Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Rydym yn gwybod bod y cyfrifoldeb hwn yn dod i’r Cynulliad o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Rwy’n gobeithio na fydd y Llywodraeth yn aros i wneud peth o’r gwaith paratoi y gallai fod ei angen i roi’r mesurau diogelu ar waith pan ymddengys bod consensws o amgylch y Siambr hon. Fel y dywedais, rydym yn gwybod beth yw hyd a lled y cyfrifoldebau y byddwn yn eu hetifeddu fis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly a allwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith paratoi hwnnw er mwyn i chi allu dechrau arni ar unwaith pan fyddwch yn cael y cyfrifoldebau hynny?