Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. A gaf i ddweud fy mod i’n credu ei fod wedi gwneud cyfres o bwyntiau pwysig am gynghorau tref a chymuned? Fy asesiad i o'r sector, ar ôl holi amdano ym mhob rhan o Gymru, yw hyn: pan fo gan gynghorau tref a chymuned berthynas dda gyda'u prif awdurdod, pan fo ganddyn nhw adnoddau ac uchelgais, maen nhw’n gwneud gwaith gwasanaeth cyhoeddus pwysicach heddiw nag y maen nhw wedi ei wneud fwy na thebyg erioed o'r blaen o ran helpu i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau cyni. Ond dyma’r broblem, yn rhy aml ac mewn gormod o achosion, nid yw'r berthynas cystal ag y dylai fod, nid yw sylfaen adnoddau cynghorau cymuned bach iawn yn ddigonol i ganiatáu iddyn nhw ymgymryd ag ystod ehangach o ddyletswyddau ac, yn bwysicach na dim mae’n debyg, nid yw'r uchelgais bob amser yno i wneud hynny. Felly, yr her yr wyf i wedi ei gosod ar gyfer y tîm adolygu yw ceisio canfod y cynhwysion sy'n gwneud cynghorau tref a chymuned yn llwyddiannus ac i fod yn gadarnhaol iawn am y gwaith da y maen nhw’n ei wneud ond gofyn wedyn sut y gallwn ni gymhwyso hynny’n gyffredinol i rannau eraill o Gymru, a chynnwys rhannau o Gymru lle nad yw cynghorau tref a chymuned o bosib yn bodoli ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym ni’n cynhyrchu llawlyfr, gyda'n cynghorau tref a chymuned, gydag Un Llais Cymru, llawlyfr i ganiatáu i gynghorau tref a chymuned sy'n fodlon gwneud mwy nag y maen nhw wedi ei wneud yn y gorffennol i ddysgu gwersi gan y cynghorau hynny sydd wedi gwneud hynny yn llwyddiannus eisoes ac i allu eu helpu drwy'r broses honno.
O ran cynnal etholiadau, cododd Gareth Bennett y mater pwysig iawn o ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Fe wnaethom ofyn y cwestiwn yn y papur ymgynghori: ydym ni eto wedi cyrraedd y cam lle y gallwn ni ganiatáu i bobl bleidleisio ar y ffôn neu lechen neu ar gyfrifiadur? Rydym ni’n gwneud llawer o bethau eraill mewn sawl rhan arall o'n bywydau—bancio ar y rhyngrwyd ac yn y blaen—sy'n gofyn am ddiogelwch sylweddol iawn, ond rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig. Rwyf am ailadrodd hyn yn yr ymarfer ymgynghori. Er mor hen ffasiwn yw ein system bresennol ni, un o'i chryfderau mawr, Llywydd, yw bod bobl yn ymddiried ynddi. Rydych chi’n mynd, rydych chi’n rhoi eich croes ar y papur pleidleisio, rydych chi’n cymryd y papur eich hun, rydych chi’n ei roi yn y blwch pleidleisio—fe allwch chi weld sut y mae'r system yn gweithio. Rwy'n credu y byddai angen i ni feddwl yn ofalus am symud i gyfeiriadau lle y byddai’n haws tanseilio ffydd pobl yn hygrededd y broses, ond rydym ni eisiau gwybod beth mae pobl yng Nghymru yn ei feddwl am hyn.
Cyfeiriodd Gareth Bennett at ein cynigion ar gyfer gwneud prif weithredwyr yn swyddogion canlyniadau statudol mewn etholiadau lleol a diddymu'r system bresennol o ffioedd personol. Codwyd y cwestiwn o ble i dynnu'r llinell o ran gweithwyr awdurdodau lleol. Nid oes gennyf farn sefydlog ar hynny. Rwyf yn credu ei fod yn gwestiwn pwysig i’w ailadrodd. Rwy'n credu y bydd gan undebau llafur ac eraill sylwadau pwysig i’w cyfrannu inni yn hyn o beth.
Rwy'n credu ei bod hi’n iawn y dylai ymgeiswyr sy'n aelodau o blaid wleidyddol ddatgan hynny yn rhan o'u hymgeisyddiaeth. Nid oes unrhyw beth i atal unrhyw un rhag sefyll fel ymgeisydd annibynnol, ond yn fy marn i, os ydych chi’n cynnig eich hun fel ymgeisydd annibynnol ac wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol yn ystod y 12 mis diwethaf, yna mae gan bleidleiswyr yr hawl i wybod hynny. Maen nhw wedyn yn gallu ystyried hynny gyda phopeth arall wrth benderfynu pwy i bleidleisio drosto.
Rydym ni’n cynnig yn ein hymgynghoriad na ddylid cael mandad deuol, na ddylai pobl allu bod yn Aelodau Cynulliad ac yn aelodau o awdurdod lleol ar yr un pryd. Ceir y mater o gyflog, fel y dywedodd Gareth Bennett. Caiff Aelod Cynulliad ei dalu am wneud swydd llawn amser, ac rydym ni’n credu mai dyna ddylai’r swydd fod, ond ceir gwrthdaro buddiannau hefyd nad ydynt yn ymwneud â thâl yn unig. Rydym ni’n gwneud penderfyniadau pwysig iawn yn y fan yma sy'n effeithio ar awdurdodau lleol, ac rydym ni’n credu ei bod yn sefyllfa anghyfforddus i orfod gwneud y penderfyniadau hynny a hefyd eu derbyn, a’n cynnig ni yw na ddylem ni ganiatáu i hynny ddigwydd yn y dyfodol.