Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Rwy’n credu bod fy natganiad wedi’i eirio’n wael yn y fan honno yn ôl pob tebyg, oherwydd rwy’n eich sicrhau bod y Llywodraeth yn edrych ar draws ein holl bortffolios o ran yr hyn y gallwn fod yn ei wneud, fel y dywedais, i atal pobl rhag mynd yn gaeth i gamblo yn y lle cyntaf, ac yna i leihau’r effaith y gallai ei chael.
Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi cynllunio sy’n ceisio cynnal a gwella ffyniant, hyfywedd ac atyniad ein canolfannau manwerthol a masnachol sefydledig, ac mae effeithiau gamblo cymhellol ar iechyd neu drosedd ac anhrefn yn ystyriaethau perthnasol ar lefel awdurdod cynllunio lleol, lle y gallant ystyried y materion hyn wrth benderfynu ar gais cynllunio.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi dweud ei bod yn adolygu’r datblygu a ganiateir a roddir drwy ddosbarthiadau defnydd, a bydd yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig yn ddiweddarach eleni, ac mae’r adolygiad hwnnw yn ystyried a oes angen newidiadau i atal gorgrynhoad o siopau betio. Fel eraill, rwy’n edrych ymlaen at gael canlyniad yr adolygiad hwnnw.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu ymchwil i fapio’r holl leoliadau gamblo ledled Cymru a bydd y gwaith hwn yn cynnwys map gwres gweledol sy’n dangos dwysedd lleoliadau gamblo yn ddaearyddol. Bydd hynny’n ein galluogi i dynnu sylw at yr ardaloedd lle y ceir crynhoad o leoliadau gamblo a bydd yn ein cynorthwyo i ystyried a thrafod y mater hwn.
Yn gyffredinol, nid oes unrhyw ymyrraeth feddygol ar gyfer gamblo, ond mewn rhai achosion gall ymyriadau seicolegol helpu i gynorthwyo unigolion i newid eu hymddygiad. Yn ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ rydym wedi cytuno ar gynllun gyda’r GIG i ehangu gwasanaethau therapi seicolegol ar gyfer oedolion a phlant, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun hwn.
Er y gall cleifion drafod unrhyw beth gyda’u meddyg teulu, i’r rhai yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth gamblo patholegol neu gymhellol, ceir gwasanaethau megis Gamblers Anonymous neu GamCare hefyd, a all roi gwybodaeth a chymorth, ac rydym wedi clywed gan Aelodau ynglŷn â gwaith arall, megis y Stafell Fyw, CAIS, Curo’r Bwci ac yn y blaen.
Mae sefydliadau eraill yn rhoi gwybodaeth a chyngor hefyd, gan gynnwys y canolfannau cyngor ar bopeth. Mae’r ganolfan yng Nghasnewydd yn cyflawni peth gwaith ar gymorth ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Mae’n cael ei ariannu gan Gamble Aware, ac maent yn cyflwyno prosiectau i leihau niwed gamblo yng Nghymru, gyda’r nod o fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn y gwraidd drwy addysg ac ymwybyddiaeth, gan weithio’n arbennig gyda phobl ifanc a grwpiau eraill sy’n agored i niwed.
Mae gamblo ar-lein yn peri pryder arbennig. Mae gamblo bellach yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen, fel y clywsom—mynediad 24 awr ar gael yn y cartref, yn y gwaith, tra’n codi’r plant o’r ysgol, a hyd yn oed tra’n cymudo ar eich ffonau symudol. Mae gamblo ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol rhwng 2008 a 2014, o 9.7 y cant o’r boblogaeth i 15.4 y cant o’r boblogaeth. Dyma un o’r rhesymau pam y mae ein prif swyddog meddygol yn glir iawn y dylem fod yn edrych ar gamblo, neu gamblo cymhellol, fel problem iechyd cyhoeddus sy’n datblygu.
Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd newydd ar gyfer gweithredu a ddarperir gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Bydd hon yn helpu i ymgorffori iechyd a llesiant yn yr holl bolisïau a rhaglenni, a byddwn yn ymgynghori ar yr amgylchiadau pan ddylai cyrff cyhoeddus gyflawni asesiadau o’r effaith ar iechyd. Croesewir sylwadau ar sut y gall yr asesiadau hyn fynd i’r afael â’r holl ystod eang o faterion, ond gan gynnwys gamblo cymhellol hefyd.
Wrth gynnal asesiadau o’r fath, mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd fod y diwydiant gamblo yn cynnig cyfleoedd gwaith a hamdden, ynghyd â manteision cymdeithasol ac economaidd eraill. Yn 2015, roedd 3,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant gamblo a betio yng Nghymru, tua 0.3 y cant o gyfanswm cyflogaeth.
Felly, rwy’n awyddus i ni gael dadansoddiad trylwyr o’r mater hwn, ac rwy’n falch iawn fod y prif swyddog meddygol yn arwain y gwaith ar y niwed a achosir gan gamblo fel rhan o’r broses o ddatblygu ei adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen, fel eraill, at weld ei argymhellion cychwynnol yn ddiweddarach eleni.
Rwyf hefyd yn croesawu’r cyfle i gael trafodaeth bellach ac i ymgysylltu â’r Comisiwn Hapchwarae ar fater gamblo cymhellol yng Nghymru pan fyddant yn cynnal eu derbyniad i randdeiliaid yma yn y Senedd ym mis Medi. Bydd yn rhoi cyfle i Weinidogion ac Aelodau Cynulliad eraill drafod materion sy’n ymwneud â’r diwydiant hapchwarae ac yn benodol, materion yn ymwneud â gamblo cymhellol.
Mae’n amlwg o’r holl gyfraniadau a gawsom yn y ddadl heddiw—ac yn y Siambr yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ddiweddar hefyd, ac ar adegau eraill—ein bod yn cytuno bod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ac ar draws y portffolios. Ac mae’n amlwg nad yw’n fater y gall y GIG fynd i’r afael ag ef ar eu pen eu hunain. Rydym yn cydnabod bod yna gyfle gwirioneddol i feysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus, fel addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector, fabwysiadu rôl arweiniol yn helpu i leihau nifer y bobl sy’n dioddef o gamblo cymhellol. Mae potensial gwirioneddol gan ddull aml-bartner o’r fath i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a’i effaith ar iechyd pobl Cymru a’r gymdeithas yn ehangach. Ac fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wneud mwy y gall ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon ac i wneud y gorau o’r gwahanol opsiynau sydd ganddi at ei defnydd i fynd i’r afael â phroblem gamblo cymhellol. Diolch.