Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 23 Mai 2017.
Mae'n dda clywed gan feddyg teulu sy'n myfyrio ar ei ymddygiad, oherwydd yn rhy aml o lawer, yn anffodus, mae rhai meddygon teulu wedi dilyn y sgript, yn hytrach na chynnig atebion eraill i ofid meddyliol pobl.
Neithiwr, treuliais gryn dipyn o amser yn ceisio cysylltu â phobl nad oeddent wedi cofrestru i bleidleisio er mwyn bodloni’r amser cau, sef hanner nos. Roedd llawer yn falch iawn o gael eu hatgoffa bod angen iddynt gofrestru ac roeddwn i’n llwyddiannus yn hynny o beth. Ond cyfarfûm hefyd â phobl eraill a wnaeth anesmwytho cryn dipyn arnaf. Rwyf wedi cwrdd â nhw o'r blaen. Y rhain yw’r bobl sy'n dweud, ‘Na, nid oes gennyf ddiddordeb mewn cofrestru i bleidleisio; nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn pleidleisio oherwydd bod pob un ohonynt yr un fath, beth bynnag fydd yn digwydd, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i fy mywyd i'.
Mae'r rhain yn bobl sydd mor bell o ymgysylltu â chymdeithas a gwneud unrhyw fath o gyfraniad cadarnhaol y mae yn wir yn eithaf brawychus. Mae hynny o bosibl yn eithaf peryglus hefyd. Nid yw'r rhain yn bobl sy’n brysur yn gweithio'n galed i gael dau ben llinyn ynghyd ar gyfer eu teulu; fel rheol maent yn bobl sydd wedi gadael y gweithlu yn gyfan gwbl ac, mewn rhai achosion, na fydd yn cael mwy na chysylltiad prin â’r gweithlu drwy gydol eu hoes. Nid wyf yn rhyddfrydwr ar y mater hwn. Nid wyf yn credu y dylem ni oddef pobl sy'n byw ar y wlad heb ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gyfrannu unrhyw beth yn ôl. Mae'n wael iddyn nhw ac mae'n wael i'r gymdeithas gyfan.
Mae’n rhaid i ni, wrth gwrs, gefnogi pobl sy'n gadael y gweithle oherwydd rhyw argyfwng personol. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl sylweddol yn ystod ein hoes ac nid yw cyflogwyr bob amser yn deall nac, yn wir, yn cydymdeimlo â'r sefyllfa. Gall colli eich swydd neu gael babi olygu eich bod allan o'r gweithlu am gyfnod sylweddol ac mae pobl yn colli eu hunan-hyder ac nid yw hynny’n peri syndod, ac mewn rhai achosion yn mynd yn agoraffobig, yn methu â goddef bod allan mewn mannau agored nac mewn sefyllfaoedd anrhagweladwy.
Mewn sefyllfaoedd eraill, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddisgrifio, mae pobl yn dechrau defnyddio gwasanaethau y tu allan i oriau arferol fel prop ar gyfer eu poen, ac nid yn unig y mae hyn yn amhriodol i’w helpu i deimlo'n well amdanynt eu hunain mewn gwirionedd—ond mae hefyd yn achosi tagfeydd yn y gwasanaethau brys ar gyfer y rhai y mae arnynt eu hangen. Felly, roedd yn ddiddorol iawn i mi ymuno â’r tîm amlddisgyblaethol ar gyfer mynychwyr rheolaidd sy'n gweithredu ledled Caerdydd a'r Fro. Maen nhw’n edrych ar yr 20 o bobl a welir amlaf yn yr adran damweiniau ac achosion brys, mewn gwasanaethau y tu allan i oriau a meddygfeydd meddygon teulu ar gyfer y mis hwnnw, a chaiff gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu eu hanghenion penodol eu rhagnodi iddynt. Mae'r canlyniadau wir yn drawiadol iawn, iawn: mae 80 y cant o'r bobl hyn yn llwyddo i gael yn ôl ar eu traed ac ailddechrau eu bywydau arferol ac nid ydynt yn faich amhriodol ar y gwasanaethau brys mwyach.
Cymunedau yn Gyntaf sy’n aml yn arwain ar gael pobl wedi eu hatgyfeirio atynt. Maen nhw’n darparu cyrsiau lles, magu hyder, byw bywyd i'r eithaf, rhwydweithiau cymorth cymdeithasol—boed hynny mewn clybiau garddio neu goginio. Fel arfer, yn ôl diffiniad Cronfa'r Brenin, mae gweithiwr cyswllt yn aml yn rhan o’r broses, ac mae'n debyg mai un o'r cwestiynau allweddol i'r Llywodraeth mewn gwirionedd yw: beth fydd yn digwydd pan fydd Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, a phwy fydd y gweithwyr cyswllt sydd eu hangen i arwain yr unigolion trwy sefyllfaoedd cymdeithasol sy’n anodd iddynt, ac i gefnogi gweddill y bobl sy'n rhan o’r grŵp cymdeithasol hwnnw i wybod y bydd cymorth ar gael os bydd pethau'n mynd yn anodd? Rwy'n credu bod Angela Burns wedi gwneud sylwadau diddorol am ran y trydydd sector yn hyn o beth, ond mae angen, yn amlwg, gwasanaethau statudol yn goruchwylio rhywfaint ar hyn hefyd.
Yn olaf, roeddwn eisiau datgan fy mhryder am yr heriau sy'n wynebu pobl ifanc ar hyn o bryd. Mae'r ystadegau a gefais ddoe gan rai o'r gweithwyr cyswllt cyflogaeth sy’n gweithio mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn eithaf brawychus yn wir. Yng ngogledd a dwyrain Caerdydd mae 166 o bobl ifanc blwyddyn 11 sy’n 16 oed ac ar fin sefyll pa bynnag arholiadau y maent yn mynd i’w sefyll—heb unrhyw le i fynd iddo y flwyddyn nesaf. Nid ydyn nhw’n gwybod eto lle y byddant y flwyddyn nesaf, ac mae angen i ni sicrhau na fyddant yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. A gair arall o rybudd yw bod 86 o bobl o'r garfan ddiwethaf a fyddai ym mlwyddyn 12 pe byddent yn dal i fod mewn addysg, nad oes cyfrif o gwbl amdanynt. Nid ydym yn gwybod beth sy'n digwydd i'r bobl hyn. Gobeithio, bod rhai ohonynt mewn cyflogaeth ac yn ennill, ond mae eraill ar goll yn llwyr. Felly, mae angen i ni gyflwyno rhagnodi cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gyfrannu a’n bod yn symud yn raddol tuag at eu galluogi i sefyll ar eu traed eu hunain.