Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Weithiau, wrth i bobl ddadlau dros strwythurau a phwerau, caiff y rheswm dros lywodraeth leol yn aml ei anghofio: darparu gwasanaethau lleol cost-effeithiol o ansawdd uchel; i ymateb i angen lleol; i wneud pob un o'r uchod gydag atebolrwydd democrataidd, lleol.
O ran cynghorau cymuned a thref, a fydd pob cyngor cymuned a thref yn cael yr un pwerau, waeth beth yw eu maint, a beth sy'n digwydd yn yr ardaloedd trefol hynny, megis Dwyrain Abertawe, lle nad oes cynghorau cymuned ar hyn o bryd?
Rwyf unwaith eto yn ailadrodd fy nghefnogaeth i bleidleisio yn 16 oed, rhywbeth y mae fy ffrind Julie Morgan wedi dadlau drosto cyhyd ag y gallaf gofio.
Rwy'n falch o weld pleidleisio trwy fwyafrif llethol ar gyfer newidiadau i systemau pleidleisio llywodraeth leol i atal y system bleidleisio rhag newid bron iawn yn flynyddol.
O ran pobl sy'n cael sefyll etholiad, beth am ganiatáu i'r rhai sy'n cael eu cyflogi yn anuniongyrchol gan gyngor i sefyll? Rydym ni wedi gweld sefyllfa yn gynharach eleni lle cafodd rhywun ei wahardd—roedd yn gweithio i gorff a oedd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y cyngor roedd e’n perthyn iddo, ynghyd yn ogystal ag i wyth o gynghorau eraill. Dylai'r rhai a gyflogir yn anuniongyrchol, yn fy marn i, gael sefyll.
Pa resymau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros beidio â chyflwyno pleidleisio electronig? Mae pobl ifanc yn disgwyl defnyddio eu ffonau ar gyfer bron popeth ac i bleidleisio yn electronig, ac maen nhw’n ei chael hi braidd yn rhyfedd, mynd i neuadd yr ysgol, a chael pensel heb fin a darn o bapur.
Rwy'n croesawu gweithio ar draws cynghorau o ran trafnidiaeth, defnydd tir strategol a datblygu economaidd. Nid yw’r rhain, wrth gwrs, yn newydd, ydyn nhw? Rwy’n cofio—rwy'n siwr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio hefyd—yr hen gynllun datblygu sirol. Roeddwn i hefyd yn gadeirydd y grŵp trafnidiaeth gorllewin Cymru o'r enw SWWITCH. Roeddwn i hefyd yn aelod o fforwm economaidd gorllewin Cymru. Roedd llawer iawn o waith caled yn cael ei wneud rhwng Penfro ac Abertawe ymhell cyn bod unrhyw sôn am naill ai ad-drefnu llywodraeth leol nac unrhyw si am yr angen am newid o ran gweithio’n draws-bleidiol. Felly, nid oes unrhyw beth y soniwyd amdano yn newydd. Y cwestiwn sydd gennyf i yw: pam mae’r cynigion ar gyfer y canolbarth a’r de-orllewin yn hytrach na dinas-ranbarth bae Abertawe? Ym mha fodd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod gan bobl yn Y Trallwng unrhyw beth yn gyffredin â'r bobl yn Abertawe o ran naill ai trafnidiaeth, datblygu economaidd neu ddefnydd tir?