Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 10 Mai 2017.
A gaf fi yn gyntaf oll atgoffa pobl fod yr argyfwng bancio wedi’i achosi gan farchnad eilaidd yr Unol Daleithiau lle’r oedd pobl yn rhoi benthyg arian a banciau Prydeinig yn prynu eitemau nad oedd ganddynt unrhyw reolaeth drostynt? Achubodd Llafur yn San Steffan y banciau rhag mynd i’r wal. Pe bai’r banciau wedi mynd i’r wal, byddai ein system gyfan wedi mynd i’r wal. A gaf fi—? [Torri ar draws.] Yn bendant.