Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 17 Mai 2017.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma. Yn amlwg, mae’n hollol annerbyniol fod landlordiaid yn gosod eiddo yn ddi-rent gan ddisgwyl cael eu ‘talu’, mewn dyfynodau, efo ffafrau rhywiol. Rydw i wir yn gobeithio fod yna ffordd i atal hyn rhag digwydd. Yn anffodus, fel rydym ni wedi’i glywed, mae yna dystiolaeth fod hyn ar waith yn Llundain, Bryste, Birmingham, yr Alban, ac, yn anffodus, erbyn hyn yma yng Nghymru hefyd. Mae yna dystiolaeth i ddangos ei fod o’n digwydd ar draws y byd, ac fe gafwyd adroddiadau o bobl mewn sawl gwlad yn hysbysebu eiddo yn ddi-rent er mwyn cael manteision rhywiol, boed yn rhannu tŷ, fflat neu ystafell sbâr. Mae pobl yn cael eu gorfodi i’r sefyllfaoedd annerbyniol yma yn sgil cyfuniad o resymau mae’n debyg, gan gynnwys rhent drud a phrisiau tai drud mewn dinasoedd a’r ffaith fod angen i’r mwyafrif o bobl ifanc fyw yn y dinasoedd hyn er mwyn cychwyn eu gyrfaoedd.
Gobeithio y gall y gwelliant yma i’r Ddeddf tai atal hyn rhag digwydd yng Nghymru, os ydy’r gwelliant yn cael ei dderbyn. Ond, wrth gwrs, hyd yn oed os ydy’r ymarfer yn cael ei wahardd, mi fydd hi’n anodd gweithredu yn erbyn y rhai sy’n torri’r gyfraith oherwydd natur ddirgel y drosedd. Yn gyntaf, nid ydy pobl sy’n rhentu ystafell yn eu tŷ eu hunain ddim yn dod o dan y system trwyddedu landlordiaid, ac, yn ail, fe all dioddefwyr benderfynu peidio ag adrodd am y drosedd i’r heddlu gan eu bod nhw’n ofn wedyn y byddan nhw’n cael eu hel allan gan y landlord ac yn cael eu gwneud yn ddigartref. Mae adroddiad y Metropolitan Support Trust yn dweud y bydd adrodd am y drosedd yn creu gofid ychwanegol i rai dioddefwyr. Felly, nid oes yna ddim sicrwydd y byddai cynnwys y gwelliant yma a newid y ddeddfwriaeth yn arwain at y newid yr ydym ni am ei weld.
Felly, beth a fyddai’n gwneud gwir wahaniaeth yn y pen draw? Fel y mae David Melding yn sôn, rhan o’r ateb yn sicr ydy darparu mwy o dai fforddiadwy. Os oes yna fwy o dai addas ar gael ar rent fforddiadwy, yna bydd llai o bobl yn cael eu gorfodi i sefyllfaoedd annerbyniol. Mae hefyd angen sicrhau bod yna wasanaethau atal digartrefedd a llochesau o safon dderbyniol, fel bod pobl yn teimlo’n hyderus i adael sefyllfaoedd lle y maen nhw’n dioddef o gamdriniaeth. Ond efallai fod yna gwestiwn cymdeithasol, moesol efallai, ehangach, yn fan hyn hefyd ynglŷn â chyfartaledd rhwng y rhywiau a’r defnydd o ryw fel arf gan un person dros berson arall, ac, yn amlach na pheidio, gan ddyn dros ddynes. Ond efallai fod hynny’n bwnc trafod eang at ddiwrnod arall.
I gloi, felly, mi fyddai gwella’r ddeddfwriaeth yn gallu helpu. Mae trafod y pwnc yma heddiw yma a chodi proffil y mater hefyd yn helpu. Ond rwy’n credu hefyd fod angen rhoi sylw i’r materion hirdymor os ydym ni am weld gwir newid a dileu yr arfer yn llwyr. Diolch yn fawr.