Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch i Mike Hedges am y sylwadau yna. A fyddwn ni’n rhoi'r un pwerau i bob cyngor tref a chymuned? Nid fel y maen nhw ar hyn o bryd, oherwydd eu bod mor amrywiol. Rydym ni’n cynnig pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer rhai cynghorau tref a chymuned, ond bydd trothwyon y bydd yn rhaid iddyn nhw eu cyrraedd. Cawn weld beth fydd canlyniad adroddiad y grŵp adolygu. Os ydyn nhw’n gallu cynnig patrwm mwy unffurf, o ran pwerau a daearyddiaeth, fel bod cynghorau tref a chymuned yn bodoli ym mhob man, yna caiff yr achos dros eu trin i gyd yr un fath ei gryfhau.
Rwy’n credu, Llywydd, y bydd mwyafrif ar lawr y Cynulliad hwn o blaid rhoi’r bleidlais i bobl 16 a 17 mlwydd oed, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Mike Hedges i hynny.
Mae e’n ychwanegu categori arall at bobl sy'n cael eu hatal ar hyn o bryd rhag sefyll mewn etholiadau awdurdodau lleol, ac rwy’n credu fod hyn o bosib yn ychwanegu elfen arall at ein cwestiwn ynghylch pa un a ydym ni ar hyn o bryd yn or-gaeth yn y ffordd yr ydym ni’n dehongli’r rheol honno.
Beth yw'r achos yn erbyn pleidleisio o bell? Wel, rwy’n credu bod pobl nad ydyn nhw eto wedi eu hargyhoeddi o hynny weithiau yn dweud bod y weithred o bleidleisio yn weithred ddifrifol iawn ac y gallai lleihau hynny i allu clicio botwm ar eich ffôn danseilio’r difrifoldeb a ddylai fod ynghlwm â’r cyfraniad at ddemocratiaeth. Mae rhai pobl—mae'n debyg fy mod i’n ddigon hen ffasiwn i gytuno â hyn͏—yn hoffi’r weithred gyfunol o gerdded i orsaf bleidleisio ac yn hoffi gweld pobl eraill yn gwneud yr un peth. Rwyf i'n hoffi sefyll mewn rhes gyda phobl eraill yn gwneud yr un peth. I mi, mae'n rhoi bywyd i’n hymdeimlad cyfunol o ddemocratiaeth, ond mae hynny oherwydd y bûm i’n gwneud hyn ers amser mor faith. Efallai fod y gwrthwynebiad diogelwch yn wrthwynebiad mwy arwyddocaol. A ydym ni eto yn siwr bod y systemau yn ddigon diogel fel y byddai pobl yn credu na allai neb amharu ar eu pleidlais ddemocrataidd͏—na allai neb newid eich pleidlais, na allech chi ganfod a fu rhywun yn ceisio ymyrryd?
Mae e'n hollol gywir nad yw gweithio rhanbarthol yn rhywbeth newydd. Yr hyn y mae ein cynigion yn ei wneud yw gwneud gweithio rhanbarthol yn systematig ac yn orfodol.
Pam y canolbarth a’r gorllewin? Rydym ni wedi cymryd rhanbarth CLlLC ei hun; dyna sut mae CLlLC yn ei threfnu ei hun. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad, Llywydd, bydd gennym ni ddigon o hyblygrwydd yn y rhanbarth hwnnw fel y gall pedwar cyngor dinas-ranbarth Abertawe gydweithio, ac i’r cynghorau sy’n rhan o fenter Tyfu Canolbarth Cymru—Ceredigion a Phowys— barhau i weithio gyda'i gilydd mewn ffordd unigryw. Ond, bydd yn rhaid iddyn nhw gynllunio ar y cyd, fel nad oes ffiniau artiffisial ac fel nad oes unrhyw deimlad na all Ceredigion a Phowys, er enghraifft, fanteisio ar rai o’r dadleuon a rhai o'r posibiliadau y byddai'r ardal ranbarthol ehangach yn eu creu.