– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Rydw i’n galw ar Jayne Bryant i gyflwyno’r ddadl fer.
Diolch, Llywydd. Rwy’n falch o roi munud yn y ddadl hon i Joyce Watson. Mae 11 Gorffennaf i 14 Gorffennaf 2017 yn nodi 22 mlynedd ers hil-laddiad Srebrenica. Cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd eu lladd gan filwyr Serbaidd Bosnia yn y lladd torfol gwaethaf ar bridd Ewrop ers yr ail ryfel byd. Y llynedd, cefais gyfle i ymuno â dirprwyaeth a drefnwyd gan Cofio Srebrenica, o dan arweiniad ardderchog David Melding, gyda Joyce Watson, Joe Lucas, athro o Benarth, ac Owain Phillips ITV Cymru i ymweld â Srebrenica ac i gyfarfod â rhai a oroesodd yr hil-laddiad. Bydd yr hyn a glywais ac a welais yno yn byw gyda mi am byth.
Mae Srebrenica yn swatio mewn dyffryn gwyrdd ffrwythlon ynghanol mynyddoedd sy’n codi o lannau’r Afon Drina. Ond ym mis Gorffennaf 1995, roedd Srebrenica wedi bod yn uffern byw ers tair blynedd. Yng ngwanwyn 1992, lansiodd milwyr Serbaidd Bosnia ymgyrch o drais ar drywydd gwladwriaeth fechan hiliol bur, wedi i Fosnia aml-ethnig bleidleisio dros annibyniaeth oddi wrth Iwgoslafia. Cafodd pentrefi cyfan eu dileu, cafodd trefi eu llosgi, a chafodd eu poblogaethau eu lladd neu eu herlid oddi yno drwy lanhau ethnig.
Ffodd goroeswyr i dair cilfach ddwyreiniol lle roedd y fyddin weriniaethol Fosniaidd wedi dal ei thir, ac un ohonynt oedd Srebrenica. Cafodd ei datgan yn barth diogel gan y Cenhedloedd Unedig, gan achosi i boblogaeth Srebrenica chwyddo o 9,000 i 42,000. O dan gyfarwyddyd yr Arlywydd Radovan Karadzic, aeth General Ratko Mladic i mewn i Srebrenica ar 11 Gorffennaf 1995. Datganodd ar y teledu ei fod yn mynd i ddial am y modd treisgar y cafodd gwrthryfel Serbaidd ei atal yn Srebrenica yn 1804. Gan ofni hil-laddiad, ceisiodd miloedd o ddynion a bechgyn Mwslimaidd Bosniaidd wneud y daith 63 milltir i ddiogelwch. Rhwystrodd milwyr Mladic y ffyrdd, a chyflawni cudd-ymosodiadau drwy ddefnyddio cerbydau a gwisgoedd wedi’u dwyn oddi wrth y Cenhedloedd Unedig i dwyllo Mwslimiaid Bosniaidd i ildio. Cafodd dynion a bechgyn 12 i 77 oed eu gwahanu oddi wrth y lleill. Cafodd llond lorïau o ddynion a bechgyn gyda mygydau dros eu llygaid, a’u breichiau wedi’u clymu, eu gosod yn rhesi gan y dynion arfog mewn caeau a choedwigoedd, eu gorchymyn i weddïo weithiau, a’u saethu’n farw. Parhaodd y lladd systematig a threfnus am bedwar diwrnod. Cafodd y dynion a’r bechgyn diarfau eu lladd oherwydd pwy oeddent, a hynny’n unig: Bosniaid a Mwslimiaid. Daethant at fedd torfol mewn lorïau a chawsant eu claddu gyda theirw dur, a’r cyfan yn hafan ddiogel y Cenhedloedd Unedig a fethodd amddiffyn pobl ddiniwed. Yr unig oroeswyr oedd y rhai a guddiodd o dan gyrff marw a sleifio ymaith dan fantell y nos.
Yn ystod ein hymweliad, cawsom y fraint o gyfarfod â goroeswr, Nedžad Avdić. Ar ôl cwymp Srebrenica, ceisiodd Nedžad a llawer o ddynion Bosniaidd eraill ddianc drwy’r goedwig gerllaw mewn ymgais i gyrraedd tiriogaeth a reolid gan y fyddin Fosniaidd lle y gallent fod yn ddiogel. Cafodd Nedžad ei ddal ynghyd â’r Bosniaid eraill a’i gludo i bentref a’i gloi mewn adeilad ysgol. Meddai Nedžad, ‘Clywsom sgrechiadau a gweiddi. Roedd yr ystafelloedd dosbarth yn orlawn. Dim dŵr. Dim awyr. Roeddem yn yfed ein hwrin ein hunain er mwyn goroesi. Bu pobl farw oherwydd y gwres, yn llythrennol’. Pan ddechreuodd y gyflafan, llwyddodd Nedžad i oroesi drwy orwedd yn llonydd ac wedi’i anafu mewn cwlwm o gyrff hyd nes y symudodd y lladdwyr ymaith.
Yn 1995, roeddwn yn 17 oed—yr un oed â Nedžad. Rwy’n cofio, fel llawer, y storïau newyddion erchyll ar y teledu am y rhyfel. Mae delwedd fyw yn aros gyda mi o ddyn ifanc yn gwthio dyn oedrannus mewn berfa ar draws y mynyddoedd am ddyddiau, yn ffoi am eu bywydau. Un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cerddais o amgylch y ffatri batris yn Potočari, sef safle’r Cenhedloedd Unedig a adawyd yn dyngedfennol gan geidwaid heddwch o’r Iseldiroedd, lle cafodd miloedd eu lladd: man gwag, diffrwyth, tawel, ond gyda theimlad iasol o’r hyn a ddigwyddodd—ofnau enbyd y rhai a bentyrrwyd i’r ystafell heb ffordd o ddianc, heb fwyd, heb ddŵr, gan wybod eu bod ar fin marw. Gyferbyn, saif miloedd o gerrig beddau gwyn llachar unffurf, pob un yn nodi bywyd a gymerwyd yn ddidrugaredd cyn pryd. Mae’r rhan fwyaf o gyn-drigolion Mwslimaidd y dref naill ai’n farw neu wedi ymfudo. Er bod llysoedd rhyngwladol wedi cydnabod bod cyflafan Srebrenica yn hil-laddiad, mae Serbia a Serbiaid Bosnia yn dal i wadu hyn.
Dychwelodd Nedžad i Srebrenica yn 2007 ac mae’n byw yno gyda’i deulu. Un ffaith syfrdanol i bob un ohonom ar y ddirprwyaeth oedd nad oedd yr addysg yn dysgu hanes yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica. Mae Nedžad yn dweud, ‘Maent yn cael eu dysgu na ddigwyddodd yr hil-laddiad. Rydych yn gwylio’r teledu ac mae fel pe na bai’r rhyfel erioed wedi dod i ben. Rwy’n poeni am ddyfodol fy merched. Mae’r system addysg wedi cynhyrchu casineb a phropaganda newydd. Er gwaethaf popeth, rwy’n gobeithio y gallaf ddysgu fy merched i dyfu fyny heb gasineb. Dyna fydd fy llwyddiant.’
Trwy gytundebau Dayton, gyda’r Unol Daleithiau yn gyfryngwr, a ddaeth â’r rhyfel i ben, pennwyd strwythur ffederal cymhleth gyda Llywodraeth ganolog wan. I Nedžad, yr anghyfiawnder mwyaf oedd bod torri Bosnia yn ddau hanner—ffederasiwn Mwslimaidd-Groataidd a gweriniaeth Serbaidd—wedi golygu bod yr arfer o lanhau ethnig wedi cael ei gyfreithloni. Mae llawer yn gweld y lladdwyr o amgylch y dref yn rheolaidd. Mae gan rai swyddi mewn llywodraeth leol. Mae eraill yn ffigurau uwch yn yr heddlu lleol. Fis Hydref diwethaf, etholodd Srebrenica faer Serbaidd gyda hanes cenedlaetholgar eithafol nad yw’n derbyn bod cyflafanau Srebrenica yn hil-laddiad—rhywbeth sy’n ymddangos yn annirnadwy i ni.
Er bod yr hil-laddiad wedi mynd â gwŷr, meibion a brodyr, cafodd eu mamau, eu merched a’u chwiorydd eu gadael ar ôl. Unwaith y flwyddyn, mae Mamau Srebrenica, sy’n ymgyrchu i sicrhau bod pob person sy’n gyfrifol yn dod o flaen eu gwell, yn cynnal seremoni i gofio am eu hanwyliaid. Cynhelir y digwyddiad hynod o emosiynol hwn ym mynwent Potočari, lle mae rhai o’r dioddefwyr y cafodd eu cyrff eu darganfod wedi cael eu claddu. Cawsom y fraint o gyfarfod â rhai o Famau Srebrenica. Maent yn awyddus i rannu eu stori gyda phlant ifanc fel y gallant ddysgu o’r gorffennol a pharatoi hefyd ar gyfer y dyfodol. Roedd y rhai a laddodd yn credu y gallent lofruddio heb gael eu cosbi. Roeddent yn meddwl y gallent ddileu hunaniaeth eu dioddefwyr yn barhaol. Ond roeddent yn anghywir.
Tra buom ym Mosnia gwelsom hefyd y gwaith amhrisiadwy a wneir gan y Comisiwn Rhyngwladol dros Unigolion Coll. Y comisiwn a arweiniodd yr ymdrech i ddod o hyd i’r bobl a aeth ar goll yn ystod y gwrthdaro, a’u hadnabod. Yn dilyn Srebrenica, dechreuwyd gweithio ar yr hyn y credid eu bod yn bum safle claddu torfol, gyda phob un yn cynnwys nifer o feddau ar wahân lle y cafodd y meirw eu claddu a’u gadael ynghudd. Fodd bynnag, dangosodd profion fod rhannau o gyrff o’r hyn a ddaeth i gael eu galw’n feddau cynradd wedi cael eu symud i rai eilaidd, er mwyn cuddio tystiolaeth. Weithiau, roeddent wedi cael eu datgladdu a’u hail-gladdu eto mewn beddau trydyddol. Roedd dau oblygiad i hyn: yn gyntaf, fod mwy na miliwn a hanner o esgyrn a rhannau o gyrff dros 8,000 o bobl wedi’u gwasgaru ar draws safleoedd di-ri; ac yn ail, fod yr ychydig gilffyrdd yn nwyrain Bosnia wledig am wythnosau—misoedd hyd yn oed—wedi’u llenwi â lorïau’n cario gweddillion pydredig, drewllyd y bobl hyn, ac eto ni ddywedodd neb air am y peth.
Dywedodd Edin Ramulic o sefydliad o’r enw Izvor, sy’n ymgyrchu gyda pherthnasau’r unigolion coll:
Roeddent yn gyrru heibio i dai pobl ar hyd ffyrdd tawel. Am bob unigolyn coll, mae o leiaf dri o bobl yn gwybod yn union ble y cawsant eu claddu—y gyrrwr, y cloddiwr, a’r heddwas, yn ogystal â phwy bynnag a’u gwelodd yn mynd heibio—ond mae pawb yn cadw’n dawel. Tra bo’r tawelwch yn parhau, ni allwch alw hyn yn heddwch.
Drwy waith y comisiwn, rhoddwyd cyfrif am fwy na 70 y cant o’r bobl hynny. Ar ben hynny, mae’r dystiolaeth wyddonol am hunaniaeth dioddefwyr o Srebrenica wedi’i gwneud yn bosibl gosod darnau o naratif na ellir ei wadu o droseddau at ei gilydd a chyflwyno’r dystiolaeth hon mewn nifer o achosion llys yn cynnwys rhai Radovan Karadzic a Ratko Mladic.
Pan fyddwn yn cofio beth ddigwyddodd yn Srebrenica mae hefyd yn bwysig cofio’r bobl eraill a gafodd eu targedu. Dioddefwr ieuengaf Srebrenica oedd merch fach o’r enw Fatima, a aned yn safle’r Cenhedloedd Unedig yn Potočari. Dau ddiwrnod oed yn unig oedd Fatima pan gafodd ei llofruddio. Cafodd miloedd o fenywod, plant a phobl oedrannus eu halltudio drwy orfodaeth a threisiwyd nifer fawr o fenywod. Y defnydd o drais rhywiol fel arf rhyfel yw un o’r troseddau mwyaf dirdynnol a mwyaf ffyrnig yn erbyn sifiliaid. Aeth y rhyfel ym Mosnia â thrais rhywiol i lefelau newydd. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod hyd at 50,000 o fenywod a merched, rhai mor ifanc â 12 oed, wedi cael eu treisio yn rhan o gyfundrefn lanhau ethnig wedi’i threfnu. Nid ydym yn gwybod faint yn union am fod y rhan fwyaf wedi cadw’n dawel oherwydd stigma, cywilydd ac ofn.
Mae llawer o blant a aned yn sgil trais rhywiol wedi tyfu fyny’n ynysig ac wedi’u gwrthod gan gymdeithas, ac mae hyn yn rhywbeth y mae pobl yn parhau i osgoi ei drafod. Meddai Pramila Patten, cynrychiolydd arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais rhywiol mewn rhyfeloedd:
Mae trais rhywiol yn arf creulon sydd mor ddinistriol ag unrhyw fwled neu fom. Mae’n anrheithio dioddefwyr a’u teuluoedd. Mae’n dinistrio cymunedau, ac yn tanseilio eu cyfle i gymodi os caiff ei adael heb ei drafod. Mae hefyd wedi cael ei ddisgrifio fel y drosedd hynaf ac eto, yr un y mae lleiaf o gondemnio arni o’r cwbl.
Dioddefodd llawer o fenywod, ac yn awr gwyddom fod llawer o ddynion wedi dioddef y drosedd hon hefyd. Cafodd tua 3,000 o ddynion a bechgyn eu treisio yn ystod y rhyfel. Mae llawer o’r dioddefwyr wedi cael eu hynysu a’u gwrthod gan eu teuluoedd a’u cymunedau eu hunain.
Y mis diwethaf, mewn ymgais i hyrwyddo cymod, llofnododd arweinwyr y cymunedau Uniongred, Islamaidd, Iddewig a Chatholig ddatganiad yng nghyngor rhyng-grefyddol Bosnia yn beirniadu’r modd y caiff goroeswyr trais rhywiol sy’n gysylltiedig â gwrthdaro eu stigmateiddio. Dyma’r datganiad cyntaf o’i fath yn y byd.
Nid oedd yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica yn anochel; roedd modd ei atal. Tra bo’r goroeswyr yn galaru yn sgil colli eu hanwyliaid a thra bôm ni’n dweud ‘byth eto’, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall sut y trodd cymydog yn erbyn cymydog, sut y trodd goddefgarwch yn anoddefgarwch a sut y cafodd y pethau sy’n debyg mewn pobl eu gwrthod er mwyn dyrchafu’r gwahaniaethau. Ni fu erioed yn bwysicach i ni ddysgu gwersi Srebrenica. Mae gennym ddyletswydd i gofio’r rhai a fu farw a’r rhai a adawyd ar ôl, ond mae gennym ddyletswydd hefyd a chyfrifoldeb i weithio’n galetach nag erioed i herio ideolegau ofn a chasineb. Yn bwysicaf oll, mae’n rhaid i ni addysgu’r genhedlaeth nesaf am yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica a pheryglon peidio â mynd i’r afael â chasineb ac anoddefgarwch. Carwn annog yr Aelodau eraill i ymweld â Srebrenica, i ddarllen tystiolaeth y goroeswyr a gwneud popeth a allwn i ddod â chymunedau at ei gilydd ac i sefyll yn erbyn y rhai sy’n ceisio ein rhannu.
Ar ben hynny, carwn ofyn i arweinydd y tŷ ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gefnogi’r rhaglen addysg a lansiwyd gan Cofio Srebrenica i sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru yn deall y camau a arweiniodd at hil-laddiad. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni ddangos beth sy’n gallu digwydd os gadawn i gasineb ennill.
Ni fyddaf byth yn anghofio’r diwrnod y clywais straeon y bobl a oedd yn Srebrenica a’r rhai a gollodd eu hanwyliaid. Ni ellir bychanu eu hymroddiad a’u dewrder yn dweud wrth y byd beth a ddigwyddodd. Mae eu lleisiau mor bwerus ac mor urddasol. Bob tro y byddaf yn gwrando arnynt, rwy’n teimlo fy mod wedi fy rhwydo, yn llawn cywilydd fod y byd wedi caniatáu i hyn ddigwydd, ac wedi fy ysbrydoli i wneud rhywbeth. Mae ein tywysydd Rashad yn datgan: ‘Yn anffodus, ym Mosnia mae gennym dri hanes, a’r un mwyaf peryglus yw’r naratif y mae plant yn eu cael o’u cartref. Trwy wrando ar straeon bywyd a chofio beth a ddigwyddodd yn unig y gallwn ddeall sut y gall pobl gyfrannu at gymdeithas well.’
Dywedir wrthym y dylem ddysgu o’n camgymeriadau yn y gorffennol, ond mae’n amlwg na wnaethom. Mae arnom hynny i bobl Srebrenica. Mae’n rhaid i ni gofio Srebrenica.
Fy ymweliad â Srebrenica, mynd at y gofeb yn Potočari, cyfarfod â goroeswyr yr hil-laddiad—mae’r profiad yn sefyll allan fel un o’r pethau pwysicaf a wneuthum, yn wleidyddol ac yn bersonol. Srebrenica oedd y weithred olaf yn hil-laddiad gwaethaf Ewrop ers y rhyfel, ac wrth gofio’r dioddefwyr, rhaid i ni beidio byth ag anghofio’r 20,000 i 50,000 o fenywod a merched, Bosniaidd yn bennaf, a wynebodd weithredoedd y tu hwnt i amgyffred o drais rhywiol. Ddwy flynedd ar hugain yn ddiweddarach, maent yn parhau i fyw gyda’r golled a chyda’r cof. Rydym yn dal i fod heb wybod union nifer y dioddefwyr, ac ni fyddwn byth yn gwybod. Mae’r rhan fwyaf wedi aros yn dawel, er bod stigma, cywilydd, ofn a thrawma wedi’u claddu hefyd. Mae llawer o fenywod Bosniaidd dewr wedi torri’r distawrwydd ynglŷn â thrais rhywiol fel arf rhyfel, ac oherwydd eu dewrder, cafodd trais rhywiol ei erlyn am y tro cyntaf o dan y gyfraith droseddol ryngwladol. Yr hyn a ddigwyddodd yn Srebrenica oedd cyflawniad mwyaf erchyll yr hyn a all ddigwydd pan adewir i gasineb fagu gwraidd a ffynnu, pan fydd pobl yn cael eu gwneud yn annynol oherwydd eu hil, eu cenedligrwydd, eu crefydd a’u rhyw.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar arweinydd y tŷ i ateb y ddadl—Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle y mae’r ddadl hon yn ei gynnig i gofio am ddigwyddiadau Srebrenica 22 mlynedd yn ôl. Hoffwn ddiolch i Jayne, ac rwy’n credu bod pob un ohonom yma heddiw yn diolch i Jayne Bryant am ddod â hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi amser i gofio’r hil-laddiad ofnadwy hwn. Fel y dywedodd Jayne, cafodd o leiaf 8,372 o Fwslimiaid Bosniaidd, yn fechgyn, dynion a henoed eu lladd gan luoedd Serbaidd mewn cyfres wedi’u trefnu’n systematig o ddienyddiadau diannod. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn mynychu’r digwyddiad coffa Cofio Srebrenica heno draw yn adeilad y Pierhead.
Rwy’n gwybod bod yr ymweliadau, o’r adborth a gawsom gan Aelodau’r Cynulliad sydd wedi mynychu’r digwyddiadau hyn ac wedi ymweld—maent wedi creu argraff annileadwy ar ein dealltwriaeth ni a chi ar y cyd, ac mae’n bwysig eich bod wedi cyflwyno hyn i ni eto heno yn y ddadl fer hon. Thema’r cofio eleni yw rhywedd a hil-laddiad, gan gofio’n arbennig am wragedd Srebrenica. Ac wrth gwrs, mae Joyce Watson wedi sôn am hynny heddiw hefyd. Ar yr agwedd hon rwyf am ganolbwyntio yn fy ymateb.
Dioddefodd teuluoedd yn enbyd o ganlyniad i’r erchylltra hwn. Prin y gallwn ddychmygu’r ofn, y trais a’r galar a ddioddefodd y menywod a’r merched Bosniaidd. Cofiwn heddiw am y miloedd a gafodd eu treisio, eu cam-drin yn rhywiol neu eu harteithio, yn aml yng ngolwg pobl eraill, ac weithiau’n cael eu gwylio gan eu plant neu eu mamau eu hunain. Cofiwn y miloedd a welodd eu meibion, eu gwŷr a’u tadau’n cael eu lladd neu eu llusgo ymaith a neb yn eu gweld wedyn. Cofiwn hefyd am y miloedd a gafodd eu diwreiddio o’u cartrefi a’u gwneud yn amddifad, ac mae Jayne wedi disgrifio’r gyflafan erchyll hon—yr arswyd a throseddau trais rhywiol yn cael eu defnyddio fel arf.
Dengys adroddiadau fod dros 50,000 o achosion o gam-drin rhywiol wedi’u cofnodi yn ystod rhyfel Bosnia rhwng 1992 a 1995. I fenywod ym Mosnia a Herzegovina mae etifeddiaeth y rhyfel yn parhau i fwrw cysgod hir. A bron i 20 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, mae menywod yn parhau i ymladd dros gyfiawnder ond gellid dadlau eu bod eto i gael eu clywed yn llawn mewn cymdeithas Falcanaidd wrywaidd, ac rydych wedi gwneud sylwadau ar hynny. Mae’n dal i fod llawer i’w wneud yno i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a hawliau menywod, i fynd i’r afael â gwahaniaethu a thrais ar sail rhyw, cam-drin domestig, puteindra gorfodol a masnachu mewn menywod.
Mae’r rhai a ddioddefodd gam-drin rhywiol yn ystod y rhyfel, neu a brofodd gam-drin domestig yn y 20 mlynedd ers hynny, hefyd wedi bod yn agored iawn i drallod economaidd. Ar y cychwyn, dychwelodd llawer i gartrefi wedi’u difrodi neu eu dinistrio yn y rhyfel a’u gwthio i rôl enillydd cyflog heb sgiliau hanfodol neu addysg. Mae bygythiad tlodi ac amddifadedd yn berygl hollbresennol i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig ym Mosnia heddiw. Jayne, fe wnaethoch chi a’ch cyd-Aelodau ddarparu cefnogaeth i famau Srebrenica drwy fod yno, drwy ddeall, drwy wrando a chael tyst gyda hwy i’w dioddefaint, a gwneud datganiad clir.
Mae coffáu Srebrenica yn ymwneud â phob cymuned yn dod at ei gilydd i gondemnio’r hil-laddiad a ddigwyddodd ar garreg ein drws o fewn cof, i barhau i ddysgu’r gwersi ac i ymrwymo i wneud rhywbeth yn ein cymuned eu hunain i herio casineb ac anoddefgarwch. Mae’n hanfodol nad yw’r hanesion a phrofiadau dioddefwyr a goroeswyr erchyllterau yn y gorffennol byth yn cael eu hanghofio. Rydym wedi clywed mwy heddiw am yr atgofion hynny—y straeon personol hynny. Rwy’n gwybod y bydd hynny’n bwysig iawn wrth fwrw ymlaen â’ch cais i edrych ar ffyrdd y gallwn rannu’r ddealltwriaeth honno, dysgu’r gwersi yn ein hysgolion, gyda’n pobl ifanc a chenedlaethau hŷn.
Mae’n rhaid i ni gofio, gyda thrais yn erbyn menywod yn y DU yn cynyddu, mae’n bwysicach nag erioed inni uno hanesion menywod er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed ac i ddysgu o erchyllterau a wnaed i fenywod ar draws y byd. Mae creu Cymru fwy cyfartal lle mae gan bawb gyfle i gyflawni eu potensial llawn yn nod canolog i Lywodraeth Cymru, ac mae’n hanfodol fod pob menyw yn gallu cyflawni a ffynnu. Mae menywod yn wynebu anghydraddoldeb mewn llawer o feysydd, sydd ond yn dwysáu os ydynt hefyd yn rhan o grŵp gwarchodedig arall. Yn aml, bydd menywod o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, menywod lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, menywod oedrannus neu fenywod anabl i gyd yn wynebu anfanteision lluosog a gallant ei chael hi hyd yn oed yn anos cyrraedd eu potensial llawn. Rydym yn gwbl ymroddedig i weithredu hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.
Mae ein swyddogion wedi darparu cyfraniad i wythfed adroddiad cyfnodol y DU a fydd yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni ac sy’n tynnu sylw at y cynnydd a wnaethom yn hyrwyddo hawliau menywod ers 2013. Mae lleihau pob math o aflonyddu a chamdriniaeth, gan gynnwys cam-drin domestig, casineb trosedd a bwlio, cam-drin plant a cham-drin pobl hŷn, eithafiaeth a chaethwasiaeth fodern yn nod allweddol yng nghynllun cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016 i 2020. Rydym yn gweld cynnydd sylweddol, gan gynnwys drwy Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ein fframwaith ar gyfer mynd i’r afael â throseddau a digwyddiadau casineb, ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’n rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant—nid yn unig y ddeddfwriaeth nodedig hon, y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond canolbwyntio ar ffyrdd o atal trais lle bynnag y bo modd a darparu cymorth effeithiol i ddioddefwyr. Rydym yn gwneud cynnydd o ran cyflawni mesurau’r Ddeddf ac wedi ymrwymo £4.9 miliwn i’r gwaith hwn.
Yr allwedd—ac rydym yn deall hyn, ac mae’n dod yn amlwg o ddifrif heddiw o ganlyniad i’ch dadl, Jayne—yw newid agweddau fel nad yw ymddygiad treisgar yn dderbyniol dan unrhyw amgylchiadau, yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Ni chaiff ei oddef yn ein cymdeithas. Rydym yn hyderus y bydd ein deddfwriaeth a gwaith ehangach yn helpu i ddatblygu diwylliant sy’n herio ymddygiad camdriniol i greu Cymru, a byd, lle mae gan bawb hawl i fyw yn rhydd o ofn.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i ni fod yn wydn yn wyneb eithafiaeth, sy’n lledaenu casineb ac ofn, a chryfhau ein penderfyniad i ddod yn gryfach gyda’n gilydd pan gawn ein profi gan droseddau casineb, gan ymdrechu i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol lle y caiff pobl o bob hil, ffydd a lliw eu gwerthfawrogi am eu cymeriad ac am eu gweithredoedd. Mae hynny’n golygu dod â phobl at ei gilydd, gan chwalu rhaniadau i greu cymunedau â chysylltiadau da. Mae’n golygu meithrin goddefgarwch a chysylltiadau da rhwng pobl. Yn y gwaith hwn, gallwn gael ein hysbrydoli gan oroeswyr Srebrenica, a menywod, dynion a phlant sydd wedi cael nerth i ddioddef eu profiadau erchyll, a dewrder i ddod o hyd i ffyrdd i ailadeiladu eu bywydau a’u cymunedau. Ni ddylem byth anghofio’r hil-laddiad yn Srebrenica. Mae Jayne wedi ein hatgoffa ohono eto heddiw, ac wrth gwrs, i ddilyn yn adeilad y Pierhead heno, mae’n rhaid i ni barhau i ddysgu gwersi a pharhau i weithio er mwyn rhoi diwedd ar drais rhywiol yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.