Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Un uchelgais sydd gennyf i ar gyfer yr ymgynghoriad yw bod gennym ystod ehangach o bosibiliadau a mwy o syniadau ar gyfer sut y gallem ni ddiwygio'r ffordd yr ydym ni’n cynnal etholiadau yng Nghymru ar ei ddiwedd nag oedd gennym ni ar y dechrau. Bydd y bobl hynny sy'n hyrwyddo cyfranogiad gorfodol yn ein democratiaeth, rwy’n gobeithio, yn manteisio ar y cyfle hwn i wneud y safbwyntiau hynny yn hysbys ac i esgor ar y math o ddadl mae Lee Waters wedi ei hawgrymu.
O ran gweddnewid digidol, un o'r rhesymau pam yr wyf yn meddwl bod gweithio͏ rhanbarthol—yn arbennig yn y cyswllt hwn, gan rannu gwasanaethau cefn swyddfa—mor bwysig yw y bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol feithrin eu gallu eu hunain i symud i'r cyfeiriad hwn heb orfod dibynnu ar brynu gwasanaethau ac atebion parod, fel y dywedodd, o rywle arall.
Llywydd, rwyf wedi dweud sawl gwaith: Ar y cyfan rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan fy rhyngweithio gydag awdurdodau lleol a'u parodrwydd i fod yn rhan o greu eu dyfodol eu hunain. Roeddwn braidd yn siomedig o’u hymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â gwasanaethau cefn swyddfa. Rwy'n credu bod yna fwy o amharodrwydd nag y dylid fod wrth feddwl am ffyrdd y gallant rannu rhai o’r gwasanaethau ar draws ffiniau—dim digon o grebwyll am bosibiliadau gweddnewid digidol ar gyfer y dyfodol. Ac rwyf wedi dweud wrth awdurdodau lleol, ac rwyf am ailadrodd hyn yma y prynhawn yma: mae ein Papur Gwyn a'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn arwydd ein bod yn symud tuag at sefyllfa lle caiff mwy o wasanaethau eu rhannu yng Nghymru, ac mae'n daith y bydd angen i bob awdurdod lleol fod yn rhan ohoni.