2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
2. A wnaiff y Comisiwn archwilio rhinweddau sefydlu cynllun lleoli Llywydd er mwyn gwella argaeledd interniaethau â thâl gydag Aelodau’r Cynulliad? OAQ(5)009(AC)
Diolch. Mae gan rai Aelodau brofiad o gynnal lleoliadau interniaeth yn y Cynulliad. Caiff y rhain eu rheoli ym mhleidiau gwleidyddol y Cynulliad a sefydliadau addysg uwch, neu gan Aelodau unigol trwy eu cysylltiadau eu hunain. Mae cyflwyno interniaid i waith y gwleidyddion a’r grwpiau gwleidyddol yn rhan bwysig o wneud y corff yma yn hygyrch ac o ennyn diddordeb pobl yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yma. Byddai angen rhoi rhagor o ystyriaeth i’r syniad o symud i gynllun gan y Llywydd i ddarparu lleoliadau â thâl, o gofio’r trefniadau cymorth ariannol ar gyfer staff Aelodau’r Cynulliad.
Diolch i’r Llywydd. Diolch, Elin, am eich ymateb. Rwy’n falch o weld nad ydych wedi cau’r drws ar y syniad. Credaf ei fod yn werth ei archwilio. Eleni, mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi cyflwyno’r cynllun hwn, ac mae’n ymgais i oresgyn y problemau symudedd cymdeithasol gydag interniaethau a lleoliadau. Yn rhy aml o lawer, fel y gwyddom, mae lleoliadau yn tueddu i ffafrio’r teuluoedd sy’n gallu fforddio cynnal pobl ifanc sy’n mynd ar leoliadau hwy a swyddi preswyl, neu’r rheiny sydd â’r cysylltiadau iawn, a chredaf y byddai’n rhagorol pe gallai sefydliad blaengar fel hwn arwain y ffordd—nid dilyn yr hyn a wna’r Senedd yn unig, ond edrych ar gyfleoedd am ysgoloriaethau a gynorthwyir am gyfnodau byr o dri mis, er enghraifft, fel y gall myfyrwyr Cymru ddod yma i ddysgu am yr ymwneud democrataidd a gwleidyddol yn y sefydliad hwn, ac yn enwedig y rheiny na fyddai fel arfer yn cael y cyfle hwnnw, naill ai oherwydd materion yn ymwneud â diffyg cymorth a diffyg cyllid, neu fel arall oherwydd eu bod yn dod o lwybrau addysgol lle nad yw’r hyder ganddynt, yn draddodiadol, i fwrw ymlaen â hynny ar lefel ôl-16. Felly, croesawaf y ffaith nad yw’r drws wedi cau’n glep ar hyn, a byddwn yn fwy na pharod i helpu mewn unrhyw ffordd i archwilio hyn ymhellach, oherwydd credaf y byddai i ni arwain y ffordd mewn modd blaengar a fydd yn mynd i’r afael â symudedd cymdeithasol yn adeiladu ar enw da’r sefydliad ifanc hwn o ran gwneud y peth iawn ac arwain drwy esiampl.
Wel, yn sicr, nid yw fy nrws wedi cau ar y mater hwn, ac rwyf wedi edrych gyda diddordeb ers i chi ddechrau gohebu â mi ar gynllun y Llefarydd yn Nhŷ’r Cyffredin mewn partneriaeth â’r Creative Society. Cytunaf â’ch dadansoddiad fod yr interniaid rydym wedi’u cael yn y lle hwn ac mewn mannau eraill wedi dod o’r cefndiroedd arferol neu’r lleoedd arferol, yn enwedig y rhai sy’n fyfyrwyr gwleidyddiaeth yn ein prifysgolion, er enghraifft. Ac er bod hynny, wrth gwrs, yn werthfawr ac yn fuddiol i bawb sydd wedi ymgymryd â’r gwaith hwnnw, mae’n rhaid inni sicrhau bod ein gwleidyddiaeth, ein grwpiau gwleidyddol, a’n gwaith fel Comisiwn, yn hygyrch i eraill na allant o reidrwydd fanteisio’n uniongyrchol neu ar unwaith ar gyfleoedd interniaeth.
Mae yna broblemau y byddai angen i ni eu hystyried yn ofalus mewn perthynas â’r materion hyn. Problemau cyllid, wrth gwrs, sy’n dod i’r meddwl yn gyntaf, a gwn fod y bwrdd taliadau ar fin cychwyn adolygiad o gymorth staffio i Aelodau, ac efallai fod hwnnw’n fater yr hoffai’r Aelodau wneud sylwadau i’r bwrdd taliadau yn ei gylch, ond byddwn yn sicr yn awyddus i weithio gyda’r Aelodau yma i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i ni, pa bartneriaid sydd i’w cael a allai fod yn awyddus i weithio gyda ni ar sefydlu rhaglen interniaeth o’r math hwn, fel y gall yr holl bobl ifanc yng Nghymru, a thu allan i Gymru, sy’n credu y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan a gweithio yn y sefydliad hwn, deimlo bod yna ffordd y gallent wireddu’r dyhead hwnnw.
Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth i gynnig Huw Irranca-Davies, a chroesawaf eich ymrwymiad ar draws y bwrdd, Llywydd, i sicrhau bod gwleidyddiaeth yn fwy hygyrch yn y sefydliad hwn. Roedd un o fy mlaenoriaethau fy hun a addewais cyn cael fy ethol yn ymwneud â sicrhau bod ein gwleidyddiaeth a’n gwleidyddion yn llawer mwy hygyrch—nid fi fy hun yn unig, ond sut i greu rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan a deall. Credaf fod Huw wedi gwneud rhai pwyntiau dilys ynglŷn â sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb, nid yn unig ar gyfer y bobl sydd â’r gallu a’r cysylltiadau i wneud hynny. Credaf ei bod iawn ac yn briodol ein bod yn ceisio dod o hyd i ffordd o allu talu interniaid, o leiaf, ac os oes modd, dylem dalu’r cyflog byw. Credaf mai un o’r pethau y sonioch amdanynt yw anhyblygrwydd ein cyllidebau staffio ar hyn o bryd, nad ydynt yn caniatáu i Aelodau allu gwneud hynny pe baent yn dymuno. A chredaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni sicrhau bod y bwrdd taliadau yn ei ystyried. Credaf mai un peth yr hoffwn ei ofyn, gan adeiladu ar yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ynglŷn â’r posibilrwydd o ysgoloriaethau byrrach, efallai—rwyf wedi gweld gwleidyddion eraill mewn mannau eraill yn edrych ar y syniad o geisio cael prentisiaethau, neu rywbeth tebyg i’r math hwnnw o ddysgu seiliedig ar waith. Felly, galluogi pobl i ddod i mewn yn iau o ran oedran, a chysylltu â cholegau addysg bellach a sefydliadau hyfforddi eraill, i weld a allwn wneud hynny. Felly, hoffwn ofyn i chi ystyried hynny ymhellach, o bosibl.
Diolch am eich syniadau ychwanegol ynglŷn â sut y gellid datblygu system o’r fath. Mae pob un ohonom fel Aelodau Cynulliad unigol, rwy’n siŵr, yn agor ein drysau yn ein hetholaethau, ac yn darparu cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i bobl ifanc, yn enwedig yn ein hetholaethau. Credaf efallai fod y ffaith fod y bwrdd taliadau ar fin dechrau ar yr adolygiad hwn o gymorth staffio yn galluogi’r Aelodau yma, a ninnau fel Comisiwn, i edrych ar ffyrdd o geisio gwneud ein strwythurau cyllido, a’n strwythurau cymorth i staff, yn ddigon hyblyg i ganiatáu ffordd fwy arloesol o ddarparu mwy o hyblygrwydd i Aelodau edrych ar sut y gallant ddenu pobl o fannau mwy newydd i fanteisio ar gyfleoedd gwaith yn y lle hwn.