Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am ei gwestiwn? Mae Simon yn gwneud pwynt pwysig y dylai pob un ohonom ymddwyn yn gyfrifol ac yn deg wrth ymateb i adroddiad o’r math hwn. A gaf fi hefyd dalu teyrnged i Tony Bianchi a’r gwaith anhygoel a gynhyrchwyd ganddo a’i ymrwymiad i lenyddiaeth Cymru? Bydd yn chwith ar ei ôl, rwy’n siŵr, nid yn unig yn etholaeth a rhanbarth fy nghyd-Aelod, ond ledled y wlad a thu hwnt o ystyried pa mor bellgyrhaeddol oedd ei waith. Mewn perthynas â chyhoeddi, credaf fod yr adroddiad wedi’i gynllunio i gryfhau llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru. Nawr ei fod wedi’i gynhyrchu, credaf ei bod yn bwysig i’r holl gyrff cyfrannog gydweithio i sicrhau bod pob corff cyfrannog yn cryfhau yn eu meysydd eu hunain, ac yn darparu’r hyn y maent wedi bod yn ei ddarparu’n dda hyd yma hyd yn oed yn well. Cyngor y celfyddydau, Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru—mae pob un ohonynt wedi darparu digwyddiadau, gwasanaethau a gweithgareddau godidog, ac yn gwneud llawer iawn i hyrwyddo cyhoeddi. Rwy’n awyddus i sicrhau bod y cyrff hyn yn parhau i gryfhau a ffynnu yn y dyfodol.