2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2017.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau gofal sylfaenol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0639(FM)
Rydym ni’n parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill i gymryd amrywiaeth o gamau gweithredu i foderneiddio a gwella gwasanaethau gofal sylfaenol sy'n ddiogel a chynaliadwy ac mor agos at gartrefi pobl â phosibl.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Cymdeithas Feddygol Prydain yn rhybuddio, flynyddoedd lawer yn ôl—mor bell yn ôl â 2013, yn wir—bod angen i ni fod yn hyfforddi mwy o feddygon yng Nghymru, ac roedden nhw’n rhybuddio am argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu. Diystyrwyd yr haeriadau hynny gennych ar y pryd, ac eto ers hynny rydym ni wedi gweld dros ddwsin o feddygfeydd teulu ledled Cymru yn dychwelyd eu contractau, gan ddweud eu bod eisiau terfynu contractau—oherwydd problemau recriwtio fel rheol. Mae’r mwyaf diweddar o’r rhain ym Mae Colwyn, fy etholaeth fy hun: yr ail ym Mae Colwyn mewn dim ond chwe mis. Mae hwn yn bryder mawr i'r miloedd o bobl sydd wedi eu cofrestru gyda meddygfa Rysseldene yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, mae mewn canolfan gofal sylfaenol a adeiladwyd yn bwrpasol, y mae'n ei rannu gyda meddygfa leol arall, a cheir pryderon y gallai tynnu contract Rysseldene yn ôl beryglu dichonoldeb y cyfleuster newydd hwnnw.
A gaf i ofyn: pam na wnaethoch chi wrando ar y BMA pan wnaethant godi eu pryderon? Pam na wnaethoch chi gynyddu nifer y swyddi hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru yn ddigonol? Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y diffyg hyfforddiant meddygon teulu dros y blynyddoedd yng Nghymru. Chi sydd wedi bod wrth y llyw—neb arall. Ni allwch feio Llywodraeth y DU am hyn. Felly, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i achub y sefyllfa yn fy etholaeth fy hun ym Mae Colwyn? Ac ar ben hynny, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i wneud yn siŵr bod gan Gymru niferoedd digonol o feddygon teulu yn y dyfodol?
O ran y pwynt cyntaf, yr hyn sy'n bwysig yw'r gwasanaeth a ddarperir i'r rhai sydd ei angen. Nid oes rhaid iddo gael ei ddarparu gyda’r un model ar draws Cymru gyfan. Bydd yn ymwybodol bod dwy feddygfa wedi gwneud yr un peth ym Mhrestatyn: dychwelwyd eu contractau ganddynt. Roedd yr hyn a roddwyd ar waith yn well na'r hyn a oedd yno gynt: gwasanaeth llawer mwy cynhwysfawr wedi ei redeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd. A gwn fod y bwrdd iechyd yn bwriadu darparu gwasanaeth tebyg i bobl Bae Colwyn. Yn ddealladwy, maen nhw eisiau gwybod beth yw dyfodol y gwasanaeth, ond nid oes rhaid iddo ddilyn y model contractwr.
Yn gynyddol, rydym yn gwybod nad oes gan feddygon teulu dan hyfforddiant—llawer ohonynt—ddiddordeb mewn prynu i mewn i bractis; maen nhw eisiau bod yn gyflogedig. Bydd rhai eisiau prynu i mewn i bractis, ond yn gynyddol, maen nhw’n dod allan o'r brifysgol, nid ydyn nhw eisiau dod o hyd i'r arian i brynu i mewn i bractis, ac mae hwnnw'n fater y mae'n rhaid i'r proffesiwn meddygol ei hun ei ystyried o ran yr hyn y dylai'r model fod yn y dyfodol. Bydd y model contractwr yn dal i fod yn rhan bwysig o ddarparu meddygon teulu yn y dyfodol, ond rydym ni’n gweld yn gynyddol bod y rhai iau, yn arbennig, eisiau bod yn gyflogedig ac yn hapus i weithio i fwrdd iechyd yn uniongyrchol.
O ran recriwtio: bydd yn gwybod ym mis Hydref 2016 i ni lansio ymgyrch ryngwladol newydd i hyrwyddo Cymru fel lle i feddygon weithio a hyfforddi. Mae’r ymgyrch genedlaethol honno wedi arwain at gynnydd o 16 y cant i nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu a lenwyd hyd yn hyn, o’i gymharu â'r llynedd. Yn rhan o'r ymgyrch honno, mae cynllun cymhelliant ar waith i recriwtio pobl i rai ardaloedd. Bydd hyfforddeion sy'n cymryd lle hyfforddi mewn ardal benodol yn derbyn rhywfaint o gymorth ariannol, ac mae hynny'n enghraifft ohonom ni’n cyflawni i wneud yn siŵr bod y cyflenwad o feddygon teulu yn ddigonol o leiaf yn y blynyddoedd i ddod.