2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithfeydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OAQ(5)0638(FM)
Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Cefais gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Ford Europe cyn y Nadolig. Rydym ni’n ymwybodol o'r cynlluniau ar gyfer y cyfleuster ac rydym ni’n gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid i sicrhau dyfodol y safle a'i weithlu.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ym mis Mawrth, dywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet wrthym fod rheolwyr Ford wedi dweud wrtho y byddai niferoedd cyflogaeth yn aros fwy neu lai yr un fath tan 2021. Dywedodd hefyd ei fod yn meddwl y gallai rheolwyr Ford gyfathrebu'n well gyda’u gweithwyr a'u haelodau ynglŷn â'r amcanion hirdymor ar gyfer y gwaith. Ers hynny, a allwch chi ddweud wrthym a yw Ford wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi pa un a fu unrhyw achosion o ostyngiadau i nifer yr archebion, ac os bu unrhyw ostyngiadau, sut mae nifer y gweithwyr a sicrhawyd yn cael eu defnyddio yn y ffatri—gan gofio, wrth gwrs, y bydd ganddynt arbenigeddau unigol—ac, wrth gwrs, a ydynt wedi bod yn cael diweddariadau rheolaidd ar y nod hirdymor hwnnw a chyflawniad yn erbyn hynny?
Ydy, maen nhw. Ceir nifer o bosibiliadau sy'n cael eu harchwilio yn ffatri Ford. Ni ddylem anghofio, ym mis Medi y llynedd, bod Ford wedi cyhoeddi y byddai'n buddsoddi £100 miliwn yn y safle o ddiwedd 2018. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r her fwyaf y mae'r gwaith yn ei hwynebu yw Brexit. Mae pob un peiriant sy'n gadael y ffatri yn cael ei allforio i'r farchnad Ewropeaidd ac felly bydd y telerau sy'n gysylltiedig ag allforio’r peiriannau hynny yn bwysig cyn belled ag y mae’r ffatri yn y cwestiwn. Ond rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda'r cwmni. Rwyf wedi cyfarfod, yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cynulliad, sawl gwaith gyda nhw a chyda chyngor y gwaith, ac fel Prif Weinidog, wrth gwrs, rwyf wedi cymryd diddordeb mewn sicrhau bod y ffatri yn parhau i weithredu yn y dyfodol ac yn parhau i gyflogi niferoedd tebyg yn y dyfodol.
Ymhellach i’r ateb yna, Brif Weinidog, y mis diwethaf, fe wnaeth pennaeth Ewropeaidd Ford rybuddio bod dyfodol y cwmni ym Mhrydain yn dibynnu ar allu’r Llywodraeth yn Llundain i sicrhau trefniant trosiannol gyda’r Undeb Ewropeaidd, os yw’r Deyrnas Unedig yn gadael y bloc economaidd yna cyn i gytundeb masnach newydd gael ei lofnodi. A ydych chi wedi cwrdd â Ford a Llywodraeth Llundain i drafod y mater ymhellach ers hynny?
Rwyf i wedi cwrdd â phrif weithredwr Ford a hefyd Ford Ewrop, a hefyd, wrth gwrs, mae yna gyfarfodydd yn cymryd lle rhwng y Gweinidog a swyddogion. Mae’n wir i ddweud bod yna bryderon ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes neb yn credu y bydd yna unrhyw fath o gytundeb cyflawn ym mis Mawrth 2019, felly bydd y trefniadau dros dro yn hollbwysig i Ford a hefyd i lawer o gynhyrchwyr eraill. Mae hwn yn rhywbeth mae Ford yn ei ystyried ar hyn o bryd. Maen nhw wedi bod yn siarad â ni ynglŷn â hynny, ac, wrth gwrs, ein safbwynt ni yw hwn: mae’n hollbwysig i Ford a sawl cwmni arall yng Nghymru eu bod yn gallu cael mynediad i’r farchnad sengl heb unrhyw fath o rwystr.