Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Rwyf eisiau ategu rhai o’r pwyntiau cychwynnol roedd Jeremy yn eu gwneud ynglŷn â phwysigrwydd yr economi o ran ffyniant ieithyddol. Rwyf wedi bod yn gryf o’r farn na ellir gwahanu ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol o’i gilydd. Bydd Alun Davies yn cofio ni’n dau yn meddiannu tŷ yn fy etholaeth i nawr, a dweud y gwir, yng Ngharmel, adeg eisteddfod Casnewydd yn 1988, a’r faner tu fas i’r tŷ yn dweud, ‘Tai a gwaith i achub iaith’. Roedd yn wir bryd hynny, wrth gwrs, o ran y pwysau o ran tai fforddiadwy, ond mae gymaint yn fwy gwir nawr.
Rydym yn dueddol, efallai, o orbwysleisio yr elfennau addysgiadol a’r teuluol o ran trosglwyddiad iaith. Ond i mi, y gweithle, a dweud y gwir, oedd y pair a oedd yn golygu fy mod i wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg, oherwydd roeddwn i’n dod o deulu iaith gymysg gartref. Roedd fy nhad yn löwr, wrth gwrs, a Chymraeg oedd iaith y gwaith glo. Fe ddes i i sylweddoli hynny, a deall bwrlwm ac afiaith y diwylliant glofaol dosbarth gweithiol Cymraeg hwnnw. Wedi hynny, drwy streic y glowyr, wrth gwrs, fe wnaeth iaith, gwaith a gwleidyddiaeth ddod yn un asiad i mi. Wrth edrych ar draws Cymru, a dweud y gwir, mae’r sylfaen economaidd wedi bod mor bwysig. Meddyliwch am ardaloedd chwarelyddol y gogledd, er enghraifft. Edrychwch ar amaethyddiaeth, lle mae dal i fod, yn y sector yna, dros 50 y cant o ffermwyr Cymru yn siarad Cymraeg—dwywaith, wrth gwrs, y ganran sydd yn y boblogaeth—oherwydd bod y diwydiant ei hun yn cynnal pobl yn yr ystyr economaidd, a hefyd yn cynnal yn ieithyddol a diwylliannol. Nid yw hwn yn bwynt gwreiddiol rydw i’n ei wneud, wrth gwrs. Roedd Brinley Thomas, yn ei waith athrylithgar ar y chwyldro diwydiannol yng Nghymru a rôl y chwyldro diwydiannol yn achub yr iaith Gymraeg—. Roedd rhai pobl llawer mwy arwynebol yn awgrymu bod hynny wedi glastwreiddio’r iaith, ond roedd Brinley Thomas yn dangos ‘na’, oherwydd roedd y chwyldro diwydiannol ac, wrth gwrs, yr adfywiad wedi hynny yn y wasg Gymraeg yng Nghymoedd y de ac yn y blaen yn creu’r sylfaen oedd yn golygu nad oedd yr iaith Gymraeg wedi wynebu’r un tranc â’r iaith Wyddeleg.
Felly, a dod â’r gwersi hynny yn gyfoes, mae yna ryw iaith drwsgl a—i ddefnyddio hoff air Suzy Davies—jargonllyd, rydw i’n credu, yn Gymraeg a’r Saesneg, achos mae’n sôn am ‘gyfundrefnau cynhaliol cyfredol’. Wel, y bröydd Cymraeg traddodiadol rŷm ni’n sôn amdanynt fan hyn, ble mae’r iaith Gymraeg yn dal yn iaith feunyddiol ar y stryd, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, mae’r sylfaen economaidd a’r cwestiwn o ffyniant economaidd yn rhan annatod o’r cwestiwn o ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd hynny. Beth liciwn i weld yw bod yna, wrth inni edrych ar ranbartholi ar gyfer datblygu economaidd, fel yr oeddem ni’n trafod yn y pwyllgor economi’r bore yma—ein bod ni’n creu rhanbarth ar gyfer y gorllewin Cymraeg, os mynnwch chi, fel ein bod ni’n gallu dod â’r ddau beth yma—iaith a diwylliant ac economi—at ei gilydd mewn fforwm o gydweithrediad rhanbarthol.
Mae yna nifer o bethau y gall y rhanbarth honno—. Ond mae’n dda i weld bod y Prif Weinidog ddoe, a’r Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, wedi croesawu’r math yma o syniad. Mae yna lawer o bethau y gallwn ni eu gwneud, fel edrych ar y cwestiwn yma o allfudo. Roedd yna brosiect yn ôl yn y 1990au o’r enw Llwybro, a oedd yn tracio pobl ifanc o’r canolbarth ac o’r gorllewin a oedd yn mynd bant i’r brifysgol, yn aml iawn yn Lloegr, ac yn ceisio denu—[Torri ar draws.] Wel, ie, ac rydw i’n credu mai’r Llywydd oedd yn gyfrifol am y prosiect yna: prosiect hynod lwyddiannus yn trio denu—. Roedd yn cadw cysylltiad, wrth gwrs, wrth iddyn nhw fynd bant, ac wedyn ceisio eu denu nhw nôl drwy adnabod cyfleoedd penodol a oedd yn addas ar gyfer eu sgiliau nhw. Unwaith eto, yn aml iawn yng Nghymru rŷm ni’n llwyddo gyda phrosiectau, ac wedyn rŷm ni’n taflu’r sail wybodaeth yna i ffwrdd. Ond mae yna gyfle inni ailafael ynddo fe.
Un prosiect, wrth gwrs, ar raddfa fawr yw’r rheilffyrdd: cysylltu gorllewin Cymru a gweld ein bod ni, am y tro cyntaf, yn gallu mynd o’r de i’r gogledd o fewn ein gwlad ein hunain. Felly, hynny yw, gweledigaeth ar raddfa fawr, gweledigaeth benodol a dysgu o’r gorffennol. Ond mae yna gyfle gyda ni i greu rhywbeth fydd yn gwrthbwyso’r duedd ar hyn o bryd—y gorbwyslais, efallai, ar y dinas-ranbarthau—trwy greu rhanbarth hefyd ar gyfer y gorllewin Cymraeg.