10. 9. Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 20 Mehefin 2017.
Mae'r grŵp nesaf yn cynnwys gwelliannau technegol. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 3. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i gynnig a siarad am bob un o 33 gwelliant y Llywodraeth yn y grŵp hwn, ond nid pob un yn unigol. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sy'n gyfrifol am drefnu’r pethau hyn am gytuno i roi'r holl newidiadau technegol i mewn i’r un grŵp hwn. Ysgrifennais at yr Aelodau yn gynharach heddiw i roi rhywfaint o gefndir o ran y diben y tu ôl i newidiadau technegol y Llywodraeth a nodir yn y grŵp hwn.
Yn fyr iawn, felly, mae'r gwelliannau yn syrthio i mewn i nifer o wahanol gategorïau. Mae un gwelliant—gwelliant 5—sydd ei angen i adlewyrchu newidiadau i'r Bil a wnaed yng Nghyfnod 2; mae 18 o welliannau sy'n diweddaru cyfeiriadau yn y Bil hwn at baragraffau yn Neddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; mae saith gwelliant sy'n cywiro mân faterion gramadegol neu arddull drafftio; mae pedwar gwelliant sy'n egluro drafftio; mae dau welliant sy'n sicrhau croesgyfeirio cywir yn y Bil; ac yn olaf, mae un gwelliant sy'n newid y disgrifiad yn nheitl hir y Bil i 'waredu deunydd fel gwastraff drwy dirlenwi', sydd yn ddisgrifiad cywir o'r cymhwysedd yn y maes hwn ac mae'n adlewyrchu drafftio mewn mannau eraill yn y Bil hwn.
Nid yw'r un o'r gwelliannau hyn, Dirprwy Lywydd, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i sylwedd y Bil fel y craffwyd arno hyd yma, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n teimlo'n fodlon eu derbyn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am hynny. Nid oes gennyf unrhyw awydd i fynd drwy’r rhan fwyaf o'r gwelliannau hyn chwaith, oherwydd, fel y mae fy mhrif chwip wedi dweud, mae'n heulog y tu allan ac nid ydym yn awyddus i fod yma tan yr oriau tywyll. Fodd bynnag, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pob un o'r gwelliannau hyn, ar wahân i—mae gennym broblem gyda'r gwelliant cyntaf, y prif welliant, ac efallai y gallwch ddarparu eglurhad ar hyn.
Mae’r prif welliant yn cyfeirio at y cyfnod hwyaf a bennwyd yn yr hysbysiad sy'n dynodi'r fan dan adran 54 (3). Fodd bynnag, nid yw gweddill adran 54 yn cyfeirio at uchafswm cyfnodau o rybudd. Mae hyn yn ymddangos i wneud y cyfeirio yn fwy cymhleth, i mi, a byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ar y rheswm am hyn—mae'n ymddangos i fod yn anghywir, o ystyried bod y gwelliannau eraill yn ymddangos i fod yn eithaf derbyniol.
Fy nealltwriaeth i yw bod y gwelliant y mae Nick Ramsay yn cyfeirio ato yn un sy'n sicrhau croesgyfeirio cywir yn y Bil. Bydd man nad yw at ddibenion gwaredu yr ymdrinnir ag o yng ngwelliannau 3 a 25 yn cael ei ddynodi drwy gyfrwng hysbysiad a roddir dan adran 54. Nid wyf yn credu bod anghysondeb yn y Bil o ganlyniad. Rwy'n hapus iawn, wrth gwrs, ar ôl heddiw i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ymateb yn fwy manwl at y pwynt y mae’r Aelod wedi’i wneud ac i gymryd unrhyw gamau, os oes angen unrhyw gamau, ond nid wyf yn credu y bydd.
Diolch. Y cwestiwn yw bod gwelliant 3 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddwn yn symud i bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais.
Dirprwy Lywydd, mae fy nghyfrifiadur wedi torri.
Rwy'n credu y gallwch ddal i bleidleisio.
Rwyf wedi—cyn belled ag eich bod wedi cofnodi hynny.
Iawn. Felly, caewch y bleidlais, felly. O blaid y cynnig 42, 13 yn ymatal. Felly, caiff gwelliant 3 ei basio.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 4.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 4 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 4 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 5.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 5 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 5 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 6.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 6 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 6 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 7.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 7 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 7 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 8.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 8 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 8 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwelliant 9.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw bod gwelliant 9 yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 9 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.