<p>Addysg Alwedigaethol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:03, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae addysg alwedigaethol yn bwysig iawn i blant sy’n derbyn gofal, ac a gaf fi groesawu’r newyddion da iawn a gawsom heddiw ynglŷn â nifer y plant sy’n derbyn gofal ac sy’n cyrraedd y trothwy cynwysedig Lefel 2, sef 23 y cant erbyn hyn? Mae hynny’n dal i fod 37 y cant yn is na’r grŵp cyfoedion, ac yn amlwg mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod mor agos â phosibl at y grŵp cyfoedion, ond mae’n welliant o 10 pwynt canran ers 2012. Gobeithiaf y gallwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn ystyried y newyddion calonogol hwn yn gam cyntaf, a hefyd o ran edrych ar addysg alwedigaethol a sicrhau bod cynnydd yn y cyswllt hwnnw yn cyfateb i’r uchelgais rydym yn ei bennu yn awr ar gyfer cyrhaeddiad addysgol yn gyffredinol i blant sy’n derbyn gofal.