2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2017.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o dynnu allan o gonfensiwn pysgodfeydd Llundain 1964? OAQ(5)0045(CG)[W]
Bydd yr Aelodau’n deall, os byddaf yn gwneud asesiadau o’r goblygiadau cyfreithiol i Gymru mewn perthynas ag unrhyw fater, y bydd yr asesiadau hynny yn gyfreithiol freintiedig.
Rwy’n ddiolchgar i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ofal arferol yn y materion hyn. Fodd bynnag, efallai y gallaf ei demtio drwy ddweud nad wyf yn credu bod unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol, ond mae yna oblygiadau gwleidyddol cryf i benderfyniad Michael Gove. Fy nealltwriaeth i, mewn gwirionedd, yw bod confensiwn pysgodfeydd Llundain, yn ôl pob tebyg, yn cael ei oddiweddyd gan ein perthynas â’r polisi pysgodfeydd cyffredin a’r hyn sydd wedi digwydd ers hynny o ran ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Ond yr hyn sy’n fy mhoeni yw bod gennym Michael Gove yn penderfynu tynnu’n ôl, yn symbolaidd, o rwymedigaeth ryngwladol sy’n ymwneud â mater datganoledig, felly efallai y gallaf ofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a yw’n cytuno â mi fod pysgodfeydd wedi cael eu datganoli, mai Cymru a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am warchod pysgodfeydd yng Nghymru, ac am yr hyn a fydd yn digwydd pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran cwotâu, rhannu cwotâu, a thrafodaethau ynglŷn â hynny. Ac yn sgil y ffaith fod Boris Johnson wedi dweud wrth fy nghyd-Aelod Jonathan Edwards ddoe y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn penderfynu ar y materion hyn yn awr, a yw o’r farn felly y bydd Cymru’n gallu arfer feto mewn perthynas â chamau ysgeler pellach gan Michael Gove?
Wel, diolch i chi am y cwestiwn atodol. Fel yr Aelod, ers y cyhoeddiad hwn rwyf finnau hefyd wedi cael nosweithiau cythryblus a di-gwsg ynglŷn â’r mater penodol hwn. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, fod confensiwn pysgodfeydd 1964 mewn bodolaeth ymhell cyn i ni ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, yr UE bellach, a hefyd, yr hyn y mae’r confensiwn hwnnw’n ei ddweud mewn gwirionedd. Mae erthygl 2 ynddo yn cydnabod awdurdodaeth diriogaethol neilltuedig o fewn llain arfordirol chwe milltir, ond gwnâi ddarpariaeth a alluogai’r gwladwriaethau a’i llofnododd i bysgota o fewn chwech i 12 milltir, gydag amodau, ac yna aeth ymlaen i ddweud yn erthygl 4 nad oedd cychod pysgota gwladwriaethau a’i llofnododd i gyfeirio eu pysgota tuag at stociau o bysgod neu ardaloedd pysgota sylweddol wahanol i’r rhai y maent wedi’u defnyddio’n gyson, a bod gan y wladwriaeth arfordirol bŵer i orfodi’r rheol honno. Felly, mae’r confensiwn yn sefyll ochr yn ochr—ac, mewn gwirionedd, yn cael ei oddiweddyd gan—y polisi pysgodfeydd cyffredin, sy’n caniatáu i gychod Ewropeaidd gael mynediad, rhwng 12 a 200 milltir, ac yn gwneud darpariaeth i alluogi aelod-wladwriaethau penodedig i gael mynediad at ardaloedd pysgota o fewn chwech i 12 milltir forol.
Nawr, natur benodol y diwydiant pysgota yng Nghymru, sy’n cynnwys cychod bach yn bennaf: mae’n bosibl y bydd rhai agweddau atyniadol i hynny o fewn y terfyn 12 milltir. Fodd bynnag, bydd hwnnw’n fater sy’n briodol i’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb polisi drosto ymdrin ag ef. Ni fyddai’n briodol i mi drafod yr agwedd honno ymhellach, ond wrth gwrs, gallaf fynegi’r pryder difrifol y mae’r Aelod ei hun yn ei grybwyll, sef na chafodd swyddogion eu hysbysu hyd nes 30 Mehefin y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud ar 2 Gorffennaf, a hynny yn yr hyn sydd bellach yn faes datganoledig amlwg, er bod gweithgor morol a physgodfeydd y pedair gweinyddiaeth wedi’i gynnal ar 26 Mehefin. Mae’r mater hwnnw ynghylch ymgynghori ac ymgysylltu yn amlwg yn destun cryn bryder mewn mater sy’n ymwneud yn benodol â maes sydd wedi’i ddatganoli, ac yn fater y mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymwneud ag ef. Felly, mae yna bryderon yno, a phryderon, mae’n debyg, am y datganiadau sy’n cael eu gwneud bron yn fyrfyfyr, fel petai, ac yn sicr ceir diffyg eglurder mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth y DU ar rai o’r meysydd hyn.
Mae’n wir, wrth gwrs, mai’r Deyrnas Unedig yw llofnodwr cytundeb 1964, ac felly Gweinidog y DU a fydd yn gwneud y penderfyniad i dynnu’n ôl ohono, ond rwy’n cytuno â goblygiadau cwestiwn Simon Thomas, fod pysgota’n fater datganoledig, ac felly y dylai fod rhywfaint o ystyriaeth wedi’i rhoi i safbwyntiau’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru. Ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn arddel y safbwynt y bydd adennill ein dyfroedd, neu reolaeth dros y terfyn 6 i 12 milltir, yn hanfodol bwysig i ddatblygiad diwydiant pysgota Cymru yn y dyfodol, a byddai braidd yn chwerthinllyd pe baem yn cael rheolaeth wedi’i dychwelyd i weddill y Deyrnas Unedig, ond nid yn achos Cymru. Sut y byddai hynny’n gweithio, nid wyf yn gwybod, oherwydd byddai pysgotwyr yr UE yn parhau i fod â hawl i ddyfroedd Cymru i’r graddau hynny, a byddai hynny’n sicr yn milwrio’n sylweddol yn erbyn y manteision i bysgotwyr Cymru o allu cael parth unigryw, a fyddai fel arall yn cael ei beryglu pe baem yn parhau i fod yn aelod o gytundeb 1964.
Mae rhai o’r rheiny’n bwyntiau dilys iawn. Wrth gwrs, maent allan o’u cyd-destun yn yr ystyr bod diwydiant pysgota’r DU gyfan, wrth gwrs, yn ddibynnol iawn hefyd ar fynediad at lawer o ddyfroedd eraill. A bod rhai o’r cyfyngiadau sy’n bodoli, wrth gwrs, a chonfensiwn 1964 yn arbennig, wedi dod i rym er mwyn cydnabod hawliau hanesyddol hefyd—hawliau a oedd weithiau’n ymestyn yn ôl dros gannoedd o flynyddoedd. Dywedodd rhywun beth amser yn ôl nad yw pysgod yn cario pasbortau. Wrth gwrs, un o ddibenion confensiynau’r polisi pysgodfeydd cyffredin oedd diogelu stociau mewn gwirionedd—diogelu stociau pysgota yn gyfreithiol—er budd pawb. Felly, ceir llawer o gymhlethdodau, ac rwy’n credu y byddai’n gamgymeriad difrifol inni edrych ar agweddau cyfreithiol hyn yng nghyd-destun diddordebau unigol yn unig, gan fod diddordebau unigol hefyd yn cael eu heffeithio i raddau helaeth gan ddiddordeb cyfunol ehangach.