Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Wel, aeth Prif Weinidog y DU i mewn i'r etholiad cyffredinol ar sail cael mandad i adael y farchnad sengl, gadael yr undeb tollau a gadael awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop. Methodd ar bob un o'r pwyntiau hynny. Fe fethodd. Nid oedd pobl Prydain yn cefnogi'r farn honno, ac felly mae'n ddyletswydd arnom ni nawr i ddod o hyd i ffordd sy'n cynnig y lefel fwyaf o gonsensws. Ydym, rydym ni’n gadael. Nac oes, does neb eisiau i reolau WTO gael eu defnyddio, ond byddant yn cael eu defnyddio oni bai fod cyfnod pontio o leiaf, oherwydd ni fydd cytundeb erbyn mis Mawrth 2019. Ni all neb, does bosib, gredu hynny, o ystyried—. Rwyf i wedi siarad â negodwyr masnach ac maen nhw’n dweud wrthyf ei bod hi’n cymryd 18 mis i gytuno ar yr hyn yr ydych chi’n mynd i siarad amdano, heb sôn am gael cytundeb. Mae'r pethau hyn, o ran eu natur, yn gymhleth dros ben, felly mae'n hynod bwysig ein bod ni’n edrych ar drefniadau pontio.
Rydym ni wedi cyflwyno ein barn: mae yn y Papur Gwyn. Mae'n eglur iawn. Pa un a yw pobl yn cytuno ag ef ai peidio, gall pobl weld ei fod yno o leiaf. Does gen i ddim syniad beth yw safbwynt presennol Llywodraeth y DU erbyn hyn. Nid yw hynny o fudd i neb, ac mae'n hynod bwysig eu bod nhw’n gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyrraedd yno. Nid ydym yn dechrau o sefyllfa o geisio tanseilio Llywodraeth y DU. Byddwn yn huawdl, yn gyhoeddus, os ydym ni’n anghytuno â'r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ond nid dyna lle’r ydym ni’n dechrau. Ond, yn anffodus, ni allwn hyd yn oed gyrraedd y pwynt hwnnw oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cau’r siop i ni a'r Alban ar hyn o bryd. Nawr, nid yw honno'n ffordd synhwyrol ymlaen os ydym ni’n mynd i gael cytundeb Brexit sy'n denu cefnogaeth ar draws y DU.