– Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Dim ond un newid sydd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau'r amser a gaiff ei roi i gwestiynau yfory i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i gwelir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â thrafnidiaeth o ran dau fater, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Mae un yn ymwneud â chynnal a chadw’r A48 drwy Fro Morgannwg. Rwyf wedi codi’r mater hwn gyda chi sawl tro, ac erbyn hyn y mae tu hwnt i bob rheswm fod tyllau caead wedi cwympo a bod gennym dyllau ar y briffordd sy’n cynrychioli’r prif gysylltiad rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, sydd, fel y byddwch yn sylweddoli, yn cael ei defnyddio’n helaeth iawn. Rwyf i’n cyfaddef bod marciau wedi eu rhoi ar y ffordd yn ddiweddar, sy'n arwydd fod gwaith cynnal a chadw yn yr arfaeth, ond fel un sy’n defnyddio’r ffordd hon yn gyson, yn aml iawn, mae'r marciau ffordd yn ymddangos ac yn diflannu, ond nid oes unrhyw waith yn cael ei wneud yn y cyfamser. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran pa waith cynnal a chadw sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cyfnod yr haf, fel y byddwn yn gweld gwelliant gwirioneddol yng nghyflwr y ffordd honno pan fydd misoedd y gaeaf wedi dod?
Yn ail, mae’r ffordd newydd sy'n cael ei hadeiladu i wella Five Mile Lane yn ychwanegiad at y seilwaith trafnidiaeth ym Mro Morgannwg sydd i’w groesawu. Yn amlwg, bu gweithio sylweddol ar y safle hyd yma, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw gynnydd o ran cychwyn ar y cyfnod o adeiladu’r ffordd mewn gwirionedd. Fel y rhoddwyd ar ddeall i mi, roedd i’w gorffen rywbryd yn ystod y flwyddyn nesaf, rwy’n credu. A gawn ni’r wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran sut y mae’r gwaith yn mynd rhagddo? A yw’r amserau wedi eu newid ar gyfer cwblhau'r prosiect hwn, i ni gael gwybod mwy o ran sut y mae’r prosiect gwerth £26 miliwn hwn yn dod yn ei flaen?
Wel, mae Andrew R.T. Davies yn gwybod yn iawn, wrth gwrs, y swyddogaethau a chyfrifoldebau, o ran y ffyrdd ym Mro Morgannwg—oes, mae rhai cyfrifoldebau ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd Cyngor Bro Morgannwg sydd yn cael ei reoli gan y Ceidwadwyr, yw'r awdurdod allweddol o ran y priffyrdd yno, ac nid yw hynny’n unig o ran yr A48 a’r ffyrdd cyfagos, ond yn cynnwys Five Mile Lane hefyd. Nawr, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyllid, y gwn eich bod wedi ei groesawu, R.T. Davies, ar gyfer Five Mile Lane. A hefyd, Cyngor Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am reoli prosiect Five Mile Lane. Felly, rwy'n ffyddiog y byddwch yn gofyn am ddiweddariad gan eich cydweithwyr ar Gyngor Bro Morgannwg.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Cromosom Anghyffredin, ac mae'n ymddangos i mi ei bod yn adeg briodol i dalu teyrnged i waith fy etholwraig Amy Walker. Ganed ei mab hi gyda chyflwr genynnol anghyffredin iawn, ac mae Amy yn ymgyrchu dros well dealltwriaeth o'r brwydrau y mae plant a theuluoedd fel ei theulu hi yn eu hwynebu’n feunyddiol. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r modd y mae’n cefnogi pobl ag anhwylderau prin, a’u teuluoedd hefyd?
Hefyd, mae sgrinio serfigol yn achub tua 5,000 o fywydau ledled y DU bob blwyddyn, felly mae'n destun gofid fod nifer y rhai sy’n cael eu sgrinio erbyn hyn ar ei leiaf yng Nghymru ers 10 mlynedd, ac nad yw un o bob pedair menyw sy’n cael eu gwahodd yn mynd i’w sgrinio. Hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol, felly os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’r modd y mae’n ceisio sicrhau bod menywod yng Nghymru yn manteisio ar y sgrinio a allai o bosibl achub bywydau?
A gaf i ddiolch i Vikki Howells am godi ymwybyddiaeth eto yn y Siambr hon o’r ddwy wythnos ymwybyddiaeth hollbwysig—yn gyntaf, y gwaith sydd wedi ei wneud gan elusen Unique i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylderau cromosom? Mae’n eglur, o ran profiad eich etholwraig, ei bod yn bwysig iawn cydnabod mai hon yw'r bedwaredd wythnos ymwybyddiaeth a gynhaliwyd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw â chlefydau prin megis anhwylderau cromosom. Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu cyntaf ar afiechydon anghyffredin yn ôl ym mis Chwefror 2015. Roedd hynny mewn ymateb i strategaeth y DU ar gyfer clefydau anghyffredin, ac mae cynnydd o ran y cynlluniau sy’n cael eu monitro gan y grŵp gweithredu ar glefydau anghyffredin. Mae hynny’n cynnwys cynrychiolaeth nid yn unig gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, ond hefyd gan y grŵp cleifion, Genetic Alliance. Bydd hynny'n cael ei ddiweddaru i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’w ddiben.
Hefyd, ar eich ail bwynt, o ran ymwybyddiaeth o sgrinio serfigol, mae bron i wyth o bob 10 o fenywod yng Nghymru yn mynychu’n rheolaidd ar gyfer eu profion ceg y groth, ond rydym yn gwybod y bu gostyngiad bychan yn y cyfraddau mynychu y llynedd. Mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith i gadw a chodi cyfraddau cyfranogiad, ac mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau iechyd y cyhoedd lleol, byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i ystyried y nifer sy'n cael eu sgrinio serfigol ym mhob ardal. Mae rhaglen arbrofol hefyd yn edrych ar ddyfodol gweithredu profion HPV, ond rwy’n meddwl cyn belled ag y mae sgrinio serfigol yn y cwestiwn, mae'n rhaid i ni edrych ar y mannau lle ceir y niferoedd lleiaf yn manteisio ar gael eu sgrinio.
Gweinidog, ym mis Mawrth 2017 nid oedd cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hystyried fel bod yn holliach. Roedd hynny'n ymwneud â chontract torri coed a roddwyd am 10 mlynedd er mai hyd arferol contract o’r fath fyddai pum mlynedd. Nid oedd y cwmni a gafodd y contract wedi gwneud cais am y tendr. Dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y cafwyd achos busnes llawn i gyfiawnhau'r penderfyniad, ac yna yn y cyfarfod canlynol gwelwyd nad oedd yr hyn a elwid yn achos busnes yn cynnwys unrhyw ffigwr ariannol—dim un. Dywedodd wedyn nad achos busnes ydoedd. Nid oes unrhyw dystiolaeth, dywedir wrthym, o werth am arian, ac mae amheuaeth fawr am ba un a oedd proses y contract yn gyfreithlon.
Felly, o ystyried yr holl bryderon hyn, ac yn arbennig y pryder sydd yn y diwydiant ei hun, sut ar y ddaear y gall prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru gael caniatâd i ymddeol tra bod cymaint o gwestiynau i'w hateb?
Mae hwn yn gwestiwn amhriodol iawn, yn fy marn i, Llywydd, ond byddwn hefyd yn dweud bod swyddogaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sydd wrth gwrs, o dan gadeiryddiaeth Nick Ramsay, wedi edrych ar y mater hwn, yn enwedig o ran y contract yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdano.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf derbyniodd ein Ann Jones ni y wobr fedal aur fawr ei bri gan y Gymdeithas Gwarchod rhag Tân Genedlaethol yn yr Unol Daleithiau am ei gwaith i sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf i wneud gosod taenellwyr tân yn orfodol ym mhob tŷ sy’n cael ei adeiladu o’r newydd. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi yn y lle cyntaf ymuno â mi a llawer un arall i longyfarch Ann ar ei chyflawniad anhygoel, ond hefyd yn sgil rhoi’r mater hwn ar yr agenda eto, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwella diogelwch rhag tân domestig yng Nghymru?
Wel, mae'n ddrwg gen i nad ydw i’n gweld Ann Jones yn y Siambr ar hyn o bryd i’m clywed yn ategu fy llongyfarchiadau innau at rai Hannah Blythyn i Ann Jones am ei gwobr gan y Gymdeithas Gwarchod rhag Tân Genedlaethol yn ddiweddar. Mae hyn yn bwysig, wrth inni gydnabod, ac rwy'n credu bod hynny’n gyffredin ar draws y Siambr, y gydnabyddiaeth hon o’r hyn y mae Ann wedi ei gyflawni. Mae hwn yn sefydliad rhyngwladol, ac yng ngolwg y rhai ohonom ni sydd wedi bod yma ers i Ann gychwyn ar ei thaith i sicrhau Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, mae hon yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad diysgog Ann i ddiogelwch rhag tân, a'r effaith a’r dylanwad y mae Ann Jones wedi eu cael ar ddiogelwch rhag tân yng Nghymru.
Dylem fod wedi cydlynu amseriad cadeirio’r sesiwn hwn ychydig yn well, a bod yn onest.
Bydd hynny ar y cofnod, Llywydd.
Mae hynny ar y cofnod, ac estynaf fy llongyfarchiadau innau hefyd i’r Dirprwy Lywydd Ann Jones.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â diogelwch yn ysbytai Cymru? Cefais e-bost gan etholwr ddim ond rai dyddiau’n ôl sydd yn anffodus iawn yn glaf canser yn Ysbyty Glan Clwyd, ac fe wnaeth sylw am y ffaith ei fod yn gallu cerdded o gwmpas yr holl ysbyty ar y penwythnos, i mewn ac allan o swyddfeydd unigol. Gallasai fod wedi dwyn cofnodion cleifion, cyfrifiaduron, ffonau—mewn gwirionedd, gallasai unrhyw un a fyddai wedi crwydro trwy'r drws wneud hynny. Mae’n amlwg fod hyn yn destun pryder, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cofnodion cleifion yn arbennig, yn cael eu diogelu mewn modd priodol yn ein hysbytai, yn enwedig dros y penwythnos pryd efallai na fydd neb yn gweithio ynddynt.
Mae Darren Millar yn codi pwynt pwysig, ac rwy'n siŵr y bydd yn ei godi gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn rhoi sylw difrifol iawn iddo, sef yr ystyriaeth o ddiogelwch ar safleoedd, yn enwedig o ran cyfrinachedd cleifion ac, yn wir, diogelwch y staff a’r cleifion.
Arweinydd y tŷ, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ddweud pa un a yw cydweithwyr yn y Llywodraeth wedi rhoi gwybod i chi eto pryd y gallwn ddisgwyl datganiad ynglŷn â Chylchdaith Cymru sydd wedi ei addo inni gan y Prif Weinidog cyn diwedd y mis—[Torri ar draws.] A fyddai'r Aelod anrhydeddus dros Flaenau Gwent—? Os oes ganddo unrhyw beth i'w ddweud, caiff godi a dweud hynny—
Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod anrhydeddus —nad ydyw’n neilltuol o anrhydeddus o ran hynny, gan nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon, i mi gael ei ailadrodd eto, yn Aelod anrhydeddus—ond, nac oes, os gwelwch yn dda, nid oes angen unrhyw gymorth ar y Gweinidog busnes gan Weinidogion eraill wrth ateb cwestiynau sy’n ymwneud â busnes. Adam Price.
Diolch i chi, Llywydd. Pe gallai arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ba bryd y gallwn ddisgwyl y cyhoeddiad hwnnw. Ac, yn y cyd-destun hwnnw, a yw'n bosibl i'r Llywodraeth gywiro’r cofnod o ran nifer o atebion ysgrifenedig yr wyf wedi'u cael gan y Llywodraeth, gan ei bod wedi dod i’r amlwg yn ddiweddarach, ei fod yn anghywir? Mewn un achos, gofynnais pa bryd y cafodd y Llywodraeth wybod gan yr archwilydd cyffredinol am ei fwriad i gyhoeddi'r adroddiad ar Gylchdaith Cymru. Dywedwyd wrthyf bod y Llywodraeth wedi cael gwybod ar 13 Ebrill. Fe ddaeth i'r amlwg wedyn eu bod wedi cael gwybod ar lafar am y tro cyntaf ar 10 Mawrth, ac yn ysgrifenedig ar 17 Mawrth, chwe wythnos yn gynharach.
Gofynnais hefyd syniad pwy oedd hi i awgrymu gwarant o 80 y cant i’r prosiect. Cefais wybod mai’r cwmni a oedd wedi awgrymu hynny ar 15 Ebrill. Daeth wedyn i’r amlwg mai’r Llywodraeth oedd wedi ei awgrymu wythnos cyn hynny. Cefais lythyr oddi wrth y Gweinidog yn cywiro'r gyfres gyntaf o gwestiynau, ond nid yw hynny wedi ei rannu gydag Aelodau, ac wrth gwrs, mae’r cofnod anghywir yn sefyll o hyd, o’r herwydd, yn y cwestiynau ysgrifenedig. Ac o ran y mater arall, cadarnhawyd yn ymhlyg i’r BBC ddoe fod y stori a gefais i’n anghywir.
Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig, cyn inni gael datganiad gan y Gweinidog, fod yr aelodau yn cael gafael ar y wybodaeth gywir ac, yn wir, nid dim ond y datganiad y byddwn yn ei glywed yn y Cyfarfod Llawn, ond hefyd wrth gwrs y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sy’n cyfarfod i drafod adroddiad yr archwilydd cyffredinol, ar 26 Mehefin, rwy’n credu.
Hoffwn achub ar y cyfle i ymateb yn llawn o ran diweddariad ar Gylchdaith Cymru a'r cwestiynau a'r materion y mae Adam Price wedi’u codi. Rydym wedi bod yn gweithio, wrth gwrs, gyda Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd dros flynyddoedd lawer i ddod o hyd i ffordd i weithredu prosiect Cylchdaith Cymru. Nawr, gan fod Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd wedi cyflwyno’i wybodaeth ategol derfynol, mae Llywodraeth Cymru yn cwblhau ei phroses diwydrwydd dyladwy gynhwysfawr ar gynnig Cylchdaith Cymru.
Wrth gwrs—ac mae hyn wedi’i gyfnewid, am bwysigrwydd, sydd wedi’i gydnabod—mae diwydrwydd dyladwy yn rhan bwysig o'r ystyriaeth honno wrth gefnogi unrhyw brosiect. Mae'n gyfle i sicrhau bod cynllun busnes cynaliadwy a chadarn ar waith, a bod y risg yn cael ei rhannu’n deg rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, ac i archwilio effaith economaidd ehangach y cynnig. Ac, fel sydd wedi ei ddweud, unwaith eto, pan fydd y gwaith hwnnw wedi ei orffen, bydd y Cabinet yn ystyried y prosiect a byddwn yn cyhoeddi penderfyniad.
Cafodd y cynnig ffurfiol cyntaf a oedd yn cynnwys y syniad o warant 80 y cant i brosiect Cylchdaith Cymru ei nodi mewn dogfen ddyddiedig 15 Ebrill, 2016. Cafwyd amryw o drafodaethau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy e-bost am beryglon a materion cyfreithiol y prosiect dros nifer o fisoedd cyn y dyddiad hwn, rhwng swyddogion a sefydliadau allweddol eraill, gan gynnwys Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd a'u cynghorwyr nhw, a byddai lefel y warant wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hynny. Yn wir, byddwn yn ychwanegu hefyd bod y Prif Weinidog wedi derbyn gohebiaeth gennych chi ac y bydd yn ateb yn y man.
Rwy’n galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, i ategu fy llais innau at y galwadau am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am sgrinio serfigol, yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol hon. Rydym yn gwybod bod sgrinio serfigol yn atal datblygiad hyd at 75 y cant o achosion canser yng ngheg y groth, ond mae’r nifer sy'n cael eu sgrinio yng Nghymru ar ei lefel isaf mewn 10 mlynedd, ond mae lefelau diagnosis uchel yn peri gofid. Roeddech chi’n iawn i gyfeirio at yr angen i dargedu ardaloedd lle mae'r broblem ar ei gwaethaf. Ledled Gymru, dim ond 70.4 y cant o sgrinio serfigol sy’n digwydd o fewn cyfnod tair blynedd a hanner ymhlith y rhai sydd rhwng 25 a 64 mlwydd oed. Y lefel isaf yw 69.5 y cant yng Nghaerdydd a'r Fro, yna 70.9 yn Betsi Cadwaladr, a 73.6, y lefel uchaf, yn Addysgu Powys. Mae mwy na chwarter y menywod rhwng 25 a 64 ar eu colled o ran hyn, ac nid yw'n llawer gwell dros gyfnod pum mlynedd ychwaith.
Yn sicr, mae’n rhaid i ni annog menywod i siarad â’u ffrindiau, eu mamau a’u merched am y camau y gallant eu cymryd i leihau'r perygl o ganser ceg y groth. A dylai tadau a brodyr ac ewythrod a theidiau, yn ogystal â menywod, siarad â’n hanwyliaid, oherwydd ni allwn fforddio gweld llai fyth o fanteisio ar sgrinio serfigol. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymhelaethu ar eich datganiad cynharach ac yn annog y Gweinidog i ddarparu datganiad yn unol â hynny.
Fy ail alwad a'r olaf sydd gennyf yw am ddatganiad cyn Sul y Tadau ddydd Sul nesaf—a hoffwn longyfarch pob tad sydd yma’n bresennol a gobeithio y byddan nhw’n mwynhau eu diwrnod—ynglŷn â swyddogaeth tadau a chefnogaeth iddynt yng Nghymru. Gweledigaeth melin drafod y DU, y Fatherhood Institute, yw cymdeithas sy'n sicrhau perthynas gref a chadarnhaol rhwng pob plentyn â'i dad, ac â’r rhai sydd fel tad iddyn nhw, gan gefnogi mamau a thadau fel rhai sy’n ennill cyflog ac yn gofalu, ac yn paratoi bechgyn a merched ar gyfer y gwaith a rennir o ofalu am blant yn y dyfodol. Mae maniffesto cyfraith teulu 2017 yn galw am hyrwyddo magu plant yn gyfrifol ar y cyd, ac annog y canlyniadau gorau i blant a theuluoedd. Yn yr Alban y llynedd, dathlodd Fathers Network Scotland, a gefnogir gan Lywodraeth yr Alban, Flwyddyn y Tad, gan ddathlu tadolaeth a phwysigrwydd tadau yn natblygiad plant a’u magwraeth, a galw ar wasanaethau a chyflogwyr i gefnogi tadau, cofleidio arferion cynhwysol sy'n ystyriol o deuluoedd, a chydnabod y gall tad heddiw fod yn sengl neu'n briod, wedi’i gyflogi’n allanol neu'n dad sy’n aros gartref, yn hoyw neu heb fod felly, ac efallai nad ydyw’n dad biolegol hyd yn oed. Gallent fod yn deidiau, ewythrod, tadau maeth, tadau sy'n mabwysiadu, neu’n llystadau, ond disgwylir llawer ganddynt erbyn hyn.
Ond er gwaethaf hyn, a byddaf yn gorffen yn y fan yma, canfu arolwg tadolaeth blynyddol 2016 Canolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod 47 y cant o'r holl dadau yn y DU yn teimlo nad oedd eu gwaith yn cael ei werthfawrogi gan gymdeithas, roedd 46 y cant o dadau ar yr incwm isaf yn crybwyll diffyg patrymau ymddwyn tadolaeth, a thadau newydd yn crefu am well cymorth cymdeithasol ac emosiynol, yn hytrach na bod rhywun yn dweud wrthyn nhw am fod yn ddyn, a dim ond 25 y cant o dadau a ddywedodd eu bod yn cael digon o gefnogaeth i'w helpu i chwarae rhan gadarnhaol ym mywyd y teulu. Cyn lansiad canlyniadau Arolwg Tad Cymru 2017 heno yn y grŵp trawsbleidiol ar dadau a thadolaeth, byddwn yn croesawu eich parodrwydd i edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban a gweld sut y gallem ninnau fwrw ymlaen â rhaglen gymorth yng Nghymru.
Rwy'n falch fod Mark Isherwood unwaith eto wedi dilyn ymlaen ar gwestiwn Vikki Howells am ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgrinio serfigol. Hoffwn ychwanegu fy mod wedi gwneud y pwynt am y ffordd y mae clystyrau gofal sylfaenol lleol yn gweithio gyda thimau iechyd y cyhoedd i ystyried y niferoedd sy'n cael eu sgrinio, yn enwedig yn yr ardaloedd lle ceir y niferoedd lleiaf yn manteisio. Ac maen nhw yn ymchwilio, er enghraifft, i weithgarwch y cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn ffordd newydd o godi ymwybyddiaeth, ond rydych hefyd yn ychwanegu at hynny bwysigrwydd swyddogaeth rhieni, tadau, brodyr o ran codi ymwybyddiaeth o’r rhaglen sgrinio hanfodol hon.
Rydych chi wedi rhoi darlun cadarnhaol iawn o swyddogaeth tadau cyn Sul y Tadau ddydd Sul.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â phresgripsiynau rhad ac am ddim yng Nghymru a rheoliad cost meddyginiaethau yn y GIG yng Nghymru hefyd? Costiodd presgripsiynau rhad ac am ddim £593 miliwn yn 2015. Fodd bynnag, mae cost rhoi rhai cyffuriau ar brescriptiwn yn llawer uwch na'r pris fyddai’n cael ei dalu amdanynt dros gownter archfarchnad. Roedd rhoi paracetamol ar bresgriptiwn yng Nghymru y llynedd, er enghraifft, yn golygu cost o dros £5 miliwn i'r GIG. Er fy mod yn cydnabod nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i newid ei pholisi ar bresgripsiynau rhad ac am ddim, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i edrych ar ffyrdd y gallai triniaethau sydd ar gael yn rhwydd, fel paracetamol, gael eu rhoi i bobl heb bresgripsiwn, gan leihau'r gost i’r GIG, a rhyddhau arian y mae ei angen yn fawr ar wasanaethau eraill y GIG?
Ac mae agwedd arall ar hyn, sef bod un ym mhob pedwar o oedolion Cymru yn ordew, ac mae bron i 60 y cant yn rhy drwm, yn ôl arolwg iechyd Cymru 2015. Ac rwy’n credu bod hynny ynddo’i hun yn peri i oedolion ddioddef diabetes, a oedd yn costio £5 y mis, am bob meddyginiaeth, i feddygfa neu feddyg, dim ond bum mlynedd yn ôl. Nawr, ar hyn o bryd, mae'r gost ymhell dros £35 y mis. Ac o ystyried cymaint mae'r niferoedd yn cynyddu o ran gordewdra a diabetes, rwy'n credu ein bod yn mynd i weld ton fawr o ddiffyg rheolaeth ariannol yn gorchuddio’r GIG yng Nghymru, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth am hynny. Diolch.
Wel, nid wyf yn hollol siŵr i ble y mae’ch cwestiynau chi’n arwain, Mohammad Asghar, heblaw am ddweud y gallaf eich sicrhau yn bendant na fyddwn yn newid ein polisi ar bresgripsiynau rhad ac am ddim, sydd nid yn unig wedi lliniaru mesurau cyni eich Llywodraeth Geidwadol chi dros y saith mlynedd diwethaf, ond sydd hefyd wedi ein galluogi i drin y rhai sy'n dioddef yr anghydraddoldebau mwyaf o ran iechyd yng Nghymru.
A gaf i yn gyntaf gytuno â'r sylwadau blaenorol, a wnaethpwyd gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin, ar Gylchdaith Cymru? Rydym yn mynd i roi ystyriaeth i hyn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddarach yn y mis, felly, yn eglur, gan mai fi yw Cadeirydd hwnnw, byddaf yn ymatal rhag mynegi fy marn tan hynny. Fodd bynnag, byddai'n briodol, rwy’n credu, i ni gael penderfyniad yn sgil ein trafodaethau pwyllgor cyn gynted ag y bo modd, fel y gallwn gael rhywfaint o eglurder am yr hyn sydd wedi bod yn saga sy’n rhedeg yn hir iawn, mae'n ymddangos ei bod—yn tynnu am, wel, cyn belled ag y gallaf gofio erbyn hyn. Ac rwy’n credu y bydd y cwmni, a'r cyhoedd, yn gwerthfawrogi hynny.
Yn ail, y bore yma, arweinydd y tŷ, es i i gyfarfod brecwast agoriadol Cymdeithas Cyfraith Amaethyddol yng Nghymru, a lywyddwyd gan Simon Thomas. Cafodd y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol ei sefydlu yn 1975 ac mae hi’n rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol gwerthfawr tu hwnt i'w haelodau, ac roedd hi’n braf cael eu croesawu i'r Cynulliad; rwy'n gwybod bod y Gymdeithas yn dymuno cynyddu ei phresenoldeb yng Nghymru.
Mae'n amlwg bod hwn yn gyfnod ansicr i’n cymdeithas ffermio, arweinydd y tŷ, gyda phroses Brexit ar y gweill, pobl ifanc yn gadael y diwydiant, ac, wrth gwrs, mater parhaus TB mewn gwartheg. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i weithio'n agos gyda Chymdeithas y Gyfraith Amaethyddol, ac, yn wir, yr undebau ffermio, i dawelu meddyliau ein ffermwyr yng Nghymru? Ac efallai y cawn ni ddatganiad, ar yr adeg iawn, yn y Siambr hon, neu ddadl efallai, ar y ffyrdd y gallwn gefnogi ein diwydiant ffermio drwyddynt, mewn ffyrdd traddodiadol ac efallai edrych ar ffyrdd mwy arloesol. Gan fy mod i’n credu bod hyn yn agwedd hanfodol ar economi Cymru y mae angen ei chefnogi a’i meithrin yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn nodi’r pwynt a wnaethoch am Gylchdaith Cymru, Nick Ramsay.
Ac, o ran eich ail bwynt, wel rwy'n siwr bod hwnnw’n gyfarfod pwysig iawn y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol y bore yma. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod hefyd yn achub ar y cyfle i fyfyrio ar eich pwynt y bydd hi’n anodd iawn—ei bod hi’n anodd iawn ar hyn o bryd i’r gymuned ffermio—ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cydweithio’n agos iawn, nid dim ond gydag undebau ffermio, ond gyda phartneriaid. Felly, rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â ni, yn Llywodraeth Lafur Cymru, i alw am ymrwymiad yn y tymor hwy gan Lywodraeth y DU i gadw addewidion a wnaethpwyd yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli yr un geiniog o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE.
Diolch. Ac, yn olaf, Suzy Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, gan ein bod yn sôn am gadw addewidion, arweinydd y tŷ, mae tua naw mis wedi mynd heibio bellach ers i fater tanau sglodion coed, a dympio sglodion coed yn anghyfreithlon, gael ei godi yn y Siambr hon. Mae'n fater sy'n effeithio’n arbennig ar fy rhanbarth i. A bod yn deg, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn cymryd hyn o ddifrif, wrth gydnabod annigonolrwydd rheoleiddio a'r adnoddau i weithredu'r rheoliadau presennol, heb sôn am reoleiddio newydd. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ofyn am ddatganiad gan ei hadran hi, yn ein diweddaru ni ar gynnydd, ar y meysydd rheoleiddio y mae angen eu diwygio, y dystiolaeth sy'n sail i'r penderfyniadau y mae hi’n eu gwneud ar hyn o bryd, a pha gynnydd sy’n cael ei wneud o ran drafftiau cynnar hyd yn oed efallai o reoliadau gwell a fydd yn ei helpu i atal y mater difrifol hwn, yn enwedig yn fy rhanbarth i, rhag digwydd eto—dod i’r golwg eto.
Diolch yn fawr, Suzy Davies, am hynna. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, fel yr addawodd hi, o ran swyddogion yn rhoi ystyriaeth i hynny. Rwy’n gwybod bod effaith niweidiol tanau sglodion coed yn rhywbeth sydd wedi ei weld ledled Cymru, ac nid yn eich rhanbarth chi yn unig.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.