Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 10 Mai 2017.
Hoffwn ailadrodd i’r Aelod, unwaith eto: mae ein ffigur recriwtio ar gyfer pobl sy’n dechrau cyrsiau ym mis Medi eleni yn well na’r llynedd, ac yn well na recriwtio i ddarpariaeth addysg gychwynnol i athrawon yn Lloegr. Ond wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud bob amser. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y pedwar consortiwm rhanbarthol, gan weithio gyda’i gilydd, wedi bod yn cynhyrchu ymgyrch recriwtio i ddenu’r bobl sydd o bosibl wedi cael digon ar system addysg Lloegr er mwyn dangos iddynt y gallant ddod i weithio mewn amgylchedd cefnogol yma yng Nghymru, ac rydym yn gweld canlyniadau o ganlyniad i’r ymgyrch recriwtio honno. Ond os oes gan yr Aelod syniadau newydd ynglŷn â sut y gallwn recriwtio mwy o athrawon, rwyf bob amser yn barod i wrando.