Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Gallaf. A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gyfraniad a’i gwestiynau? Rwy’n cytuno mai fy mai i yw bod y gyfundrefn ganiatâd i restru henebion a rhestru adeiladau yn dryloyw, ei bod yn agored i graffu a’i bod yn dryloyw, ac am y rheswm hwnnw, rydym wedi ymdrechu i sicrhau bod gan y rhai a allai gael eu heffeithio gan gofrestru heneb neu restru adeilad y gallu i ofyn am adolygiad. Yn awr, mae’n gwbl hanfodol yn ei thro, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod, bod y broses adolygu yn annibynnol. Felly, am y rheswm hwnnw, byddem yn disgwyl i’r Arolygiaeth Gynllunio wneud penderfyniad yn achos adolygiad i sicrhau bod annibyniaeth, a bod y cyfrifoldebau yn cael eu cadw’n ddiogel ar wahân i rai Cadw.
Cyn belled ag y mae’r ymgynghoriad ar y gwaith pellach sy’n mynd i gael ei wneud yn y cwestiwn, rwy’n meddwl fy mod i wedi amlinellu yn fy natganiad fy mod yn credu bod angen i ni ymgynghori mor eang ag y bo modd ar draws y sector, ac mae hynny’n cynnwys nid yn unig arbenigwyr, ond hefyd bobl y gellid effeithio arnynt. Rwy’n credu ei fod yn hollol hanfodol bod perchnogion a deiliaid adeiladau hanesyddol yn cael cyfle i gyfrannu at y ddadl, y drafodaeth ac, yn y pen draw, at ddeddfwriaeth pe digwydd iddi gael ei chyflwyno.
O ran gerddi a pharciau a’r rhestr o barciau a gerddi hanesyddol, rydym yn credu bod bron 400 o’r rhain yng Nghymru. Mae’r gwaith sydd wedi digwydd hyd yn hyn wedi cynnwys nifer fawr o berchnogion a deiliaid. Nod y rhestr yw sicrhau bod gennym gofnod hanesyddol sylweddol a chynhwysfawr o’r holl barciau a gerddi yng Nghymru. Mae gorfodaeth yn fater mwy anodd i ymdrin â hi oherwydd yn aml ni ellir cyflwyno gorfodaeth mewn modd cyflawn a theg i berchenogion. Rhaid cofio bod parciau a gerddi hanesyddol yn agored i newid yn yr hinsawdd ac na allant fod yn gyfrifol am ddigwyddiadau neu am ddirywiad parc neu ardd. Roedd hyn yn rhywbeth a ystyriwyd—trefn orfodi ac amddiffyn—ond ystyriwyd ei bod yn rhy anodd ei reoli mewn ffordd debyg i’r cynigion ar gyfer amddiffyniad cyfreithiol i enwau lleoedd hanesyddol. Mae gwneud yn siŵr bod rhywbeth yn gymesur ac yn ymarferol yn hanfodol, ond mewn cysylltiad â pharciau a gerddi hanesyddol, ystyriwyd efallai na fyddai modd cyflawni camau o’r fath.