Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 10 Mai 2017.
Cafwyd ymgyrch recriwtio enfawr yn ddiweddar ar gyfer nyrsys newydd yn y GIG yng Nghymru, gyda llawer o arian a llawer o waith hyrwyddo yn cael ei wneud mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau print a chyfryngau eraill yn gyffredinol. Pam nad ydym yn gweld ymdrech debyg i recriwtio’r athrawon sydd eu hangen ar y system addysg yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon pynciau STEM gennym ar gyfer y dyfodol? Oherwydd, fel arall, rydym yn mynd i barhau i lithro i lawr graddfa PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel rydym wedi’i wneud dros y 10 mlynedd diwethaf.