Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch i chi, Mike—dim ond rhoi tamaid o’ch meddyginiaeth eich hun i chi. Rydych yn iawn i ddweud bod yr argyfwng bancio wedi’i achosi gan America, ond wrth gwrs, aeth y Llywodraeth Lafur honno i mewn i’r argyfwng yn 2008 gyda diffyg o £80 biliwn. Nid oeddem yn dechrau o’r safle y dylem fod ynddo.