Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Ar gyfer y cofnod, mae’r Aelodau’n holi hydref pa flwyddyn rydym yn sôn amdani. Felly, efallai yr hoffai Ysgrifennydd y Cabinet gofnodi hynny. Nawr, efallai mai un o’r rhesymau dros yr oedi yw oherwydd eich bod wedi gorfod ailysgrifennu’r strategaeth ar ôl canlyniadau eich penderfyniad ynglŷn â Cylchffordd Cymru. Nawr, ar 27 Mehefin, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrth y Cynulliad na allech gael ateb pendant gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar fater y fantolen hyd nes bod y contractau wedi cael eu llofnodi. Roedd perygl y gallech, fisoedd lawer yn ddiweddarach, fod â phrosiect ar y fantolen gyda’r holl oblygiadau a fyddai’n deillio o hynny. Rydych bellach wedi cyfaddef i mi mewn ateb ysgrifenedig fod dewis arall: gallech fod wedi gofyn am ddyfarniad dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Pam na wnaethoch chi hynny?