7. 6. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:10, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn groesawu'r datganiad. Roedd dwy elfen yr oeddwn yn awyddus i roi sylw iddynt. Un: o ran y dewisiadau y byddwch chi’n ymgynghori arnyn nhw ynglŷn â diwygio, rwy'n siomedig nad yw pleidleisio gorfodol yn un o'r dewisiadau y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn arno. Rwy'n credu bod ei gwneud hi’n ofynnol i bobl gymryd rhan yn rhan o'u dyletswyddau dinesig ehangach—mae cael pleidleisio yn bwysig yn un pwysig. Rwy'n sylweddoli bod y farn honno’n un ddadleuol, ond rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol i gychwyn dadl ar hynny.

Yn ail, roeddwn i eisiau crybwyll y gweddnewidiad ehangach y mae'r Gweinidog yn ei gynnig o ran y ffiniau. Mae llawer o'r pwyslais ar yr adeileddau ffisegol, ond tybed faint o ystyriaeth a roddir i’r gweddnewid digidol a fydd yn sail i lawer o hyn. Mae lledaeniad data mawr a deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio o'n cwmpas ym mhob man. Rwy'n ymwybodol nad oes unrhyw ddiwedd ar gwmnïau preifat yn dod ar ofyn awdurdodau lleol gan gynnig atebion parod i awtomeiddio llawer o'u swyddogaethau i ryddhau adnoddau er mwyn gallu eu cyfeirio at wasanaethau rheng flaen, ac rwy'n credu y byddai'n well pe byddem ni’n gwneud hyn mewn ffordd bwyllog a chynlluniedig ledled Cymru, yn hytrach na bod awdurdodau lleol unigol yn gwneud hynny ar sail ad hoc. Nid oes rhaid i hyn fod yn fygythiad, ond bydd yn newid, ac yn newid na allwn ni ei osgoi. Felly, tybed a allai ef ddweud ychydig mwy am swyddogaeth yr elfen ddigidol yn y prosiect gweddnewid ehangach oedd ganddo mewn golwg.