Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 10 Mai 2017.
Gallaf. Rydym yn amlwg yn croesawu’r gwelliant, ond rydym hefyd yn teimlo’n rhwystredig gan ein bod yn awyddus i symud ymhellach ac yn gyflymach. Mae’r sgyrsiau rwyf wedi’u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn canolbwyntio ar sut rydym yn sicrhau bod y bwlch cyrhaeddiad yn cau, a sut rydym yn sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael y gefnogaeth briodol i’w galluogi i wneud hynny. Gall prentisiaethau iau fod yn un ffordd o gyflawni hynny—yn amlwg, nid dyna’r unig ffordd o gyflawni hynny—ond yn sicr, byddwn yn sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bob dysgwr ym mhob rhan o Gymru.