– Senedd Cymru am 2:50 pm ar 23 Mai 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ.
Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi gwneud nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn wyneb y digwyddiadau erchyll diweddar ym Manceinion, rwyf wedi gohirio'r datganiad llafar, 'Plant yn Gyntaf', a fydd yn cael ei aildrefnu maes o law. Bydd y datganiadau llafar ar 'Asesu ar gyfer Dysgu—Dull Gwahanol yng Nghymru', a chod erlyn Llywodraeth Cymru, yn digwydd brynhawn yfory, yn lle’r ddadl gan Aelod unigol y mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i’w gohirio. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, a geir yn electronig ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd busnes am ei datganiad a dweud y byddwn ni, yn amlwg, yn ceisio cydweithredu gymaint â phosibl wrth ail-drefnu'r busnes yn ôl yr angen, yn dilyn digwyddiadau diweddar, ac yn deall yn iawn pam mae'r Llywodraeth wedi ceisio gwneud hynny? Efallai y bydd o gymorth i mi rannu â hi, ac â’r Siambr hefyd, fod gennym ddadl yfory yn enw Plaid Cymru, ar gerddoriaeth fyw, yn sgil yr ymgyrchoedd ynglŷn â Stryd Womanby a Chlwb Ifor Bach ac ati. Deallaf fod y ddeiseb honno o’r ymgyrch honno wedi bod yn llwyddiannus iawn a bod y Pwyllgor Deisebau o blaid cyflwyno eu dadl eu hunain, fel nodwedd newydd o’r Senedd hon, lle gall deisebau o'r tu allan sbarduno trafodaeth ar y llawr. Yn wyneb hynny, hoffai Plaid Cymru dynnu'n ôl y ddadl yfory er mwyn hwyluso’r ddadl ehangach, os mynnwch chi, gan y Pwyllgor Deisebau ei hun, ac er mwyn sicrhau y gellir gweld bod yr ymgyrch hon, a fu’n llwyddiannus iawn ac sydd wedi rhoi egni newydd i bobl yng Nghaerdydd, yn cael ei hadlewyrchu ar lawr y Cynulliad, nid fel dadl plaid wleidyddol, ond fel un a rennir gan holl Aelodau'r Cynulliad i gyfrannu ati. Felly, gallai hynny ryddhau rhywfaint o amser yfory, a allai gynorthwyo'r rheolwr busnes yn ei gwaith.
A gaf i hefyd ofyn rhywfaint ynglŷn â Chynghrair y Pencampwyr ac effeithiau'r digwyddiadau ofnadwy ym Manceinion? Rwy’n gwerthfawrogi yn fawr yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, a'r ymrwymiad y mae eisoes wedi’i wneud, yng nghwestiynau’r Siambr, ynglŷn â’r paratoadau ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr. Gwn fod hynny wedi bod yn drylwyr a’u bod wedi eu derbyn gan yr awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gyfrifol yma. Rydym yn gweld rhai o'r paratoadau eisoes y tu allan i'r Cynulliad, yn barod ar gyfer y llu o ymwelwyr a fydd yn dod yma. Rwy’n gobeithio y bydd hi'n ymuno â mi i anfon neges gref iawn sy’n dweud bod croeso cynnes iawn i bobl yng Nghymru. Rydym yn dymuno gweld pawb yma, a chânt groeso cynnes iawn pan fyddant yn dod yma, ac rydym yn barod ar gyfer y niferoedd hynny, ac mae ein gwasanaeth diogelwch a'n heddlu a phawb yn barod am hynny ac wedi paratoi ar gyfer yr achlysur. Yn anffodus, does dim byd yn newydd am y ffaith fod ymosodiad terfysgol trasig wedi bod ym Manceinion. Bu ymosodiadau tebyg mewn mannau eraill yn Ewrop, yn ogystal ag yn Llundain, wrth gwrs, a bu’n rhaid i ni baratoi ar gyfer hynny. Ond os yw'n briodol i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y paratoadau ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, byddwn i’n croesawu hynny yn fawr.
Rwy’n sylwi hefyd fod y datganiad hir-ddisgwyliedig ar TB mewn gwartheg gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi’i amserlennu. Gofynnaf i’r Llywodraeth ddweud rhywfaint yn rhagor, naill ai drwy ddatganiad ysgrifenedig cyn y—. Oherwydd cyhoeddodd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig ei adroddiad ei hun ar TB mewn gwartheg y bore yma, ac yn fy marn i byddai’n ein helpu ni, oherwydd bod wythnos neu ddwy i fynd—credaf mai ar 20 Mehefin yr ydym yn disgwyl datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai'n ddefnyddiol cael ymateb gan y Llywodraeth i’r adroddiad hwnnw, naill ai ar y diwrnod ei hun neu ychydig cyn hynny, er mwyn i ni allu cael dadl gytbwys ac ymateb i ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet. Os gall y Llywodraeth ymrwymo i hynny mewn datganiadau yn y dyfodol, byddai hynny'n ddefnyddiol.
Mae’r mater olaf yr hoffwn ei godi o natur wahanol, ond tynnwyd fy sylw iddo o Lanelli—cysylltodd un o’m hetholwyr â’m swyddfa i. Bydd y rheolwr busnes yn gwybod bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu cau nifer o swyddfeydd ledled Cymru. Rwy’n cymryd bod unrhyw gyhoeddiad ar benderfyniadau terfynol o ran cau swyddfeydd o'r fath o dan len erbyn hyn, ac ni ddisgwylir eu gwneud cyn yr etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, yn ôl adroddiadau sydd wedi dod i law gan bobl sy'n gweithio yn y swyddfa yn Llanelli, mae paratoadau yn mynd rhagddynt i godi arwyddion 'ar werth' ar gyfer y swyddfa honno. Yn amlwg, mae’r staff wedi cael gwybod am hyn, ac yn pryderu, ac wedi cyflwyno’r pryderon hynny i mi. Roeddwn i eisiau gofyn i’r Llywodraeth a oeddent wedi cael unrhyw arwydd o San Steffan am unrhyw benderfyniadau terfynol ynglŷn â’r swyddfa yn Llanelli, neu yn wir y swyddfeydd eraill yr effeithir arnynt yng Nghymru, ac a yw'n ymrwymiad, hyd y gŵyr hi, na ellir gwneud unrhyw ddatganiad tan yr etholiad cyffredinol, ac a yw hi mewn sefyllfa i wneud unrhyw ddatganiad ar ran y Llywodraeth mewn ymateb i'r pryderon hynny gan fy etholwyr i.
Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas, am roi gwybod i ni am ganlyniad penderfyniad y Pwyllgor Deisebau i gynnig dadl, ac wrth gwrs, am helpu’r ddeiseb honno i'r fath raddau ei bod yn awr yn croesi'r trothwy. Bydd yn ddatblygiad newydd, fel y dywedwch, i ni drafod hyn, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gerddoriaeth fyw a sefyllfaoedd lleol cyfredol. Yn wir, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf ar y materion cynllunio, mae hynny’n golygu y bydd un ddadl yn llai gan yr wrthblaid brynhawn yfory.
O ran UEFA a’r paratoadau, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad ysgrifenedig yr wythnos hon i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion diogelwch a thrafnidiaeth wrth baratoi ar gyfer UEFA y penwythnos ar ôl nesaf. Rydych wrth gwrs yn ymwybodol, fel y dywedodd y Prif Weinidog, iddo gael briff diogelwch y bore yma yn gysylltiedig â'r trafodaethau COBRA, ac y bydd hwnnw yn wir wedi rhoi ystyriaeth i’r digwyddiad pwysig sydd ar ddod. Unwaith eto, mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio’r croeso i Gymru, a'r cyfleoedd, a’n bod ni yma i sicrhau bod pobl yn ddiogel ac, yn wir, bod croeso iddynt i’r digwyddiad mawr hwn yng Nghymru, a fydd unwaith eto yn ein rhoi ni yn ganolbwynt sylw’r byd o ran ein lletygarwch, ein heffeithlonrwydd, ein diogelwch ac yn wir ein cysylltiadau trafnidiaeth. Felly, mae'n briodol iawn, beth bynnag, fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud y datganiad hwnnw, a bydd yn gwneud hynny.
Ynglŷn â’ch trydydd cwestiwn, do, cyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor ar ei ymchwiliad i TB mewn gwartheg, a'r argymhellion a wnaed a'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd. Yn wir, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad yn y dyfodol agos iawn o ran y ffordd ymlaen, ac mae'n bwysig, wrth gwrs, y bydd yn dilyn yr adroddiad hwnnw gan y pwyllgor.
O ran eich pedwerydd cwestiwn, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant—wel, nid wyf yn credu ei fod yn ymwybodol o gael gwybod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy ei swyddogion fod penderfyniadau wedi eu gwneud. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod hyn yn cael ei gofnodi heddiw. Yn amlwg, mae gennym gysylltiadau swyddogol â’r Adran Gwaith a Phensiynau ac rwy'n siŵr y bydd ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn awyddus i egluro'r pwynt. Rwy'n siŵr y dylai ymgysylltiad undebau, hefyd, o ran yr effaith ar y staff a'u hofnau a'u pryderon, yn enwedig yn y cyfnod hwn cyn yr etholiad—y dylid rhoi sylw i hyn.
Arweinydd y tŷ, yn ddiweddar rwy’n ymdrin â nifer o achosion lle gwrthodwyd cais am fathodyn glas newydd gan bobl sydd wedi bod ag un ers sawl blwyddyn. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda'r awdurdod lleol, ond rwyf wedi cael gwybod bod hyn yn digwydd oherwydd nad yw fy etholwyr yn bodloni'r meini prawf cymhwyso mwyach. Serch hynny, ym mhob achos, mae gan yr etholwyr dal sylw amrywiaeth o gyflyrau meddygol difrifol. Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu’r canllawiau a’r system ymgeisio i weld beth y gellir ei wneud am bobl nad ydynt yn bodloni’r gofynion. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr adolygiad hwn, os gwelwch yn dda?
Rwy'n falch bod Vikki Howells wedi tynnu ein sylw at hyn, gan fy mod i o’r farn bod hwn yn fater sy’n debygol o effeithio ar etholwyr eraill ac ar Aelodau Cynulliad eraill. O dan Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflwyno bathodynnau glas i ymgeiswyr yn eu hardaloedd, gan gynnwys penderfynu a yw'r ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth anstatudol i gynorthwyo awdurdodau lleol yn eu dyletswyddau. Mewn achos lle mae ymgeisydd wedi methu ond, eto i gyd, yn agos iawn i fodloni'r meini prawf, gall yr awdurdod lleol ddewis cyfeirio'r achos i’r gwasanaeth cynghori annibynnol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer asesiad pellach.
Cynhelir asesiad meddygol annibynnol gan therapydd galwedigaethol a fydd yn edrych ar symudedd yr ymgeisydd ac yn cynnig cyngor i'r awdurdod lleol ei ystyried. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a'r gwasanaeth cynghori annibynnol i adolygu eu pecyn canllawiau. Bydd yn cael ei ailgyhoeddi yn yr haf. Mae newidiadau yn cynnwys ehangu’r ffin lle gellir cyfeirio ymgeiswyr am asesiad pellach a rhoi rhagor o arweiniad ar y math o dystiolaeth i'w darparu er mwyn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr ddangos sut maent yn bodloni'r meini prawf.
Felly, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi datganiad wrth i’r canllawiau hyn gael eu hailgyhoeddi, i wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol ohonynt ac yn eu deall, a'u bod, felly, yn gallu monitro’n agos ac ymateb i bryderon etholwyr.
Rwyf eisiau gofyn am ddatganiad gan naill ai’r Gweinidog addysg neu Weinidog y Gymraeg—nid wyf yn siŵr pwy fyddai’n gyfrifol—ynglŷn â’r ffaith fy mod i wedi derbyn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer o Aelodau Cynulliad eraill neithiwr, am y ffaith nad yw prifysgol Warwick, yr adran hanes, yn caniatáu safon A iaith Gymraeg fel cymhwyster er mwyn gallu mynd i’r brifysgol yna. Mae’n dweud:
‘grades AAA at A-level in 3 subjects including History. This offer excludes Welsh, General studies’.
Rwy’n credu, wrth gwrs, bod hynny wedi bod yn rhywbeth o ddicter i bobl yn fy ardal i a dros Gymru gyfan. Fe fyddwn i’n hoffi clywed a oes rhyw fath o astudiaeth wedi cael ei gwneud gan y Llywodraeth i weld beth mae prifysgolion yn gwneud yn hynny o beth, neu ai dim ond Warwick, yr adran hanes, sydd yn gwneud hyn. Achos nid wyf yn credu ei fod yn dderbyniol i brifysgolion drin safon A Cymraeg yn israddol i gyrsiau eraill. Fe fyddwn i’n croesawu unrhyw gyfathrebiaeth ar y mater.
Yr ail gwestiwn sydd gennyf yw—ac rwy’n datgan buddiant yn hynny o beth; mae fy chwaer yn cymryd arholiadau safon A ar hyn o bryd—rwyf wedi cael cyfathrebiaeth gan nifer o bobl ifanc sydd yn dweud, er bod yr arholiadau’n digwydd dros gyfran hir o amser, hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, bod nifer o bobl yn cael tri arholiad mewn un dydd, ac maen nhw oll yn ddwy awr o arholiad. Mae digon o amser, efallai, yn yr amserlen i sicrhau na fyddai tri arholiad mewn un dydd. Mae’n rhoi lot o strès ar y bobl ifanc. Rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn cymryd eu hastudiaethau’n ddifrifol, ac mae nifer o’r bobl ifanc sydd wedi dod ataf i yn teimlo mwy o ddigalondid yn sgil hyn. Fe fyddwn i’n hoffi cael datganiad, eto gan y Gweinidog addysg—nid wyf yn pigo arni—er mwyn sicrhau yn y dyfodol, os oes yna ‘clashes’—. Os oes dau arholiad, mae hynny’n iawn, ond mae tri arholiad mewn un dydd yn ormodol i bobl ifanc allu paratoi ar eu cyfer, pan fo sgôp o fewn yr amserlen i sicrhau nad yw hynny yn digwydd.
Diolch yn fawr, Bethan Jenkins. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed y pryderon a godwyd ynghylch Prifysgol Warwick a'r diffyg cydnabyddiaeth honedig o'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch. Gwn ei bod yn gweithredu ac yn ymchwilio ar unwaith i hyn, a byddwn yn sicrhau bod yr ymateb yn cael ei gyhoeddi’n eglur ac yn cael ei gyflwyno, nid i'r Aelod yn unig, ond ar y cyfryngau cymdeithasol o bosibl a'i osod yn llyfrgell hefyd.
O ran eich ail bwynt, ynghylch y pwysau sydd ar bobl ifanc sy’n sefyll yr arholiadau lefel A hynny mewn un diwrnod, mae hynny, unwaith eto, yn fater gweithredol, ac rwy'n siŵr ei fod yn effeithio ar lawer o bobl ifanc, ysgolion a rhieni, o ran y cyrff arholi hynny a’r amserlennu. Ond mae’r pwynt wedi ei wneud a’i glywed.
Diolch i arweinydd y tŷ.