae’r syniad fod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yn unig ac y bydd yn cael ei orfodi ar y proffesiwn addysgu yn wahanol i’r ffordd y mae’r system yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae ein rhwydweithiau ysgolion arloesi, ein hathrawon a’n gweithwyr addysg proffesiynol yn ganolog i’r broses hon. Rydych yn hollol gywir, mae’n rhaid i ni—mae’n rhaid i mi—fod yn sicr fod y proffesiwn addysgu mewn sefyllfa i allu defnyddio’r cwricwlwm newydd cyffrous hwn, a byddaf yn cael fy arwain gan y gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin nid yn unig â maes profiad dysgu ond hefyd ag agweddau dysgu proffesiynol ar y cwricwlwm wrth inni symud ymlaen. Ac os oes ganddynt bryderon, byddaf yn eu hystyried.