Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Darren. Mae’r arolwg addysgu cyntaf erioed wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth inni, nid yn unig ar gyfer ystadegau, ond gwybodaeth ansoddol a data hefyd, ac rydym wrthi’n ei astudio. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn creu system addysg yng Nghymru sy’n cadw ein talent gorau yn ein system, ond sydd hefyd yn recriwtio ein hunigolion gorau a mwyaf disglair i mewn i’r system honno. Felly, fel y gwyddoch, rydym wrthi’n diwygio ein darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon, ac rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o ddenu rhai sy’n newid gyrfa at y proffesiwn addysgu, yn ogystal â mynd i’r afael â materion fel llwyth gwaith, y soniodd Llyr Gruffydd amdanynt, er mwyn i bobl sydd eisoes yn athrawon deimlo cymhelliant i aros yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n falch o ddweud bod y ffigurau recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon eleni yn well na’r hyn a welsom y llynedd ac yn well na Lloegr mewn gwirionedd.