Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Mi ddechreuaf i â’ch pwynt am y targed diagnosis. Mae'r drafft yn nodi ei fod ar gyfer oes y cynllun. Nodais yn fy sylwadau agoriadol ei fod yn rhywbeth yr wyf yn fodlon parhau i’w adolygu, gan fy mod yn gwybod bod nifer o actorion a rhanddeiliaid yn dymuno cael targed mwy uchelgeisiol, ond rwy'n benderfynol bod gennym darged heriol ond gonest. Nid wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol gosod targed uchelgeisiol na ellir ei gyflawni yn ystod oes y cynllun. Rwy’n dymuno cael rhywbeth sy'n real ac yn gyraeddadwy, ond fel y dywedais, sy’n heriol, ac yn cydnabod yr angen i wella ymhellach. Mae hynny'n fy helpu i i ymdrin â'ch pwynt ynghylch nifer y staff sy’n derbyn hyfforddiant. Rydym wedi gosod targed eisoes yr ydym yn credu sy’n un heriol. Yr hyn na fyddaf i’n ei wneud heddiw, i fynd â fi drwy ddadl, yw dewis ffigwr o’r awyr o '100 y cant o staff' neu 'bydd y nifer uchaf posibl o staff, felly, wedi eu hyfforddi'. Ond, eto, mae'n rhywbeth i ni ei adolygu a’i ystyried wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen, ac wrth i ni wneud cynnydd gwirioneddol trwy gydol oes y cynllun hwn tuag at gyflawni ein nodau a'n hamcanion.
Mae'r un peth yn wir am gyffuriau gwrth-seicotig. Rydym yn hyderus bod angen newid a herio’r ffordd y mae ymddygiad rhoi presgripsiynau yn digwydd. Mae gan bob clinigydd unigol gyfrifoldeb am y farn sydd ganddynt a'r gofal y maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer unigolyn o fewn ei gyd-destun. Rydym yn dymuno gweld eglurder o ran y gallu i leihau rhagnodi cyffuriau gwrth-seicotig yn amhriodol. Ond nid wyf am ddweud heddiw y bydd unrhyw dargedau penodol yn cael eu gosod. Mae hynny'n rhan o'r hyn y mae angen i ni ei ystyried wrth lunio a dod i gasgliad terfynol yn y cynllun gweithredu. Unwaith eto, fe ddywedais i fod heddiw, o leiaf yn rhannol, yn ymarfer gwrando ar gyfer yr Aelodau ynghylch yr hyn y bydd gennym mewn gwirionedd yn y cynllun terfynol, i ystyried pa un a fydd targed yn ddefnyddiol—a fydd yn mynd â ni i bwynt lle’r ydym yn dymuno bod—ac yna sut y gallwn fesur yn briodol y cynnydd yr ydym yn ei wneud neu nad ydym yn ei wneud ar gael ymarferwyr clinigol i wneud gwahanol benderfyniadau.
Yna, eich pwynt olaf ynghylch atal camddefnyddio sylweddau ac adferiad. Fe wyddoch fod Rebecca Evans yn arwain ar bolisi camddefnyddio sylweddau a chamau gweithredu ar gyfer y Llywodraeth. Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn y maes hwn er gwaethaf y gostyngiadau yn y gyllideb gyffredinol. Mae hynny ynddo'i hun yn arwydd o’r realiti ein bod yn cydnabod bod hwn yn faes hynod o bwysig, nid yn unig o ran lleihau dementia. Rwy'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed ar ddechrau’r ddadl hon am y cynnydd mewn dementia yr ydym yn gwybod ein bod yn ei wynebu fel gwlad. Mae rhan o hynny yn gysylltiedig ag oedran, ond mae llawer ohono'n gysylltiedig ag ymddygiad hefyd. Mae pob un ohonom yn gwybod ein bod yn gwneud dewisiadau drosom ein hunain sydd â chanlyniad posibl. Gwyddom o astudiaeth Caerffili, a gynhaliwyd dros gyfnod sylweddol o amser ar bobl yn byw yn yr un math o gymunedau yng Nghymru, bod gwneud dewisiadau gwahanol ar y prif ymddygiadau a phenderfynyddion canlyniadau iachach—ar ysmygu, alcohol, deiet ac ymarfer corff—yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar ordewdra fel y gwnaethom ddarganfod yn gynharach, ac a fydd yn cael ei drafod yn nes ymlaen heddiw pryd yr wyf yn gobeithio y byddwn yn pasio Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ond hefyd mewn ystod eang o feysydd eraill. Mae effaith sylweddol o’r dewisiadau a wnawn. Bydd gwneud dewisiadau gwahanol yn well i ni yn y presennol ac nid yn unig ar gyfer ein dyfodol. Mae'n un o'n heriau mawr fel cenedl: pa un a allwn ni benderfynu ar y cyd y byddwn yn gwneud dewisiadau iachach ar gyfer ein hunain ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod.