– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 17 Mai 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad ac yn gyntaf, Hannah Blythyn.
Heddiw yw’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia. Ers 2004 cafodd 17 Mai ei gydnabod fel cyfle i daflu goleuni ar y trais a’r gwahaniaethu y mae pobl LHDT yn dal i’w ddioddef ar draws y byd. Mae’r dyddiad yn arwyddocaol gan ei fod yn nodi penderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd i ddad-ddosbarthu cyfunrhywiaeth fel anhwylder meddwl. Ers hynny, rydym wedi dod yn bell iawn mewn perthynas â hawliau a derbyniad LHDT a gallwn fod yn falch o’r camau rydym wedi’u cymryd yng Nghymru a’r DU.
Mae mynegai blynyddol Rainbow Europe heddiw, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Ryngwladol Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol a Rhyngrywiol Ewrop, yn rhoi’r DU yn y trydydd safle. Gallai safle’r DU wella drwy gryfhau’r deddfau o ran cydnabod rhywedd ar gyfer pobl drawsrywiol. Felly, mae mwy y gallwn ei wneud o hyd i fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r rhagfarn sy’n dal i fodoli. Ni allwn, ac ni ddylem, fod yn hunanfodlon. Dylai’r holl bobl LHDT allu byw eu bywydau yn rhydd rhag ofn ac mae gan bawb gyfrifoldeb i godi llais a gwrthsefyll casineb. Gallwn ni yng Nghymru ddangos arweiniad gartref a thramor wrth amddiffyn a hyrwyddo hawliau LHDT. Mae hyn yn cynnwys cynnig noddfa a chymorth i geiswyr lloches LHDT. Rwy’n gobeithio un diwrnod y byddwn yn byw mewn byd lle nad oes angen tynnu sylw at y trais a’r gwahaniaethu a ddioddefir gan bobl LHDT. Hyd nes y daw’r diwrnod hwnnw, rhaid inni barhau â’n gwaith fel cymuned a gwlad i chwalu’r rhwystrau, a chodi llais yn erbyn casineb a gwahaniaethu.
Rhwng mis Tachwedd 2015 a 2016, aeth prosiect Natur ein Pentref ati i nodi cyflwr bioamrywiaeth ym Mhenparcau, sy’n gartref i 3,000 o bobl ac sy’n cwmpasu 190 erw—hectar, dylwn ddweud—a dyna ble rwy’n byw. Cafodd cofnodion bywyd gwyllt eu creu gan 369 o wirfoddolwyr. Mae rhai uchafbwyntiau’r cofnodion hyn yn cynnwys: nodi tair cacynen newydd, nodi pum rhywogaeth arall o wenyn, gweld madfall ddŵr balfog ar Ben Dinas am y tro cyntaf erioed, ac ailddarganfod gwyfyn rhwyll bluog, a’i nodi, am y tro cyntaf ers 1937.
Roedd y prosiect yn annog pobl leol i feithrin sgiliau i adnabod a chofnodi bywyd gwyllt ar garreg eu drws, gan gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd am fywyd gwyllt, a’r bygythiadau y mae’n eu hwynebu. Defnyddiodd y prosiect gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Facebook, i recriwtio gwirfoddolwyr a hysbysebu arolygon, a hefyd i annog y gymuned, yn eu tro, i rannu eu darganfyddiadau bywyd gwyllt eu hunain.
Roedd yr adroddiad cenedlaethol ar gyflwr byd natur yn tynnu sylw at y diffyg data sylfaenol sydd gennym ar gyfer llawer o’n hamgylchedd, fel yn wir y mae’r adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol. Felly, mae gwyddoniaeth dinasyddion, fel y prosiect hwn ym Mhenparcau, a’r prosiect Capturing Our Coast, yn gallu llenwi bylchau pwysig a helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i anghenion lleol.
Hoffwn longyfarch a diolch i Chloe Griffiths, a arweiniodd y prosiect, a Fforwm Gymunedol Penparcau, Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru am eu gwaith caled. Rwyf bellach yn edrych ymlaen at adroddiad nesaf Natur ein Pentref yn 2018.
Dydd Sadwrn yw Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol. O gwmpas y byd, bydd pobl yn dathlu’r diwrnod y cynhaliodd James Lind y treial clinigol ar hap cyntaf, ar fwrdd llong, ar 20 Mai 1747. Mae Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o dreialon clinigol, ac yn anrhydeddu ymchwilwyr clinigol proffesiynol a’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon, drwy gydnabod eu cyfraniad i iechyd y cyhoedd a chynnydd meddygol.
Mae treialon clinigol yn ffordd bwysig i ymchwilwyr brofi triniaethau newydd, gwella triniaethau cyfredol, a dod o hyd i ffyrdd gwahanol o reoli ac atal clefydau fel canser. Mae bywydau llawer o bobl yn well o ganlyniad i’r gwaith a wnaed drwy dreialon clinigol. Mae’r ganolfan meddygaeth canser arbrofol yng Nghaerdydd yn arloesi mewn triniaethau arbrofol cynnar, gan roi mynediad at therapïau newydd i gleifion yng Nghymru cyn eu bod ar gael fel gofal safonol. Ac mae treialon clinigol hwyr ar driniaethau gwell a mwy caredig ar gyfer canserau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ganser Felindre. Gall y treialon hyn newid arferion clinigol yn y dyfodol. Bydd Partneriaeth Canser Cymru hefyd yn tynnu sylw at arwyr ein treialon yng Nghymru, mewn prynhawn agored y dydd Gwener hwn yn uned treialon clinigol Felindre, ac yng nghyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru.
Rwy’n gobeithio y gallwn i gyd dalu teyrnged ddydd Sadwrn i waith anhygoel ac arloesol ymchwilwyr a gwyddonwyr blaenllaw Cymru, sy’n chwarae rôl hanfodol yn dod â gwaith ymchwil allan o’r labordy ac i mewn i fywydau pobl, a dathlu’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol yng Nghymru gan newid dyfodol miliynau o bobl.