Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 10 Mai 2017.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech—oherwydd rydych yn amlwg wedi gwneud ymchwil ar hyn—enwi un ariannwr, un person sy’n deall dyled gyhoeddus, a fyddai’n cefnogi’r polisi hwn o roi £500 biliwn arall ar gerdyn credyd y Deyrnas Unedig. Clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ac nid yw’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn cefnogi’r polisi hwnnw.