<p>Datblygu Economaidd yng Ngorllewin Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:38, 19 Gorffennaf 2017

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod maes cyhoeddi llyfrau yn bwysig iawn yng ngorllewin Cymru yn ogystal, ac rwy’n datgan buddiant, fel sydd yn y gofrestr, gan fod fy ngwraig a fy nith yn gweithio yn y maes yma. Hoffwn ofyn iddo am y maes cyhoeddi, ond gan ddechrau trwy dalu teyrnged, os caf fi, i Tony Bianchi—gŵr a fu farw tua thair wythnos yn ôl. Gŵr o Newcastle a ddysgodd Gymraeg ac a drodd yn llenor o fri yn yr iaith Gymraeg, a hyrwyddodd lenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru, a phroffesiynoleiddio’r grefft hefyd.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae ganddo, wrth gwrs, adroddiad gan yr Athro Medwin Hughes, sydd wedi creu tipyn bach o gur pen iddo fe o bryd i’w gilydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hoffwn i ddiolch iddo fe am y ffordd y mae wedi ymateb i’r adroddiad a’r ffordd y mae wedi dod â phawb at ei gilydd i gytuno ffordd ymlaen. A gaf fi ofyn iddo fe yn benodol a wnaiff e wneud yn siŵr, gan ein bod ni mewn sefyllfa lle mae pobl sydd yn cael eu gweld yn cael eu heffeithio’n ddrwg gan yr adroddiad ar hyn o bryd yn codi eu lleisiau, y bydd hefyd yn gwrando ar y bobl hynny sydd efallai yn fwy tawel ar hyn o bryd ond sydd eisiau gweithio gydag ef, a phawb yn y maes, i sicrhau dyfodol ffyniannus i gyhoeddi yng Nghymru?