1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu? OAQ(5)0608(FM)
Yn anffodus, ni allaf wneud sylwadau pellach ar y cynigion hynny ar gyfer newid oherwydd, wrth gwrs, ceir swyddogaeth bosibl i Lywodraeth Cymru, ac ni ellir rhagfarnu’r safbwynt hwnnw.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac rwyf yn ei ddeall, wrth gwrs. Mae hyn i’r gwrthwyneb o'r sefyllfa a wynebwyd gennym ni yn Llangennech, lle ceir gwrthwynebiad gan rieni i newid statws yr ysgol i ysgol cyfrwng Cymraeg. Ceir teimlad yn yr ardal leol yn Aberhonddu bod y cynnig hwn i gau wedi troi’n dipyn o broffwydoliaeth hunangyflawnol oherwydd bod y cyngor wedi, ers nifer o flynyddoedd, cael cynnig i gau’r ysgol, ac maen nhw wedi darparu cludiant am ddim i ysgolion eraill i rieni, felly nid yw'n syndod bod rhieni sydd eisiau i’w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn edrych ar gyfleoedd eraill nawr, gyda'r canlyniad fod cofrestrau’r ysgol wedi bod yn gostwng i lefelau anghynaliadwy. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn cytuno fy mod i’n ceisio bod yn amhleidiol ac o gymorth ar y mater hwn, os nad ar unrhyw fater arall, felly yr hyn yr hoffwn ei ofyn i'r Prif Weinidog yw: yn ogystal â pholisi cydnabyddedig, y credaf sy’n gywir, y Gweinidog dros Addysg Gydol Oes o ran y sefyllfa yn Llangennech—o ddarbwyllo a pherswadio, gan ddod â rhieni gyda ni a mynd gyda'r graen—onid yw'n wir, lle mae rhieni yn dymuno i’w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, y dylech chi ei gwneud mor hawdd â phosibl iddyn nhw wneud hynny? Felly, nid yw ei gwneud yn ofynnol i blant fynd ar daith bws o dros awr ym mhob cyfeiriad bob dydd yn debygol o ddod â mwy o rieni i mewn i'r rhwyd o fod eisiau i'w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly rwy'n meddwl tybed beth, heb, efallai, wneud sylwadau ar yr achos unigol hwn, y gall y Prif Weinidog ei wneud i'w gwneud yn haws i rieni yn y sefyllfa yr ydym ni’n ei gweld yn Aberhonddu i fodloni eu dymuniadau.
Wel, os caf i siarad yn gyffredinol, mae arweinydd UKIP yn gywir o’r safbwynt, mewn sawl rhan o Gymru, bod hyd yr amser teithio i gyrraedd ysgol cyfrwng Cymraeg yn troi rhai rhieni i ffwrdd. Mae'n arbennig o wir mewn rhai rhannau o Gymru lle ceir ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ond mae tipyn o ffordd i'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae Sir Fynwy yn enghraifft sy'n dod i'r meddwl—Ysgol y Ffin, Ysgol y Fenni—mae'n ffordd bell i Ysgol Gyfun Gwynllyw o’r fan honno, ac mae’n rhaid cymryd camau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cael mynediad at addysg uwchradd, yn enwedig yn fwy lleol. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i awdurdodau lleol lunio eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Rydym ni’n edrych ar y cynlluniau hynny ac, os byddwn yn barnu eu bod yn annigonol, yna nid ydym yn cymeradwyo’r cynlluniau hynny. Mater i awdurdodau lleol ledled Cymru yw dangos eu bod yn darparu mynediad digonol at addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn i'r cynlluniau hynny fod yn effeithiol.
Mae gan Lywodraeth Cymru amcan i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y nod yna, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gael cymaint o blant â phosibl yn dechrau eu haddysg nhw trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rŷch chi wedi’i ddweud, mae’n anodd ichi drafod y mater uniongyrchol yma, ond jest fel mater o egwyddor, a ydych chi’n cydnabod yn yr ardaloedd cefn gwlad hynny ei bod hi’n costio mwy i gael y plant i fynd i’r ysgolion yna? A oes yna gydnabyddiaeth tu fewn i’r Llywodraeth, fel ei bod hi yn bosibl? Achos, os ydym ni eisiau cyrraedd y nod yna, fel yr ydych chi’n ei ddweud, mae’n rhaid i ni ei wneud e mor syml â phosibl fel bod y rhieni yna ddim yn gweld rhyw rwystredigaethau yn eu ffordd nhw.
Yn gyffredinol, wrth gwrs, y mwyaf y mae plant yn gorfod teithio er mwyn cael eu haddysg, y mwyaf yw’r rhwystr sydd yn eu cadw nhw rhag mynd i ysgolion cynradd a hefyd ysgolion cyfun. Wrth gwrs, mae hynny’n rhan o’r ystyriaeth yr ydym ni’n ei rhoi i’r cynlluniau strategol sydd gan awdurdodau lleol.
Ynglŷn â’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni fyddaf i ddim yn y swydd hon bryd hynny—fe gaf i ddweud hynny. Bydd y ddogfen derfynol yn ystyried y berthynas rhwng yr iaith a hefyd datblygu economaidd, a bydd hynny’n rhywbeth sy’n cael ei gyhoeddi'r flwyddyn hon, ac wrth gwrs bydd y sefyllfa addysg yn cael ei hystyried yn fanwl fel rhan o’r broses honno.
Rydw i wedi codi’r materion hyn mewn gohebiaeth gyda’r Gweinidog tua mis yn ôl. Nid ydw i ddim wedi cael ateb eto, ond rwy’n gobeithio yn fawr iawn y caf i ateb yn fuan. Mae materion ynglŷn â theitho wedi cael eu codi, ond un peth sydd yn broblematig os ŷch chi’n ceisio trefnu addysg ddwyieithog mewn ardaloedd cefn gwlad yw sut ŷch chi’n cynnal digwyddiadau y tu allan i oriau ysgol a gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth ar gael ar gyfer cynnal digwyddiadau celfyddydol, chwaraeon, ac ati. Beth sydd gan y Llywodraeth i ddweud yn gyffredinol am yr anhawster hynny i sicrhau bod dewis teg wrth ddewis addysg Gymraeg?
Un ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod yna fwy o weithgareddau ar gael, er enghraifft, yw sicrhau bod mwy o ganghennau actif o’r Urdd. Er enghraifft, yn fy ardal i, mae yna un ysgol gyfun Gymraeg ac mae yng Ngwm Llynfi. Nid yw’n ganolog iawn i’r sir, ond mae pob plentyn yn y sir yn mynd yno, hyd yn oed y rhai sy’n dod o Gwm Ogwr, sy’n gorfod teithio dros ddau gwm i fynd yno. Ond, mae’r Urdd yn cynnal gweithgareddau sydd yn sicrhau nad yw pobl yn gorfod teithio i Langynwyd bob tro—maen nhw’n gallu mynd i Ben-y-bont a Phorthcawl. Mae hynny’n un ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod plant yn cael mynediad mewn i awyrgylch Cymraeg y tu fas i’r ysgol heb orfod teithio gormod.