– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 27 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Llywydd, mae tri newid gennyf i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad llafar ar Gylchdaith Cymru. O ganlyniad i hyn, rwyf yn gohirio'r datganiadau llafar ar bolisi a deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth y GIG ‘pathfinder 111’ yng Nghymru tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir yn y datganiad busnes a’r cyhoeddiad, a geir ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar yr honiadau o hiliaeth a gwahaniaethu yn erbyn staff addysgu nad ydynt yn wyn eu croen yn ysgolion Cymru? Byddwch yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd gan Gyngor Hil Cymru ynghylch honiadau o hiliaeth, ac y gallai hynny fod yn anghymell ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig rhag gwneud cais i gael eu cofrestru ar gyrsiau hyfforddi athrawon. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Nid oes digon o bobl o gefndiroedd heb fod yn wyn yn gwneud ceisiadau i fynd ar gyrsiau ar hyn o bryd, a gallai hynny fod yn ffactor o ran tangyflawni yn achos dysgwyr o rai cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig penodol. Felly, byddwn i’n gwerthfawrogi pe gallech drefnu datganiad cyn gynted â phosib.
Diolch i Darren Millar am godi'r pwynt pwysig iawn hwnnw. Mae'n rhaid i’r honiadau hynny gael eu cymryd o ddifrif ac mae hynny’n digwydd. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn awyddus i fynd i'r afael â hynny. Wrth gwrs, dyma’r math o broblem hefyd y gwn, yn ei chyfarfodydd ag undebau addysg—sy’n cael ei drafod.
Hoffwn i godi’r mater ynghylch Cardiff Aviation, a leolir ym Mro Morgannwg. Mae'n gwmni arall sydd wedi derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru, gan addo dod â miloedd o swyddi i dde Cymru. Mae'n ymddangos bellach mai dim ond traean o'r swyddi hynny gafodd eu creu, ac roedd yn rhaid i mi roi sylw i’r ffaith bod Cardiff Aviation wedi methu â thalu unrhyw rent am nifer o flynyddoedd. Mae nawr yn dod i'r amlwg bod eich Llywodraeth wedi talu’r £1.5 miliwn hwn, arian na chewch chi byth yn ôl. Mae hefyd wedi dod i’r amlwg nad yw’r gweithwyr wedi eu talu ers misoedd, a bod eich Llywodraeth nawr yn ymbellhau oddi wrth y cwmni. Pan na fydd y bobl dlotaf yng Nghymru yn gallu talu eu rhent oherwydd y dreth ystafell wely, mae cynghorau Llafur yn taflu’r bobl hynny allan i’r stryd. Pam ydych chi wedi caniatáu i berchnogion ‘Cardiff Aviation’, sy’n filiwnyddion, osgoi cosb am dalu dim rhent, a chithau wedi talu’r ddyled, a pham yr ydych yn ymbellhau eich hunain oddi wrth y cwmni hwn pan ddylech chi fod yn mynnu bod y gweithwyr diwyd yn Cardiff Aviation yn cael y cyflog y maen nhw wedi gweithio amdano?
Mae cwmni Cardiff Aviation ar hyn o bryd yn bodloni ei holl ymrwymiadau ariannol i Lywodraeth Cymru. Mater i Cardiff Aviation Ltd yw rheoli’r gweithlu. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi chwarae unrhyw ran wrth ail-lunio’r gweithlu, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y cwmni. Mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Cardiff Aviation yn fasnachol sensitif ac ni fyddai'n briodol i ni wneud sylwadau ar ei gynnwys.
Yr wythnos diwethaf cawsom y newyddion ofnadwy y bydd Tesco yn diswyddo 1,100 o weithwyr yn ei ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid ar Ffordd Maes-y-Coed yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Cefais gyfarfod ag uwch reolwyr ddydd Iau diwethaf ac ymwelais â'r safle ddydd Gwener gyda fy nghydweithiwr Jenny Rathbone ac Anna McMorrin, yr AS Llafur newydd ei hethol ar gyfer Gogledd Caerdydd. Cawsom gyfarfod â'r gweithwyr a oedd wedi’u siomi’n llwyr gan y newyddion hyn, oherwydd bu presenoldeb am 27 mlynedd ar gyfer y mathau hyn o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan Tesco, a gwn ein bod i gyd yn cytuno bod hon yn ergyd enfawr i'r holl unigolion a’r ardal dan sylw. Roeddwn i’n gallu codi'r mater hwn yn y sesiwn cwestiynau ar yr economi i Ken Skates yr wythnos diwethaf, ond o ystyried y ffaith bod nifer y swyddi mor fawr, ac o ystyried yr effaith a gaiff ar yr ardal, a fyddai'n bosibl naill ai gael datganiad ar y mater hwn, fel y gallwn ei godi, neu ddadl ar y mater penodol hwn?
Diolch i Julie Morgan am godi hyn heddiw. Yn wir, roeddech wedi gallu ei godi ychydig ar ôl cyhoeddi’r newyddion yr wythnos diwethaf pan oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgymryd â'i gwestiynau llafar. Hefyd, Jenny Rathbone ac, wrth gwrs, Anna McMorrin—fe’u gwelsom yn codi hyn yn Nhŷ'r Cyffredin yn glir ac yn rymus iawn. Mae'n newyddion dinistriol i’r gweithlu ac i’w teuluoedd, fel y gwnaethoch chi ei nodi, Julie. Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi eisoes wedi siarad â Matt Davies, prif weithredwr Tesco, i fynegi ein pryderon am y penderfyniad hwn, a phwysleisiwyd ein hymrwymiadau i wneud pob dim o fewn ein gallu i gefnogi'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn, gan weithio, yn amlwg, mewn cydweithrediad agos â Tesco a'r asiantaethau cymorth mawr yn lleol, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith, colegau a chyngor Caerdydd, i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o gymorth ar gyfer y gweithwyr y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt. Ond hefyd, yn bwysig, mae USDAW, yr undeb, yn gweithio'n agos iawn â chydweithwyr i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt, ac yn ymwneud yn agos â’r ymgynghoriad sy’n mynd rhagddi. Rwy'n credu ei bod yn amlwg bod yn rhaid i hyn fod yn fater y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a'r Llywodraeth yn rhoi diweddariad i'r Aelodau arni yn briodol, gan ystyried pwysigrwydd, wrth gwrs, codi'r mater hwn y prynhawn yma yn y datganiad busnes.
Dim ond i ategu'r sylwadau a gododd yr Aelod dros Ogledd Caerdydd—ac mae llawer o wleidyddion o bob plaid wedi cyfarfod â Tesco. Yr hyn a wnaeth fy nychryn i yr wythnos diwethaf oedd, yn amlwg, gadarnhad Ysgrifennydd y Cabinet na chafodd y Llywodraeth unrhyw rybudd o’r diswyddiadau hyn, neu’r diswyddiadau posibl, oherwydd dyna’r term y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio oherwydd ei fod yn destun ymgynghoriad. Yn benodol, ni fu datganiad gan y Llywodraeth hyd yn hyn, o ystyried bod yna alwad gynadledda rhwng y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet, fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y cwestiynau, awr ar ôl iddo ddweud wrth y Siambr am ddigwyddiadau brynhawn dydd Mercher. Rwyf yn credu ei fod yn hanfodol bwysig ein bod yn cael datganiad cynhwysfawr gan y Llywodraeth i ddeall y rhyngweithio rhwng y cwmnïau mawr pan fyddan nhw’n cyrraedd y penderfyniadau hyn. Tesco, gadewch i ni beidio ag anghofio, yw'r cyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru, gydag 19,000 o weithwyr ar hyd a lled y wlad. Mae natur annisgwyl y cynigion hyn yn codi cwestiynau ynghylch lefel y cyfathrebu.
Ond yn ail, byddwn i’n erfyn arnoch chi fel arweinydd y tŷ, pan fo’r cyhoeddiadau hyn yn cael eu gwneud, bod ymateb mwy prydlon ar gael i’r Aelodau ynghylch y camau gweithredu. Ac rwy’n cefnogi'r camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd hyd yn hy. Ond byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe gallem fod wedi cael datganiad mwy prydlon ddiwedd yr wythnos diwethaf a allai fod wedi rhoi gwybod i ni am ganlyniadau'r alwad gynhadledda a gafodd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet, ac unrhyw sicrwydd y gallech fod wedi’i gael gan y cwmni ar lefel mor uchel ynghylch buddsoddi yng Nghymru yn y dyfodol ac, yn bwysig, y posibilrwydd a allai fod o wrthdroi’r penderfyniad hwn. Felly, byddwn i’n gofyn i chi, arweinydd y tŷ, ystyried llif yr wybodaeth gan y Llywodraeth i’r Aelodau pan gaiff cyhoeddiad mor hollbwysig ei wneud. Gadewch i ni beidio ag anghofio, mai hon fydd y golled swyddi unigol fwyaf sydd wedi’i chyhoeddi yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, os caiff ei weithredu ar ôl y cyfnod ymgynghori.
Wel, wrth gwrs, mae Andrew R.T. Davies yn cydnabod yr anghwrteisi—y diffyg gwybodaeth, y diffyg rhybudd am y newyddion dinistriol hyn —i Lywodraeth Cymru brynhawn dydd Mercher diwethaf, a’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud y bydd wedyn yn siarad, gyda'r Prif Weinidog, â phrif weithredwr Tesco—ac, wrth gwrs, y cyfarfodydd a gafodd pob AC ac AS, o bob plaid, â Tesco. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod Tesco wedi pwysleisio nad yw'r penderfyniad hwn yn adlewyrchiad o berfformiad nac o wneud busnes yng Nghaerdydd. Mae'r safle wedi bod yn hynod lwyddiannus ac, yn wir, mae’r ffaith bod y diwydiant gwasanaeth cwsmeriaid yn arbennig o gryf yng Nghymru—mae Caerdydd yn profi ei hun i fod yn lleoliad llwyddiannus a datblygol ar gyfer gweithrediadau ar draws ystod eang o is-sectorau. Ond mae hyn, o ran yr effaith a gaiff ar y gweithwyr—yr effaith ddinistriol—. Rydych yn gwybod bod Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru yn gweithio'n agos iawn i weld sut y gall, ar y cyd â Tesco a'r gweithwyr yr effeithir arnynt, helpu i sicrhau gwaith arall. Ond rydym mewn cyfnod ymgynghori, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad yn briodol.
Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod cynnal safonau uchel yn ein democratiaeth a'n system etholiadol yn hollbwysig. Roeddwn i, felly, yn synnu o weld y datgeliadau ar Channel 4 ddiwedd yr wythnos diwethaf a oedd yn awgrymu y gallai canolfan alwadau yng Nghastell-nedd for wedi torri cyfraith data ac etholiadol wrth gyflawni dyletswyddau ar ran y Blaid Geidwadol yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rwy'n synnu nad oedd amser gan Andrew RT i sôn am hyn. Mae'r honiadau hyn yn cynnwys talu am ganfasio ar ran ymgeiswyr etholiadol, sydd wedi’i wahardd o dan gyfraith etholiadol; galwadau gwleidyddol digroeso i rifau gwaharddedig; a galwadau camarweiniol yn honni eu bod yn gwmni ymchwil y farchnad annibynnol nad yw'n bodoli. Nawr, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ar y mater hwn, ond byddwn i’n ddiolchgar pe byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno datganiad o ran yr hyn y mae'n ei wneud ac yn bwriadu ei wneud, ar y cyd â Chomisiynydd Gwybodaeth Llywodraeth y DU ac eraill, i gynnal a gwella safonau yn ein system etholiadol. Diolch yn fawr.
Wel, rwy’n ddiolchgar iawn bod Dai Lloyd wedi tynnu ein sylw at hyn, ac nid ‘Channel 4 News' yn unig sy’n datgelu hyn i ni—ond, mewn gwirionedd, dyna sut y cawsom yr wybodaeth, ynte, Dai, o ran yr ymddygiad hwn a’i effaith, nad oedd, mewn gwirionedd, wedi gwneud unrhyw les iddyn nhw yn y pen draw, naddo, o ran y canlyniad etholiadol yn yr etholiad cyffredinol. Ond, yn amlwg, mae hwn yn fater y byddem ni, fel Llywodraeth Cymru, yn dymuno ei ystyried yn ofalus iawn.
Mae Bryn Compost Ltd yng Ngelligaer yn fy etholaeth i yn ailgylchu holl wastraff bwyd ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae pobl Gelligaer yn cael eu poeni gan arogleuon o'r cyfleuster compostio caeedig methedig sy'n bodoli yno, ac maent wedi penderfynu yn y tymor hwy beidio ag ailgylchu eu gwastraff bwyd fel protest, ac rwyf i wedi eu cefnogi yn hyn o beth. Mae gosod treulydd anaerobig wedi gwneud rhywfaint i ddatrys rhai o'r problemau. Mae Afonydd Cymru wedi galw am reoleiddio treulwyr anerobig yn well, a nawr mae gen i un yn fy etholaeth i. Er mwyn ceisio datrys rhai o'r materion, sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bwyllgor cyswllt, a oedd yn cynnwys cynghorwyr, trigolion, swyddogion iechyd yr amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gweithredwr, er mwyn, yn gyntaf, goruchwylio'r cyfleuster compostio caeedig methedig, ond erbyn hyn i oruchwylio'r cyfleuster treulio anaerobig.
Mae'n amlwg bod angen gwneud mwy o bosib i graffu ar y diwydiant, ond efallai y gallai Llywodraeth Cymru annog neu hyd yn oed gorfodi awdurdodau lleol â threulwyr anaerobig yn eu wardiau i ddilyn esiampl Caerffili fel enghraifft o arfer gorau. Yn wir, byddwn i’n gobeithio y byddai Caerffili yn cadw eu pwyllgor cyswllt i oruchwylio’r cyfleuster treulio anaerobig hwn. A fyddai Llywodraeth Cymru, felly, yn ystyried gwneud datganiad am reoleiddio a monitro treulwyr anerobig?
Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn hwnnw. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoleiddio a monitro treulwyr anaerobig ar ffermydd, fel y dywedwch. O dan y drefn drwyddedu amgylcheddol, caiff ffermydd gofrestru eithriad, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf a therfynau penodol, er enghraifft faint o ddeunyddiau y gellir eu trin. Ond yn dilyn digwyddiadau diweddar, nid dim ond yr un y gwnaethoch chi gyfeirio ato, Hefin, rydym wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu'r rheoliadau a byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda nhw ar hyn. A bydd y dystiolaeth heddiw, rwy'n siŵr, yn cael ei hystyried.
Arweinydd y tŷ, dair blynedd yn ôl y mis hwn, cyflwynais ddadl fer i'r Siambr hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd gwell o gefnogi pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor, cyflwr hynod greulon sy'n effeithio’n aruthrol ar ddioddefwyr. Y mis hwn yw mis ymwybyddiaeth o glefyd niwronau motor, ac mae’r Gymdeithas Niwronau Motor yn hyrwyddo'r ymgyrch My Eyes Say. Dair blynedd yn ddiweddarach ers y ddadl fer honno, tybed a allech chi ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno polisïau i wella bywydau pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor. Mae'n un o’r cyflyrau prin hynny sydd yn aml, yn y gorffennol, ac efallai weithiau yn ddealladwy, wedi diflannu o’r agenda wrth ei ystyried ochr yn ochr â chyflyrau eraill, fel clefyd y galon a chanser. Ond i’r bobl hynny sy'n dioddef ohono, mae'n newid bywyd, a byddwn i’n dymuno gweld sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella amodau i bobl sy'n dioddef o hynny.
Yn ail a gaf i ofyn: rai blynyddoedd yn ôl, gofynnais i Weinidog blaenorol yr economi—wel BETS, fel yr oedd bryd hynny: busnes, menter a thechnoleg—am adolygiad o’r rhaglen cefnffyrdd yng Nghymru. Fe wnaeth, bryd hynny, ymrwymo i gynnal adolygiad o'r system gefnffyrdd. Tybed a fyddai modd i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein sefyllfa o ran hynny, a beth oedd canfyddiadau'r adolygiad hwnnw. Mae rhai mannau ledled Cymru lle ceir damweiniau rheolaidd, sy'n ymwneud â'n rhwydwaith cefnffyrdd, y mae angen mynd i'r afael â nhw o hyd. Mae cyffordd yr A40 a'r A449 yn fy etholaeth i yn un o'r mannau hynny lle bu damwain arall yn ddiweddar—cyffordd sy’n peri pryder aruthrol. Ymrwymodd y Gweinidog blaenorol y byddai mannau peryglus fel hyn yn cael eu hystyried yn rhan o'r adolygiad hwnnw o'r strategaeth cefnffyrdd. Tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny.
Diolch i Nick Ramsay am godi ymwybyddiaeth unwaith eto o glefyd niwronau motor. Mae'r ffaith ei bod yn fis ymwybyddiaeth yn golygu y byddwn yn clywed amdano, rwy'n siŵr, fel Aelodau Cynulliad, a byddwn ni i gyd yn gwybod am etholwyr ac aelodau teulu y mae’r clefyd hwn yn effeithio’n ddirfawr arnynt. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, sy’n gyfle i gael diweddariad ar ei gynnydd, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wneud hynny.
Ar eich ail bwynt, o ran y rhaglen cefnffyrdd, mae'n rhaid i mi ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yn amlwg drwy ei swyddogion, yn adolygu effaith nifer o ddigwyddiadau yn rheolaidd, yn enwedig o ran y rhwydwaith cefnffyrdd ledled Cymru, a chyhoeddodd datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar rwydwaith cefnffyrdd y gogledd. Ond, unwaith eto, byddwn yn edrych ar sefyllfa’r adolygiad hwnnw, y nodwyd gennych iddo gael ei gyhoeddi sawl blwyddyn yn ôl, o ran y trefniadau presennol.
Rwyf am godi mater cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd cefn gwlad gyda chi, os caf i. Mae yna feddygfa yn fy rhanbarth i, yng Nghorwen, sy’n gwasanaethu 4,000 o bobl, yn yr ardal sy’n ffinio Gwynedd, Conwy a sir Ddinbych. Mae’n ardal wledig iawn, lle maen nhw wedi bod yn derbyn grant gwledig gan y bwrdd iechyd lleol i sicrhau bod y gwasanaeth yna yn gynaliadwy. Maen nhw hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ychwanegol, megis profion gwaed, ac mae un o’r partneriaid yn arbenigwr ar faterion y galon. Ond mae’r bwrdd iechyd erbyn hyn yn tynnu’r grant yna yn ôl, ac yn dweud bod angen iddyn nhw fel meddygfa arallgyfeirio. Nawr, mae hynny’n eu rhoi nhw, wrth gwrs, mewn sefyllfa amhosib, i bob pwrpas, a chofiwch hefyd fod hyn yn digwydd yng nghyd-destun colli ysbytai cymunedol sydd wedi bod yn darparu rhai o’r gwasanaethau pwysig yma mewn sefyllfaoedd gwledig—o Langollen yn y dwyrain, i Flaenau Ffestiniog yn y gorllewin.
Felly, a gaf i ofyn i chi sicrhau bod yr Ysgrifennydd iechyd yn dod â datganiad i’r Senedd yma ynglŷn â pha gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i sicrhau bod gwasanaethau iechyd, fel yng Nghorwen, yn gallu parhau i fod yn gynaliadwy mewn ardaloedd cefn gwlad? A ydy’r Llywodraeth yn hapus bod y bwrdd iechyd lleol yn tynnu y grant penodol yma yn ôl, ac yn tanseilio cynaliadwyedd meddygfeydd gwledig yn y gogledd, fel yng Nghorwen? A beth yn union yw gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru, o safbwynt sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd yn ein hardaloedd gwledig ni?
Wel, mewn ymateb i'r cwestiwn hwnnw, mae'n bwysig cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r practis meddyg teulu yng Nghorwen i gytuno ar gymorth cyllid parhaus, yn unol â fframwaith asesu cynaliadwy meddygon teulu Llywodraeth Cymru. A dylai hynny helpu’r practis i barhau i ddarparu gwasanaeth i drigolion Corwen, a'r ardal gyfagos. Yn wir, maent yn cwblhau taliad am wasanaethau cardioleg ychwanegol, wedi’u darparu gan y practis. Mae'r bwrdd iechyd yn ymrwymedig i wneud buddsoddiad sylweddol i ddatblygiad canolfan iechyd Corwen, ac ar hyn o bryd mae’n tendro am gontractwyr, i gwblhau cynlluniau ar gyfer y datblygiad. Felly, yn amlwg, mae hynny, rwy’n gobeithio, yn ddiweddariad i chi o ran y cynnydd a wnaed i gydnabod y materion yn y maes hwnnw. Ond, wrth gwrs, rydym yn parhau i fuddsoddi’r lefelau uchaf erioed o gyllid mewn gofal sylfaenol.
I fynd ar drywydd y pryderon a godwyd ynghylch Tesco, roeddwn i’n bryderus iawn o ddarllen bod Tesco wedi ysgrifennu llythyr at aelodau staff, yn nodi mai eu prif bryder oedd parhau i ganolbwyntio ar y cwsmer, ond yn methu â sôn bod y pwyslais hwnnw ar gwsmeriaid yn ddibynnol ar gyfraniad teyrngar eu staff, sydd, i mi, yn gôl gartref, o ran cysylltiadau cyhoeddus. Felly, rwy'n arbennig o awyddus i ddysgu beth all y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y 1,200 o bobl a allai fod yn colli eu swyddi o fewn chwe mis—pa wasanaethau pwrpasol fydd ar gael iddynt i sicrhau bod ganddynt ddewisiadau clir o ran cam nesaf eu gyrfa?
Yn ail, rydw i eisiau codi'r pwnc o gamblo gormodol a grybwyllwyd yn fyr yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roeddwn i’n rhan o banel mewn seminar ddydd Mercher diwethaf, a drefnwyd gan y Stafell Fyw, o’r enw Curo’r Bwci, sef yr unig sefydliad, hyd y gwn i, sydd mewn gwirionedd yn cynnig gwasanaethau i drin pobl sy'n gaeth i gamblo. Ac o ystyried faint o niwed y gall gamblo ei wneud yn ein cymuned, tybed a fyddai modd inni gael dadl i allu trafod ymhellach yr hyn y gallem ni fel Cynulliad ei wneud i guro’r broblem benodol hon. Rwy’n synhwyro bod cefnogaeth drawsbleidiol eithaf sylweddol i wneud rhywbeth am hyn, cyn iddi fynd yn broblem fwy byth.
Diolch, Jenny Rathbone. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod Tesco yn sylweddoli bod y cyhoedd yn pryderu—bod eu cwsmeriaid yn bryderus iawn, am y ffordd y mae’r gweithlu wedi ei drin yng Nghaerdydd. Ac, wrth gwrs, mae cynifer o bobl sy'n gweithio, a theuluoedd a chymunedau, wedi eu heffeithio gan eu cyhoeddiad dinistriol yr wythnos diwethaf. Mae’n dangos eu diffyg dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o'r teyrngarwch a’r ymrwymiad sydd wedi bod yn amlwg iawn gan staff yn Nhŷ Tesco. Rwy'n credu fy mod i wedi sôn am ffyrdd yr ydym, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r asiantaethau cymorth yn lleol—Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith, colegau a Chyngor Caerdydd—ac yn gweithio gydag Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ac â fforwm canolfan gyswllt Cymru hefyd. Ac wrth gwrs, wrth i staff medrus ymuno â'r farchnad swyddi yn ystod y flwyddyn nesaf bydd yn bwysig sicrhau cyflogaeth amgen, a hefyd ddiddordeb sylweddol gan gwmnïau ar draws y rhanbarth i ddefnyddio’r talent a’r sgiliau yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, a chyfleoedd gwaith a grëwyd yn y canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid rheoledig eraill. Mae'n bwysig, fodd bynnag, bod y neges honno yn mynd yn ôl i Tesco am y lefel o bryder gwleidyddol a chyhoeddus ynghylch y cymorth y gallwn ei roi.
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae ein cyfrifoldeb ni yn ymwneud yn benodol ag effaith gamblo gormodol. Hynny yw, yn amlwg, mae atal yn hollbwysig, ac rwy'n credu bod hwn yn faes lle gallwn weld ffordd briodol ar gyfer cyflwyno dadl neu ddatganiad.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector prifysgolion yng Nghymru i helpu i gynyddu gwerth ychwanegol gros. Bydd y sector prifysgolion yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu economi hynod fedrus, hynod addysgedig a hynod gynhyrchiol. Dylai datblygiadau gynnwys parciau gwyddoniaeth a ddatblygwyd gan y prifysgolion, fel Caergrawnt ac Aarhus yn Nenmarc, yn ogystal â chynyddu nifer y myfyrwyr a chefnogi arloesedd.
A gaf i hefyd ategu cais Jenny Rathbone am ddadl ar gamblo a phroblemau gamblo? Pan mae gennych beiriannau gamblo a all gymryd £100 mewn 20 eiliad, gall hynny greu problemau difrifol iawn, iawn i nifer fawr o bobl. Gwn am y gwaith y mae fy AS lleol, Carolyn Harris, yn ei wneud yn San Steffan wrth geisio cael camau gweithredu, ond rwy’n credu ein bod yn y pen draw yn ymdrin â phroblemau’r gwasanaethau cymdeithasol. Pan mae modd colli £300 mewn un funud, ni all llawer o bobl yng Nghymru fforddio gwneud hynny, felly os gwelwch yn dda a gawn ni ddadl ar hyn, fel y gofynnodd Jenny Rathbone amdani?
Wel, byddwn i, unwaith eto, mewn ymateb i’r ail gwestiwn hwnnw, yn dweud bod hyn yn—. Rwy’n cydnabod yn glir iawn y gwaith y mae Carolyn Harris yn ei wneud a’r effaith y mae hi wedi ei chael fel eich AS. Ond rwyf i hefyd yn credu ein bod wedi ein hargyhoeddi, ac mae'n amserol ein bod yn edrych am amser a threfniant priodol ar gyfer cynnal dadl ar effaith gamblo.
Wrth gwrs, ynghylch eich pwynt sylweddol cyntaf: mae prifysgolion, wrth gwrs, yn hanfodol i les economaidd Cymru. Rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddylanwadu ar ac annog cydweithredu, sy'n hollbwysig, rhwng ein prifysgolion a busnesau, gartref a thramor. Ac rwy’n credu mai sylfaen ymchwil prifysgol gref sydd, mewn gwirionedd, yn sail i'n heconomi ffyniannus ni, a chyfeiriwyd at hynny yr wythnos diwethaf, yn wir, mewn dadl ar effaith Brexit.
Diolch i arweinydd y tŷ.